Prawf wrin syml drwy’r post yn cofnodi’r hyn mae pobl yn ei fwyta, ei yfed a'i ysmygu
Mae Dr Manfred Backmann, yr Athro John Draper a Dr Amanda Lloyd yn rhan o’r tîm yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddatblygu prawf wrin sympl sy’n gallu adnabod dros 50 math o fwyd gwahanol.
29 Medi 2020
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Aberystwyth, Newcastle ac Imperial College wedi datblygu prawf wrin chwyldroadol sy’n gallu adnabod yn gywir dros 50 o wahanol fathau o fwydydd yn neiet unigolyn.
Gall y prawf hefyd ganfod lefelau alcohol a nicotin, gan gynnwys e-sigarennau.
Mae'n gweithio trwy fesur cemegolion o’r enw biomarcwyr a geir mewn wrin, ac a gaiff eu creu naill ai wrth i fwydydd unigol gael eu treulio neu wrth i nicotin neu alcohol ymddatod yn y corff.
Golyga’r prawf y gall clinigwyr wirio ansawdd diet claf heb ddibynnu ar unigolion i gadw cofnod cywir o’r hyn maen nhw wedi'i fwyta.
Ymhlith y bwydydd a dargedir ar hyn o bryd y mae cig coch, cyw iâr, pysgod, caws, ffrwythau, llysiau, grawn cyflawn a chodlysiau sy’n cael eu rhestru yn y Canllaw Bwyta’n Dda, a ddefnyddir gan lywodraethau a sefydliadau iechyd ym Mhrydain.
Gall y prawf hefyd fesur bwydydd na ddylid bwyta gormod ohonynt fel siocled a losin llawn siwgr, nwyddau wedi'u pobi, coffi, diodydd meddal wedi'u melysu'n artiffisial a / neu’n cynnwys caffein, yn ogystal â rhoi syniad cyffredinol o faint o brotein mae rhywun wedi'i fwyta.
Datblygwyd y prawf labordy gwreiddiol yn brototeip ar gyfer treialon clinigol gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Newcastle a Choleg Imperial Llundain mewn prosiect a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Meddygol.
Dan arweiniad yr Athro John Draper, mae’r tîm yn Athrofa’r Gwyddorau Amgylcheddol, Biolegol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach wedi ehangu’r prawf er mwyn gallu mesur ar yr un pryd dros 50 o fiomarcwyr ar gyfer bwydydd penodol yn ogystal ag ar gyfer ysmygu sigarennau ac e-sigarennau, ac yfed alcohol.
Cyhoeddwyd canfyddiadau’r tîm yn y cyfnodolyn Molecular Nutrition and Food Research (28 Medi 2020: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1002/mnfr.202000517).
Dywedodd yr Athro John Draper: “Mae dietau modern mor gymhleth, ac mae nifer o bobl yn aml yn bwyta prydau bwyd nad ydyn nhw wedi’u paratoi eu hunain. Mae miloedd o fwydydd gwahanol ar gael ar silffoedd archfarchnadoedd ac nid yw'n syndod bod y mwyafrif o bobl yn ei chael hi'n anodd i gadw cofnod cywir o’r hyn maen nhw'n ei fwyta.
“Mae defnyddio biomarcwyr sy’n adnabod bwydydd i fesur elfennau deietegol allweddol yn dileu tipyn o’r gwaith dyfalu. Rydyn ni hefyd wedi dangos sut mae modd defnyddio dadansoddiad wrin i ddeall beth mae pobl yn ei fwyta o dan amodau ‘byd go iawn’ ac i gael samplau wrin gan bobl sy’n byw eu bywydau arferol.”
Gellid defnyddio’r prawf ar gyfer pobl hŷn gan fod diffyg protein digonol yn eu diet yn aml, ar gyfer cleifion sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth, neu ar gyfer unigolion sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes.
Ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol, gellid defnyddio'r prawf i ategu cynlluniau gwella iechyd a monitro diet, yn ogystal a mesur arferion ysmygu ac yfed.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl yn aml yn cofnodi eu diet eu hunain yn anghywir, gan dan-gofnodi bwyd afiach a gor-ddweud faint o ffrwythau a llysiau maen nhw’n eu bwyta. Mae’r tebygolrwydd o gam-gofnodi’n cynyddu os yw unigolyn dros eu pwysau neu'n or-dew.
Ychwanegodd yr Athro John Mathers o Brifysgol Newcastle: “Bydd y canfyddiadau yma’n ei gwneud hi’n haws, ac yn llai costus, i gasglu data da ar yr hyn mae pobl yn ei fwyat heb fod angen holiaduron neu ddyddiaduron llafurus sy’n cymryd amser i’w llewni. Bydd rhoi’r canfyddiadau hyn ar waith yn ein helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng bwyd ac iechyd, ac i ddatblygu cyngor gwell i’r cyhoedd ar fwyta’n iach.”
Cynhaliwyd astudiaeth i ddangos y prawf ar waith ar gyfer rhaglen ddogfen deledu The Great British Urine Test, a ddarlledwyd ar Sianel 5 ym mis Mawrth 2020.
Dan ofal Tîm Ymchwil Deiet ac Iechyd yn IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, nod yr astudiaeth oedd defnyddio biomarcwyr wrin i ymchwilio i arferion bwyta, ysmygu ac yfed o safbwynt y boblogaeth a’r unigolyn.
Samplau wrin yn y post
Mewn datblygiad pellach a gefnogwyd gan Athrofa Technoleg Ewrop (EIT-Health), mae'r timau yn Aberystwyth a Newcastle wedi bod yn gweithio gyda chwmni Shuttlepac sy’n arbenigo ar gynhyrchu deunydd lapio pwrpasol ar gyfer samplau clinigol. Maen nhw wedi datblygu pecyn diagnostig a chludo sy’n gallu cynnal safon y sampl wrin heb iddo fod mewn oergell ac sy’n gallu cael ei bostio trwy flwch llythyrau maint arferol ym Mhrydain.
Mae'r datblygiad yn ei gwneud hi'n hawdd i'r prawf gael ei ddefnyddio naill ai yn y cartref neu mewn lleoliad cymunedol.
Mae hefyd yn ymestyn yn sylweddol y cwmpas ar gyfer sgrinio arferion bwyta ar draws grwpiau mawr, heb yr angen i fynd at feddyg teulu neu glinig ysbyty i roi sampl.
Ar hyn o bryd mae'r dechnoleg yn cael ei threialu mewn sawl canolfan ymchwil i olrhain diet grwpiau o unigolion bregus lle mae problemau maethol yn gyffredin.