Adroddiad newydd ar sut gall profiadau ffoaduriaid ifanc y 1930au helpu ceiswyr lloches heddiw
Mae adroddiad newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y gall profiadau plant wnaeth ffoi o'r Almaen Natsïaidd i Brydain yn y 1930au helpu i lywio a datblygu strategaethau ar gyfer cefnogi ffoaduriaid ifanc yng Nghymru heddiw.
18 Mehefin 2020
Gallai profiadau plant wnaeth ffoi o'r Almaen Natsïaidd i Brydain yn y 1930au hwyr helpu ffoaduriaid ifanc heddiw.
Mae adroddiad newydd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut y llwyddodd y plant yma i ymdopi ar ôl cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd a’u diwylliant, a sut wnaethon nhw addasu i fywyd ym Mhrydain.
Gan ddefnyddio tystiolaeth lafar, trawsgrifiadau o gyfweliadau, a ffynonellau hanesyddol eraill, mae Dr Andrea Hammel a'i thîm wedi astudio effaith profiadau niweidiol mewn plentyndod ar y 10,000 o blant Iddewig yn bennaf a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol a ffoi i’r DU, rhai fel rhan o gynllun achub y Kindertransport yn y 1930au.
Bydd eu canfyddiadau yn helpu i lywio a datblygu strategaethau ar gyfer darparu cefnogaeth gymdeithasol a seicolegol i ffoaduriaid ifanc yng Nghymru heddiw.
Caiff yr adroddiad Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a Phlant oedd yn Ffoaduriaid yn y 1930au yn y DU: Hanes yn Ffurfio'r Dyfodol ei lansio ddydd Iau 18 Mehefin yn ystod Wythnos Ffoaduriaid 2020. Mae’n cael ei noddi gan Ganolfan Cymorth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n datblygu ffyrdd o gefnogi fffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yn seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma.
Caiff canfyddiadau’r adroddiad eu cyflwyno hefyd i gyfarfod o Dasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches ar 25 Mehefin 2020.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt: “Rwy'n croesawu'r ymchwil hwn gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu o'r gorffennol, fel ein bod yn datblygu gwasanaethau sy'n cymryd trawma i ystyriaeth ac sy'n cefnogi'r rhai sy'n ceisio ailadeiladu eu bywydau yma. Rwyf am ddweud wrth ffoaduriaid sydd yma yng Nghymru heddiw bod Llywodraeth Cymru yma i sefyll gyda chi, i weithio gyda chi, i ddysgu oddi wrthych chi, wrth i ni ymroi o’r newydd i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud Cymru yn Genedl Noddfa, lle mae pobl o bob hil, ffydd a lliw yn cael eu gwerthfawrogi o ran eu cymeriad a'u gweithredoedd."
Dywedodd Dr Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Fe ddioddefodd nifer o ffoaduriaid ifanc y Kindertransport drawma sylweddol - gan brofi erledigaeth a bod yn dyst i drais yn eu mamwlad, gadael eu cartrefi, yn aml heb deulu, a theimlo ar goll ar ôl cyrraedd, heb sgiliau iaith na’r wybodaeth angenrheidiol am gymdeithas Brydeinig.
"Yn yr astudiaeth hon, rydym wedi nodi'r ffactorau amddiffynnol wnaeth eu helpu i ddatblygu cydnerthedd yn ystod y cyfnod heriol a ffurfiannol hwn yn eu bywydau. Ein nod yw darparu cyd-destun hanesyddol goleuedig a fydd yn cyfrannu at lunio polisi cyfoes ac yn llywio strategaethau cyfredol sy'n cael eu datblygu i gefnogi ceiswyr noddfa ifanc yng Nghymru heddiw."
Mae adroddiad Dr Hammel yn adeiladu ar adroddiad a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Chwefror 2020, yn nodi ystod o ffactorau sy'n hyrwyddo cydnerthedd.
Roedd y rhain yn cynnwys nodweddion unigol (y gallu i feddwl yn gadarnhaol), ffactorau teuluol (ymlyniad cadarnhaol) a ffactorau cymunedol (cyfeillgarwch, ysgol, adnoddau cymunedol da).
Mae astudiaeth Prifysgol wedi canolbwyntio ar bum agwedd ychwanegol a nodwyd fel ffactorau gwarchodol hanfodol yn y cyfnod ar ôl mudo:
- Meithrin perthynas sefydlog gref ag oedolion
- Amodau byw cymunedol ar gyfer plant hŷn (lleoliad hostel)
- Cysylltiad diwylliannol â'u mamwlad a’r wlad sy’n eu croesawu.
- Rôl ysgolion, addysg a datblygu sgiliau
- Pwysigrwydd cyfathrebu’n agored am eu profiadau drwy gydol eu bywydau.
Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd Joanne Hopkins, Cyfarwyddwr Canolfan Cymorth ACE Iechyd Cyhoeddus Cymru: " Daw'r ymchwil pwysig hwn ar adeg pan mae angen i ni fwy nag erioed ddysgu gwersi o'r gorffennol a sicrhau bod pob un sy'n dod i ymgartrefu yng Nghymru yn gallu cael y cymorth maen nhw ei angen. Mae profiad hanesyddol plant a oedd yn ffoaduriaid yn y 1930au - yn enwedig y rheiny oedd yn rhan o'r Kindertransport - yn gylch gwaith hanfodol. Mae’n cynnig gwersi gwerthfawr ar gyfer ein gwaith yn datblygu dulliau o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, o dan Gynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru.”
Mae copi o’r adroddiad ar gael ar wefan ACE Cymru: www.aceawarewales.com.