Prifysgol yn gofyn am farn y gymuned am ei darpariaeth gerdd
Dr Anwen Jones
04 Tachwedd 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gofyn i’r cyhoedd fynegi eu barn ar ei darpariaeth gerdd, wrth iddi edrych i ledaenu’r buddion i’r gymuned leol.
Mae cyfraniad cerddorol y Brifysgol yn dyddio yn ôl i’w dyddiau cynnar yn 19eg ganrif. Ym 1895, cyfansoddodd Yr Athro Anwyl a'r Athro Ainsworth Davies 'Cân y Coleg' i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ers ymhell dros ganrif, mae’r Brifysgol wedi cynnig llwyfan i berfformiadau yn yr Hen Goleg ar lan y môr yn Aberystwyth, sydd yn awr wrthi’n cael ei ailwampio. Ynghyd â darpariaeth yng Nghanolfan y Celfyddydau ar gampws Penglais, mae’n cynnig ysgoloriaethau cerddorol a rhaglen lawn o gyfleoedd i fwynhau ystod o eang cerddoriaeth mewn lleoliadau amrywiol ar draws Aberystwyth.
Bydd y Brifysgol yn cynnal arolwg ar-lein am ei darpariaeth gerdd tan 26 Tachwedd. Caiff canlyniadau’r arolwg eu defnyddio er mwyn llunio datganiad gweledigaeth cyn cynnal trafodaethau pellach mewn nifer o gyfarfodydd rhithiol.
Daw’r ymgynghoriad wrth i’r Brifysgol gynllunio penodi arweinydd newydd ar gyfer ei darpariaeth gerddorol dros y misoedd i ddod, fel rhan o’i hymrwymiad i gynnal ei lefelau presennol o fuddsoddiad. Tan yn ddiweddar, arweiniwyd y ddarpariaeth gerdd gan Dr David Russell Hulme, a ymddeolodd yn gynharach eleni.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, meddai Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Os ydych naill ai’n gerddor neu’n rhywun sydd yn caru cerddoriaeth o bob math, rydym am glywed gennych chi. Mae cerddoriaeth wrth wraidd ein dathliad o fywyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yn y Gymru gyfoes, ac yn hanesyddol. Â hithau wedi'i lleoli wrth galon y genedl, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad allweddol i draddodiad hir a balch Cymru o greu cerddoriaeth. Mae buddsoddiad parhaol y Brifysgol yn ei darpariaeth gerddorol yn tystio i'w hymroddiad iddi. Mae’r ymrwymiad a’r buddsoddiad hwnnw yn parhau, a hoffem wahodd pobl i ddweud eu dweud wrth inni lunio darpariaeth y dyfodol.
“Rydym yn edrych y tu hwnt i'r Coronafeirws tuag at oes newydd a fydd yn fwrlwm o greu cerddoriaeth, gwrando arni a meithrin cysylltiadau cerddorol. Rydym am ddarparu profiad cerddorol amrywiol ac eangfrydig, fydd yn lledaenu buddion cerddoriaeth i gymaint o’n cymuned ag sy’n bosibl; gan feithrin ein cyswllt drachefn â'n cynulleidfaoedd a'n cyfranogwyr presennol, ond gan fentro hefyd ar daith newydd a chyffrous.
“Rhan ganolog o genhadaeth y ddarpariaeth gerddorol yw cynnal y ddeinameg gyffrous gydweithredol o weithio sydd wrth galon y berthynas unigryw rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach yn Aberystwyth. Rydym yn barod i ymroi i ddulliau, moddau a methodolegau cerddorol newydd, gan agor tirweddau newydd. Bydd hyn yn digwydd o dan arweiniad newydd dros y flwyddyn nesaf wrth i ni edrych i benodi arweinydd a fydd yn dod â syniadau ac arbenigedd penodol, a hefyd yn hwyluso'r strategaeth a fydd yn seiliedig ar adborth ein cymunedau.”
Mae arolwg ar-lein y Brifysgol ar gael drwy fynd i: https://www.aber.ac.uk/cy/music/shapethefuture/