Gweithgor Covid-19 yn cefnogi hyfforddiant ar-lein newydd i atal cam-drin pobl hŷn
Fe gyhoeddoedd prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth ail rifyn o’u canllawiau i ymarferwyr ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn y Byd 2020.
15 Mehefin 2020
Mae cwrs ar-lein newydd ar gam-drin domestig a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael cefnogaeth ledled Cymru gan sefydliadau sy'n gweithio i atal cam-drin pobl hŷn.
Mae'r cwrs cryno, a ddatblygwyd gan brosiect ymchwil Dewis Choice yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol, yn cynnig hyfforddiant am ddim i ymarferwyr rheng flaen ar draws y Deyrnas Unedig sy'n delio ag achosion o gam-drin domestig ymhlith pobl hŷn yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws.
Ers ei lansio ym mis Ebrill 2020, mae dros 250 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y cwrs ac mae grŵp gweithredu a gydlynir gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru nawr yn annog gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl hŷn drwy eu gwaith i ymgymryd â'r hyfforddiant.
I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Camdrin Pobl Hŷn y Byd ar 15 Mehefin 2020, mae Dewis Choice hefyd yn lansio ail rifyn o’u Canllawiau i Ymarferwyr, sy’n defnyddio profiadau ddioddefwyr-oroeswyr hŷn i helpu sicrhau bod gan ymarferwyr ar hyd a lled y DU y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: "Mae’n hollbwysig bod y rhai sydd mewn perygl neu sydd yn profi camdriniaeth yn cael eu diogelu a’u bod yn gallu cael yr help a’r cymorth sydd ei angen arnynt. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn diogelu pobl hŷn a rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddynt a allai achub eu bywydau.
“Felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon y gallai person hŷn maent yn eu hadnabod fod mewn perygl neu sydd yn profi camdriniaeth i gysylltu â thîm diogelu eu cyngor neu’r heddlu.
“Byddem hefyd yn annog gweithwyr allweddol ar hyd a lled Cymru sy’n dod i gysylltiad â phobl hŷn i gwblhau’r hyfforddiant Dewis, oherwydd bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar sut i adnabod camdriniaeth a lle y gallant gael help a chymorth hollbwysig i bobl hŷn yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae'r hyfforddiant a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cwmpasu ystod o faterion, yn cynnwys sut y gwahanol ffyrdd y gall pobl hŷn brofi cam-drin domestig, y rhwystrau a all atal pobl rhag ceisio cymorth, effaith cam-drin ar iechyd meddwl a lles pobl, y cysylltiadau rhwng dementia a cham-drin domestig, a'r ffynonellau cymorth a chefnogaeth sydd ar gael.
Dywedodd Dr Sarah Wydall, sy'n arwain prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth: " Ers i’r ynysu ddechrau, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymarferwyr sy’n cysylltu â ni i gael cyngor, yn arbennig i gael arweiniad ar gynllunio diogelwch yn yr amgylchiadau newydd hyn. Gwyddom o’n profiad y gall ynysu gynyddu difrifoldeb camdriniaeth a chyfyngu cyfleoedd pobl i ofyn am help a chymorth. Drwy gynnig yr hyfforddiant ar-lein hwn a chopïau o’n canllaw i ymarferwyr, rydym yn gallu rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar staff y rheng flaen i ddarparu’r ymateb gorau posibl i ddioddefwyr-oroeswyr hŷn cam-drin domestig.”
Mae prosiect Dewis Choice wedi’i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ac mae’n cael ei ariannu gan gronfa Portffolio'r DU a Comic Relief. Hwn yw'r gwasanaeth cyntaf o’i fath sydd wedi’i neilltuo i bobl hyn sy’n profi camdriniaeth, niwed ac esgeulustod domestig.