Prifysgol Aberystwyth i ail-gychwyn dysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf
30 Medi 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn ail-gychwyn dysgu wyneb yn wyneb yr wythnos nesaf.
Mae’r penderfyniad wedi derbyn cymeradwyaeth partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol fel rhan o drafodaeth ffurfiol am y cynnydd diweddar mewn achosion yng Ngheredigion.
Ar y penwythnos, cyhoeddwyd y byddai dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei ohirio dros dro am wythnos gyntaf y tymor dysgu. Daeth y penderfyniad oherwydd ansicrwydd ynghylch i ba raddau y mae’r feirws wedi lledaenu yn y gymuned dros y penwythnos. Yn y cyfamser, mae’r dysgu wedi bod ar-lein yn unig.
Yn unol â phenderfyniadau a wnaethpwyd wrth drafod gyda phartneriaid heddiw, bydd y Brifysgol yn cyflwyno rhywfaint o weithgareddau ôl-raddedig wyneb yn wyneb yr wythnos hon, cyn ail-gychwyn dysgu israddedig yr wythnos nesaf yn unol â’r mesurau diogelwch llawn yr oedd wedi cael eu cynllunio. Bydd dysgu ar-lein yn parhau’r wythnos hon yn ogystal.
Wrth gyhoeddi bod dysgu wyneb yn wyneb yn ail-gychwyn yr wythnos nesaf, mae’r Is-Ganghellor Yr Athro Elizabeth Treasure wedi atgoffa myfyrwyr bod angen iddynt gadw at ganllawiau’r llywodraeth er mwyn atal lledaeniad y feirws.
Meddai’r Athro Treasure: “Rwy’n hynod o falch o dderbyn cefnogaeth unfrydol ein holl bartneriaid i gyflwyno dysgu wyneb yn wyneb ar y campws yn unol â’r cynlluniau manwl yr oedden ni wedi’u gwneud. Mae’n newyddion ardderchog i ni a’n myfyrwyr. Byddwn ni’n parhau i sicrhau mai diogelwch ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned ehangach yw ein blaenoriaeth, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y ffordd mae partneriaid lleol, rhanbarthol a cenedlaethol wedi gweithio’n gyflym gyda ni er mwyn adnabod y peth gorau i’n myfyrwyr eu gwneud ar hyn o bryd yw cymryd rhan yn llawn yn eu gweithgareddau dysgu.
“Er bod y mesurau yr ydym yn eu cymryd ar y campws wedi derbyn cefnogaeth lawn, mae’n rhaid i ni barhau i bwysleisio ar bawb na ddylen nhw gymryd hwn fel arwydd bod bywyd yn mynd i barhau yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno. Ni all. Rydyn ni wedi pwysleisio’n barhaus wrth ein myfyrwyr a’n staff sut mae angen iddynt addasu yn unol â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Rwy’n diolch i’r rheini sydd wedi dilyn y gofynion hyn yn ffyddlon, ac yn apelio at y rheini nad ydynt wedi cadw at y rheolau i newid eu hymddygiad. Mae Covid-19 yn cylchredeg yn ein cymuned, a dim ond drwy weithio gyda’n gilydd er budd pawb y bydd modd atal ei effeithiau niweidiol.
“Rydym yn cydnabod ei bod yn amser anodd a digynsail i fyfyrwyr, ac mae gennym ystod o wasanaethau cymorth ar gael i’w cynorthwyo. Mae’n rhaid i barhau i flaenoriaethu iechyd a lles ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned ehangach yma yn Aberystwyth. Yn hynny o beth, mae’n hanfodol bwysig bod pob un ohonom yn cadw at ganllawiau’r Llywodraeth. Mae angen cyfyngiadau ac ataliad ar weithgareddau cymdeithasol yn benodol - mae’n rhaid i bob myfyriwr aros gyda'u haelwyd myfyrwyr a pheidio â chymysgu gydag aelwydydd eraill mewn cyd-destun cymdeithasol.”
Mae’r penderfyniad yn dilyn trafodaethau a chydweithio agos rhwng partneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Ceredigion.
Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Ceredigion: “Rydym yn falch bod addysgu wyneb yn wyneb yn gallu dechrau o ddydd Llun, 5 Hydref 2020 wedi ei gefnogi gan y mesurau rheoli llym mae’r Brifysgol wedi rhoi yn eu lle. Y flaenoriaeth i ni yw cefnogi cyflwyno dysgu wyneb yn wyneb ond rydym yn erfyn ar yr holl fyfyrwyr i hunanynysu os ydyn nhw wedi derbyn canlyniad prawf positif, gydag unrhyw symptomau, neu wedi eu hadnabod fel cyswllt. Hefyd, mae angen cyfyngu ar gyswllt cymdeithasol cymaint ag sy’n bosibl er mwyn gwarchod ei gilydd a’n cymunedau, rydym yn erfyn ar fyfyrwyr i aros o fewn eu haelwydydd myfyrwyr. Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson dros y dyddiau nesaf.”