Prifysgol i addysgu ar ei champws yn Llanbadarn fel rhan o addasiadau diogelwch COVID-19
22 Medi 2020
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn addysgu myfyrwyr ar ei champws yn Llanbadarn fel rhan o’i haddasiadau yn sgil y pandemig byd-eang.
Caiff yr adeiladau ar y campws yn Llanbadarn eu defnyddio er mwyn darparu mwy o ofod dysgu. Mae ystyriaethau diogelwch y Coronafeirws yn golygu bod y Brifysgol wedi cyfyngu ar nifer y myfyrwyr sy’n cael mynychu ystafelloedd dysgu ar yr un pryd, ac mae dysgu ar gampws Llanbadarn yn caniatáu cynnal mwy o sesiynau addysgu wyneb yn wyneb mewn grwpiau llai.
Mae’r cyhoeddiad yn rhan o becyn o fesurau mae’r Brifysgol wedi rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod ei gweithgareddau yn medru parhau mewn modd sy’n diogelu staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach. Yn ddiweddarach yn y mis, lansiodd Prifysgol Aberystwyth ‘Adduned Gymunedol’ sy’n nodi pum pwynt diogelwch, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb dan do ar ei safleoedd a chefnogi systemau profi ac olrhain cysylltiadau.
Meddai Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym  Mhrifysgol Aberystwyth:
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau lles a diogelwch ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Felly, ers sawl mis bellach mae ein staff o fewn y Brifysgol wedi bod yn addasu ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd fel eu bod yn barod am Covid. Ein nod yw darparu cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosibl yn ddiogel, gan ategu hynny gyda dysgu digidol.
“Wrth wneud y newidiadau hyn, rydym yn ffodus y gallwn ni elwa o rai o’r manteision unigryw sydd gennym yma yn Aberystwyth. Mae hyn yn cynnwys ein gallu i ddefnyddio ystod eang o adeiladau ychwanegol. Mae’r gofod sylweddol sydd gyda ni ar gampws Llanbadarn yn rhoi lle i ni allu cynnal mwy o sesiynau wyneb yn wyneb. Mae hyn yn caniatáu i ni flaenoriaethu diogelwch a hefyd cynnig profiad i fyfyrwyr yn Aberystwyth sydd mor debyg â phosibl i'r profiad ansawdd-uchel rydyn ni bob amser yn anelu at ei gyflawni.”
Ychwanegodd Yr Athro Woods:
“Mae’n holl drefniadau manwl wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr yr Undeb Myfyrwyr ynghyd â thrafodaethau gyda Chyngor Ceredigion, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar draws y DU.”