Treial tyfu cywarch ar gyfer defnydd posib mewn amaethyddiaeth yng Nghymru
29 Mehefin 2020
Mae ymchwil newydd ar botensial tyfu cywarch ar ffermydd Cymru at ddibenion diwydiannol ar y gweill ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r astudiaeth ragarweiniol yn edrych ar sut mae ystod o fathau'n perfformio o dan amodau lleol i brofi hyfywedd y cnwd hwn ar gyfer amaethyddiaeth yng ngorllewin Cymru.
Mae hadau cywarch diwydiannol yn darparu protein ac olew ac mae gan ei ffibr gymwysiadau yn amrywio o bapur, brethyn, rhannau ar gyfer y diwydiant modurol, hempcrete ar gyfer y diwydiant adeiladu, briciau ar gyfer tanwydd, a deunydd gwely ar gyfer anifeiliaid. Er gwaethaf camddealltwriaeth cyffredin, mae’r cywarch diwydiannol a dyfir yn y DU i gyd yn amrywogaethau gyda lefelau dibwys o’r sylwedd seicoweithredol THC.
Gyda chyllid Llywodraeth Cymru, mae plotiau prawf o 8 o wahanol fathau o gywarch yn cael eu plannu gan ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS).
Mae Dr Ana Winters yn arwain y prosiect a dywedodd:
“Mae'r mathau cywarch sy’n cael eu tyfu yma yn rhan o brosiect sy'n archwilio rôl bosibl y cnwd hwn mewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’r treial cnwd hwn yn bwriadu tyfu’r cywarch at ddibenion diwydiannol. Mae ganddo rinweddau amgylcheddol da, yn blanhigyn gwreiddio dwfn sy'n dda ar gyfer strwythur y pridd a sydd gyda gofynion isel am blaladdwyr a chwynladdwyr.”
Gellir drysu amrywogaethau canabis a dyfir fel cywarch gyda’r cyffur canabis, ond mae gwahaniaethau sylweddol: mae’r amrywogaethau cywarch diwydiannol a dyfir yn y DU heddiw â lefelau dibwys o sylwedd seicoweithredol.
Tyfir y cnwd cywarch diwydiannol hwn dan drwydded gan y Swyddfa Gartref. Mae proses drwyddedu hirhoedlog a llai manwl sydd wedi ei deilwra’n benodol ar gyfer tyfu cywarch ar gyfer hadau a ffibr at ddibenion diwydiannol.
Dywedodd Dr Ana Winters: “Mae’r fframwaith cefnogi sy’n cael ei ddarparu drwy drwydded y Swyddfa Gartref yn allweddol er mwyn cynnal treial ystyrlon, gan ei fod yn galluogi y tîm ymchwil yn IBERS yn Aberystwyth i dreialu’r twf a hyfywedd cywarch diwydiannol ar gyfer hadau a ffibr dros dri thymor tyfu.”
Cywarch yw un o'r cnydau dof hynaf yn y byd. Fe darddodd yng nghanol Asia ac mae olion brethyn cywarch sy'n dyddio'n ôl i 8000CC wedi'u darganfod yn y dwyrain canol. Fe'i ddefnyddiwyd yn hanesyddol i wneud papur a brethyn, ac oherwydd ei allu i wrthsefyll dŵr halen roedd yn ddeunydd o ddewis ar gyfer hwyliau, rhaffau a rigio ar gyfer llongau.
Ym 1533 gwnaeth Harri VIII hi'n orfodol i holl ffermwyr y DU dyfu cywarch i alluogi ehangu'r llynges. Bu dirywiad mewn poblogrwydd cywarch yn yr 20fed ganrif oherwydd dyfeisio deunyddiau amgen, a phryderon am ei rinweddau narcotig. Bu adfywiad dros dro iddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond dim ond yn y 1990au pan y datblygwyd mathau newydd o’r planhigyn yr ystyriwyd cywarch unwaith eto fel cnwd amaethyddol defnyddiol.
Wrth gloi, dywedodd Dr Ana Winters: “Rydym yn credu gall y cywarch ddod yn gnwd pwysig eto a chael ei ddefnyddio er mwyn darparu ystod o gynnyrch cynaliadwy. Ein nod tymor byr yw adnabod yr amrywogaethau hynny sy’n addas i’w tyfu yng Nghymru nawr, ond hefyd i ystyried sut gellir gwella yr amrywogaethau yn y dyfodol.”