Gwyddonwyr yn dod o hyd i wendidau paraseit marwol
25 Medi 2020
Mae gwyddonwyr wedi datgelu gwendidau posibl ym mioleg parasit a allai arwain at driniaethau newydd ar gyfer clefyd trofannol sy'n lladd hyd at 250,000 o bobl bob blwyddyn.
Mae schistosomiasis yn effeithio ar 240 miliwn o bobl ledled y byd ac yn cael ei achosi gan lyngyren ledol parasitig o'r enw schistosoma.
Plant yn Affrica, Asia a De America yn bennaf sy’n cael eu heffeithio gan schistosomiasis, sydd yn arwain at organau’n methu neu ganser sydd wedi ei achosir gan y paraseit.
Gall symptomau hir-dymor yr haint cronig hefyd rwystro pobl rhag byw bywydau cynhyrchiol.
Mae astudiaeth newydd i fioleg sylfaenol schistosomau a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science ddydd Iau 24 Medi wedi nodi gwendidau a allai arwain at driniaethau newydd.
Arweiniwyd y gwaith gan dîm Dr James Collins IIIydd ym Mhrifysgol Texas Southwestern (UTSW) gyda grŵp Dr Matthew Berriman yn y Sefydliad Wellcome Sanger yn cynnig cefnogaeth genom a’r Athro Karl Hoffmann a Dr Gilda Padalino ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu arbrofion dilysu allweddol.
Mae cylch bywyd y paraseit sy'n achosi'r afiechyd hwn yn un cymhleth ac yn cynnwys camau mewn malwod dŵr croyw a mamaliaid.
Tra’n byw mewn systemau cylchrediad gwaed mamaliaid, mae’r schistosomau’n bwydo ar waed ac yn dodwy nifer helaeth o wyau, â’r cyfan tra’n achosi amrywiaeth o symptomau gan gynnwys poen yn yr abdomen, dolur rhydd, ysgarthu gwaedlyd neu waed yn yr wrin.
Mae mwydod larfa yn cael eu rhyddhau o falwod i mewn i ddŵr, lle gall y llyngyr lledog heintio pobl drwy dreiddio drwy’r croen. Gall schistosomiasis ddod yn glefyd cronig sy'n effeithio ar yr unigolyn am flynyddoedd.
Dim ond un cyffur, praziquantel, sydd ar gael i drin y cyflwr hwn.
Fodd bynnag, nid yw'n lladd pob cam o gylch bywyd y shistosome o fewn mamaliaid, ac mae ei effeithlonrwydd wrth wella yn amrywiol mewn rhai lleoliadau endemig.
Ychydig o ddiddordeb sydd wedi bod gan gwmnïau fferyllol mewn datblygu cyffuriau newydd ar gyfer y clefyd hwn gan nad oes cymhelliant ariannol i wneud hynny.
O ganlyniad, cymharol ychydig o astudiaethau sydd wedi canolbwyntio ar ddeall bioleg sylfaenol y schistosomau, ac a allai ddatgelu gwendidau cynhenid a allai fod yn dargedau ar gyfer cyffuriau newydd.
I'r perwyl hwnnw, cychwynnodd Collins a'i gydweithwyr ar astudiaeth foleciwlaidd i ddeall yr organebau hyn yn well.
Yma, defnyddiodd yr ymchwilwyr genomeg swyddogaethol i nodweddu rôl tua 20 y cant o enynnau codio protein Schistosoma mansoni - cyfanswm o 2,216. Tan nawr, dim ond dyrnaid o enynnau yn yr organebau hyn a aseswyd yn y modd hwn.
Fel rhan o'r astudiaeth hon, roedd yr Athro Hoffmann a Dr Padalino yn gyfrifol am gadarnhau canfyddiadau RNAi a gynhyrchwyd gan eu cydweithwyr ym Mhrifysgol Texas Southwestern.
Defnyddiodd tîm Aberystwyth adnodd unigryw yn y DU a oedd yn cynnwys cylch bywyd S. mansoni a llwyfannau darganfod cyffuriau trwybwn uchel i gadarnhau pwysigrwydd proteinau allweddol sy'n gysylltiedig â bioleg y paraseit.
Mae'r wybodaeth hon bellach yn cael ei defnyddio er mwyn hwyluso’r gwaith o ddarganfod cyffuriau newydd i frwydro yn erbyn y clefyd.
Dywedodd yr Athro Hoffmann: “Ers dros 40 mlynedd, mae shistosomiasis wedi cael ei reoli’n bennaf gan un cyffur, praziquantel. Heb frechlyn ar y gorwel, mae angen inni ddod o hyd i gyffuriau newydd ar frys rhag ofn y bydd ymwrthedd praziquantel yn gafael. Am y tro cyntaf, gan ddefnyddio dulliau cyfuniadol ar gyfer nodweddu ymatebion genynnau ac ymatebion parasitiaid ar raddfa nad oedd yn gyraeddadwy o'r blaen, mae'r astudiaeth hon yn nodi sawl man cychwyn newydd ar gyfer cyflymu ein datblygiad o therapïau sydd eu hangen ar frys. Rydym yn hynod falch o gyfrannu at fenter iechyd cyhoeddus mor bwysig sy'n ceisio gwella bywydau miliynau o bobl sy'n byw yn y cymunedau tlotaf o ran adnoddau ar ein planed.”
Caiff y gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome.