Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi Prifysgol Aberystwyth

16 Hydref 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad at y Gymraeg. 

Yn dilyn gohirio’r achlysur ym mis Mawrth o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, cyhoeddwyd mai enillwyr Gwobrau Gŵyl Dewi 2020 Prifysgol Aberystwyth yw Sarah Whitehead, Dafydd Rhys, Fiona Reynolds, Heledd Davies a Rhian Williams wedi iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol.  

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, roedd y pum enillydd wedi’u dewis ar gyfer gwobrau canlynol: 

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Sarah Whitehead
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Dafydd Rhys a Fiona Reynolds
  • Astudio Trwy’r Gymraeg – Heledd Davies
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Rhian Williams

Bydd pob un o’r enillwyr yn derbyn englyn personol gan Eurig Salisbury, bardd a darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.  

 

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol: “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi dod i’r brig ac i’r rhai sydd wedi derbyn clod arbennig am eu hymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg.  Mae’n bleser gwirioneddol i gydnabod a dathlu cyfraniad arbennig pawb ac fe allwn ni i gyd gael ein hysbrydoli i wneud ymdrechion tebyg i arddel y Gymraeg ac annog a chefnogi ei defnydd”  

 

Yr Enillwyr  
Sarah Whitehead (Dysgwr Disglair):  Yn wreiddiol o Swydd Stafford, symudodd Sarah i Aberystwyth fel myfyrwraig yn y 90au gan glywed y Gymraeg am y tro cyntaf yn ystod wythnos y glas.  Wedi iddi raddio, cafodd swydd yn y Brifysgol a dechreuodd ddysgu Cymraeg gan sefyll arholiad TGAU.  Bellach yn Ddirprwy Gofrestrydd Derbyn Myfyrwyr, Y Gofrestrfa Academaidd yn y Brifysgol, yn dilyn saib, ail ddechreuodd fynychu Gwersi Cymraeg gan gofrestru ar gwrs Cymraeg Gwaith ar gyfer staff y Brifysgol. Bellach mae ei gŵr, Mark wedi dechrau dysgu Cymraeg ac mae’n awyddus i newid iaith y cartref i’w plant sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.  

 

Dafydd Rhys a Fiona Reynolds (Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle): Mae Dafydd yn Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau ers 2017. Yn wreiddiol o Lanelli, mae’n  awyddus iawn i wneud cyfraniad i gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg.Mae Dafydd a’r tîm am i Ganolfan y Celfyddydau adlewyrchu’r gymuned ac wedi bod yn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y Ganolfan gan gynyddu nifer y digwyddiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n ymwybodol iawn fod yna ddiffyg hyder gan rai yn eu Cymraeg ac mae’n awyddus i ddatblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith a hamdden a bod angen gwneud hynny mewn modd hwyliog a chefnogol. 

 

Mae’n ennill y wobr ar y cyd gyda Fiona Reynolds. Yn wreiddiol o’r Bermo, cefndir di Gymraeg sydd gan Fiona.  Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym mlwyddyn 6 yn yr Ysgol Gynradd cyn symud i’r Ysgol Uwchradd a chwblhau arholiad TGAU Cymraeg ail iaith.  Symudodd i Loegr pan yn 25 oed ac ni chafodd y cyfle i siarad Cymraeg nes symud yn ôl i Gymru yn 2010.  Dechreuodd weithio fel Uwch Oruchwylydd Arlwyo yng Nghanolfan y Celfyddydau yn 2016 gan ddechrau mynychu dosbarth Cymraeg Gwaith gyda’r bwriad o wella ei Chymraeg i sgwrsio gydag aelodau o’r teulu a gyda chwsmeriaid ac ymwelwyr sy’n mynychu’r Ganolfan.  Mae’n falch iawn o fod yn Gymraes ac yn teimlo ei bod yn bwysig siarad yr iaith yn y gymuned, gyda ffrindiau a chydweithwyr.

 

Heledd Davies(Astudio Trwy’r Gymraeg): Myfyrwraig yn Adran y Gyfraith a Throseddeg yw Heledd yn astudio Troseddeg a Seicoleg Gymhwysol. Yn wreiddiol o’r Parc, Bala cwblhaodd ei haddysg Gynradd ac Uwchradd yn y Gymraeg.  Penderfynodd ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth oherwydd mai’r Gymraeg yw ei hiaith gyntaf.  Roedd hefyd yn teimlo’n yn fwy hyderus a chyfforddus i astudio drwy’r Gymraeg.  Mae’r Gymraeg yn holl bwysig i Heledd ac mae’n awyddus i gael gyrfa yn cynorthwyo a chefnogi eraill yn y Gymraeg.     

  

Rhian Williams (Pencampwr y Gymraeg): Yn wreiddiol o gartrefddwyieithog ger y Trallwng, mae Rhian newydd gwblhau ei chwrs gradd yn astudio Daearyddiaeth. Penderfynodd fynychu’r Brifysgol yn Aberystwyth oherwydd y Gymraeg a’r cyfle i fyw mewn ardal Gymreig ac astudio ei phwnc yn y Gymraeg. Yn ogystal ag ennill Ysgoloriaeth Cymhelliant Coleg Cymraeg, mae’r amryw gyfleoedd mae wedi ymgymryd â hwy yn y Gymraeg wedi arwain at gael ei hethol yn llysgennad i’r Brifysgol, i’r Adran ac i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol gan ymweld ag ysgolion i hybu a hyrwyddo Daearyddiaeth.  Yn dilyn cwblhau cwrs ymarfer dysgu yng Nghaerdydd, mae Rhian yn awyddus i gael gyrfa ddysgu yng Nghymru. 

 

Yn ogystal â dyfarnu enillwyr y gwobrau, cyflwynwyd Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig gan y panel i’r staff canlynol yn y Brifysgol sef Kate Wright, Alice Farnworth, Scott Tompsett, Jaya Mukhopadhyay, Jackie Sayce, Joe Smith a Rachel Rees am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.