Adroddiad gwyddonol yn tynnu sylw at heriau cyrraedd targedau di-garbon net y DU ar gyfer da byw
02 Hydref 2020
Mae adroddiad annibynnol sy'n asesu dwysedd carbon holl systemau cynhyrchu da byw'r DU wedi nodi na all technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd gyrraedd hyd yn oed hanner targed y diwydiant ar gyfer lleihau allyriadau carbon erbyn 2050.
Comisiynwyd yr adroddiad ‘Net Zero Carbon & UK Livestock' gan CIEL (Canolfan Rhagoriaeth Arloesedd mewn Da Byw), ac fe’i hysgrifennwyd gan wyddonwyr amgylcheddol, hinsawdd a da byw o wyth sefydliad ymchwil o fri yn y DU a’i gymeradwyo gan chwech arall yn cynnwys Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Caiff ei ddefnyddio i lywio'r drafodaeth am newid hinsawdd a'r rôl y gall da byw ei chwarae er mwyn lleihau allyriadau sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
"Mae'r adroddiad yn grynodeb sydd wedi ennyn cymeradwyaeth eang o'r ymchwil gyfredol sydd ar gael ar allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r prif rywogaethau da byw a gaiff ei ffermio yn y DU - gyda dehongliad a nifer o argymhellion gan wyddonwyr amlwg ym maes da byw, yr amgylchedd a’r hinsawdd," meddai Lyndsay Chapman, Prif Weithredwr CIEL.
"Roeddem am i'r adroddiad adolygu gwybodaeth gyfredol a nodi meysydd lle mae bylchau yn ein gallu i fesur neu gyflawni'r gostyngiadau targed mewn allyriadau a bennwyd ar gyfer amaethyddiaeth yn y DU. Roeddem hefyd am ddarparu meincnodau ar gyfer ôl troed carbon da byw fferm, mannau lle mae'r allyriadau mwyaf yn digwydd a lle mae cyfleoedd i ganolbwyntio ymdrechion yn y dyfodol ar leihau allyriadau."
Yr angen am arloesedd
Pwysleisio mae'r gwyddonydd arweiniol, yr Athro Bob Rees o Goleg Gwledig yr Alban (SRUC), yr angen am ddatblygiadau arloesol newydd i leihau allyriadau ymhellach y tu hwnt i'r lefelau y bydd strategaethau lliniaru hysbys ar hyn o bryd yn eu cyrraedd.
"Hyd yn oed pe bai'r holl ddulliau hysbys ar gyfer lliniaru allyriadau carbon yn cael eu rhoi ar waith ar fyrder, mae'r adroddiad yn dangos mai dim ond 19% o'r targed uchelgeisiol o leihau allyriadau carbon y gallai'r diwydiant ei gyflawni erbyn 2035. Mae hyn yn tynnu sylw at yr angen dybryd i ddatblygu technolegau a datblygiadau arloesol newydd i fynd i'r afael â'r mater hollbwysig hwn," meddai.
"Mae ffermio da byw yn rhan annatod o amaethyddiaeth y DU, ein tirwedd a'n systemau bwyd, ond mae'n system gymhleth sy'n cynnwys llifau carbon, nitrogen, dŵr a nwyon atmosfferig.
"Er mwyn helpu i gydbwyso'r lleihad mewn allyriadau â chynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd uchel, mae angen cyfuniad o strategaethau. Rhaid i'r rhain ystyried holl agweddau amaethyddiaeth gynaliadwy gan gynnwys effeithlonrwydd carbon, iechyd pridd, iechyd a lles anifeiliaid, a llawer mwy. Ac ar gyfer hynny, mae angen mwy o arloesi, cydweithredu a mabwysiadu eang arnom," ychwanegodd.
Galw am weithredu
Cydlynwyd yr adroddiad gan Dr Elizabeth Magowan o'r Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI), ac mae'n dweud mai'r bwriad yw ei ddefnyddio fel llinell sylfaen i ysgogi newid drwy'r gadwyn cyflenwi da byw.
"Dylai'r adroddiad gael ei ddefnyddio gan bob parti yn y gadwyn gyflenwi ehangach a llunwyr polisi i lywio trafodaeth ac ategu'r gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud mewn mannau eraill yn y sector.
"Mae'n alwad i weithredu. Er bod y diwydiant yn cymryd camau i'r cyfeiriad iawn, mae'r uchelgais i gyrraedd targed y DU yn enfawr ac ni all technolegau ac arferion hysbys ateb yr holl ofynion. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod angen cyfuniad o fuddsoddiad ychwanegol (adnoddau, cyfalaf deallusol ac ariannol), cyfrifo carbon gwell ac addysg sy'n arwain at fabwysiadu, er mwyn i ddiwydiant da byw'r DU gyflawni ei nod di-garbon net o fewn y 30 mlynedd nesaf," meddai.
Dywedodd yr Athro Alison Kingston-Smith, Cyfarwyddwr Ymchwil Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae gwyddonwyr yn IBERS wedi ymrwymo i hyrwyddo cynaliadwyedd cynhyrchu bwyd, a chefnogi ffermio yng Nghymru a'r DU drwy ymchwil. Yn allweddol i hyn mae’r angen i ddeall sut y gall gwella systemau bwydo a phorthiant gyfrannu at ostwng effaith da byw ar yr amgylchedd ac mae'r adroddiad hwn yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r drafodaeth ar sut mae cyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon."