Cynhadledd gyfrifiadura Lovelace yn mynd ar-lein oherwydd Covid

Detholiad o fynychwyr cynadleddau yn y Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2020 rhithiol

Detholiad o fynychwyr cynadleddau yn y Colocwiwm BCSWomen Lovelace 2020 rhithiol

17 Mehefin 2020

Symudodd prif gynhadledd y DU ar gyfer israddedigion benywaidd ym maes cyfrifiadura ei rhaglen gyfan ar-lein eleni yn sgil pandemig y Coronafeirws.

Trefnir Colocwiwm Lovelace y BCS gan staff o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth a chydweithwyr o brifysgolion eraill yn y DU, ac mae wedi ei henwi ar ôl y mathemategydd Ada King, Iarlles Lovelace, sy'n cael ei adnabod fel rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf y byd.

Bellach yn ei 12fed flwyddyn, mae'r gynhadledd undydd yn dwyn ynghyd fyfyrwyr benywaidd, menywod hŷn mewn technoleg a chyflogwyr.

Yng ngwyneb yr argyfwng Covid-19 a oedd yn esblygu’n gyflym, a phedair wythnos yn unig cyn i’r gynhadledd gael ei chynnal ym Mhrifysgol Stirling, gwnaeth y trefnwyr y penderfyniad i gynnal digwyddiad rhithwir yn lle hynny.

Cynhaliwyd y gynhadledd ar-lein ar 8 Ebrill 2020, gyda dros 200 o bobl yn ymuno â'r digwyddiad am ran o’r diwrnod neu’r diwrnod cyfan. Defnyddiwyd nifer o wahanol dechnolegau a llwyfannau er mwyn hwyluso cyflwyniadau, sgwrsio, rhwydweithio a phosteri, a chynnwys y nifer fawr o gyfranogwyr.

Roedd y rhaglen yn cynnwys chwe sgwrs dechnegol a 45 o gyflwyniadau poster myfyrwyr ar bynciau mor amrywiol â "Help, mae robot wedi mynd a fy swydd!” a "Darparu gofal iechyd drannoeth", olrhain clefydau heintus, gramadegau ffurfiol a ‘chatbots’ AI emosiynol.

Dywedodd Dr Helen Miles, darlithydd yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a chadeirydd y digwyddiad: “Mae menywod israddedig mewn cyfrifiadura yn lleiafrif ar hyn o bryd, ac rydym yn cynnal y digwyddiad blynyddol hwn i hybu eu hyder, adeiladu eu rhwydweithiau a chefnogi eu huchelgeisiau, a thrwy hynny gadw eu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Roeddem yn benderfynol y byddai’r digwyddiad hwn eleni’n gweithio, er gwaethaf yr heriau oedd yn ein hwynebu. Rydym mor ddiolchgar i bawb a ‘fynychodd’ a’i wneud yn ddigwyddiad mor wych. Rwy'n credu y byddai Ada Lovelace, a ddychmygodd ddyfodol cyfrifiaduron yn ôl ym 1843, wedi cael ei swyno o weld cryn ymgynnull yn digwydd ar-lein. "

Ymhlith noddwyr Colocwiwm Lovelace BCS 2020 roedd Microsoft (Noddwr Arian), JP Morgan (Gwobr Orau’r 2il Flwyddyn), STFC (gwobr Dewis y Bobl), Scott Logic, BCSWomen, GitHub Education a Whitbread.