Covid-19 a gweithredu gwirfoddol - bydd ymchwil newydd yn edrych ar wersi a ddysgwyd ac argymhellion ar gyfer adferiad y

Rhys Dafydd Jones

Rhys Dafydd Jones

03 Tachwedd 2020

Bydd arbenigwyr o’r byd academaidd a’r sector wirfoddol yn cynnal prosiect ymchwil mawr yn edrych ar swyddogaeth gweithredu gwirfoddol yn ystod pandemig Covid-19 - archwilio’r heriau, yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a gwneud argymhellion i gynorthwyo cynllunio ar gyfer argyfyngau’r dyfodol.

Bydd yr ymchwil yn cymharu’r ymateb gwirfoddoli ym mhob un o bedair gwlad y DU, gan rannu enghreifftiau cadarnhaol gyda’r nod o lunio polisi’r dyfodol a chefnogi’r adferiad economaidd a chymdeithasol.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a phum prifysgol arall yn y DU ynghyd â chynrychiolwyr o amryw o sefydliadau gwirfoddol, gan gynnwys y cyrff isadeiledd sector wirfoddol allweddol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae bron i £420,000 wedi ei ddyfarnu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rhan o gorff Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), yn dilyn galwad sydyn am brosiectau sy’n cyfrannu at ein dealltwriaeth o, a’n hymateb i, bandemig Covid-19 a’i effeithiau.

Bydd Rhys Dafydd Jones, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio gyda thimau ymchwil o Brifysgol Northumbria, Prifysgol East Anglia, Prifysgol Caint, Prifysgol Essex a Phrifysgol Stirling.

 

Bydd cynrychiolwyr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), Volunteer Scotland, Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO), a Volunteer Now Gogledd Iwerddon yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion, gan gynnig mewnwelediad i’r tueddiadau gwirfoddoli a phrofiadau ar draws y pedair cenedl.

Dywedodd Rhys Dafydd Jones o Brifysgol Aberystwyth:

“Nid yn unig bod y pandemig wedi ymyrryd â’n bywydau unigol oll, ond hefyd ein cysylltiadau hirhoedlog a’r dealltwriaethau rhwng gweithredu gwirfoddol a llywodraethau ar eu gwahanol lefelau.

“Bydd y prosiect hwn yn ein cynorthwyo er mwyn deall y darlun newydd sy’n datblygu ynghyd â chynorthwyo’r ymdrech dorfol er mwyn gwella’n genedlaethol.”

Ychwanegodd yr Athro Irene Hardhill o Brifysgol Northumbria: “Yn ystod y pandemig rydym wedi gweld gweithredu gwirfoddol yn camu mewn ac yn camu i fyny i’r angen dybryd, a hynny fel yr ymateb cyntaf.

“Mae’r sector wedi addasu’n gyflym gan sefydlu cysylltiadau newydd rhwng gweithredu gwirfoddol a’r wladwriaeth, gan greu ‘partneriaeth o anghenraid’ newydd.

“Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu dyfodol ansicr ond mae cyflawni lles cymdeithasol, gyda’r wladwriaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector wirfoddol, yn hanfodol er mwyn i ni ddod drwy hyn fel gwlad.”

Bydd rhan gyntaf y prosiect, a enwir ‘Ysgogi Gweithredu Gwirfoddol ym mhedair awdurdodaeth y DU: Dysgu o heddiw, barod am yfory’ yn golygu ymchwilio i ba mor barod fu pob un o’r pedair gwlad cyn dyfodiad y pandemig. Yn ogystal, bydd y prosiect yn edrych ar ba rôl chwaraeodd gweithredoedd a sefydliadau gwirfoddol ynghyd â gwirfoddolwyr yn y cynlluniau parodrwydd hyn.

Wedyn, bydd y tîm yn ymchwilio i effaith Covid-19 ar wirfoddolwyr a gwirfoddoli, o orfod atal gweithgareddau wyneb yn wyneb, cyflawni prosiectau mewn ffyrdd newydd, i ffurfiau newydd o weithredu gwirfoddol yn datblygu, er enghraifft drwy ysgogi gweithredu gwirfoddol drwy lwyfannau ar-lein a hunangymorth cymunedol.

Unwaith bod y dystiolaeth wedi ei chasglu caiff ei dadansoddi, gyda’r canlyniadau yn cael eu cyflwyno mewn cyfres o sesiynau briffio i lywodraethau’r pedair gwlad.