Gwobr fyd-eang am ymdrechion codi arian er mwyn ail-ddatblygu’r Hen Goleg yn Aberystwyth
11 Mehefin 2020
Mae staff Prifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr fawreddog fyd-eang am eu hymdrechion codi arian er mwyn ail-ddatblygu’r Hen Goleg.
Mae adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni’r Brifysgol wedi llwyddo i godi £12.3 miliwn er mwyn cyfrannu at gostau ail-ddatblygu’r adeilad eiconig yn y dref fel canolfan ddiwylliannol a chreadigol ar gyfer myfyrwyr, y gymuned ac ymwelwyr. Mae’r codi arian hwnnw wedi bod o gymorth i ryddhau £7 miliwn arall o Lywodraeth Cymru a chyllid o’r Undeb Ewropeaidd.
Bellach, mae’r ymdrechion codi arian wedi derbyn cydnabyddiaeth fyd-eang gan y Cyngor dros Wella a Chefnogaeth i Addysg (CASE) gyda Gwobr Cylch Rhagoriaeth.
Roedd prosiect yr Hen Goleg yn un o 2752 cais arall o 27 o wledydd. Wrth esbonio eu penderfyniadau, dywedodd y beirniaid bod y tîm yn Aberystwyth wedi cyflawni: “canlyniadau trawiadol am dîm newydd mewn cyfnod byr o amser.”
Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae ennill y wobr fawreddog hon yn hwb bendigedig i’n hymdrechion codi arian wrth i ni lansio cyfnod nesaf ein hapêl tuag at gostau cyfanswm y prosiect o £27.6 miliwn. Mae hyn oll er mwyn cyflawni ein gweledigaeth i agor yr Hen Goleg ar ei newydd wedd er budd myfyrwyr, y gymuned ac ymwelwyr fel uchafbwynt ein dathliadau 150fed pen-blwydd yn 2023. Mae’r wobr yn cydnabod dawn ac uchelgais ein staff, ein noddwyr a’n cefnogwyr, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr o amgylch y byd, ynghyd â sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol a chymunedol.”
Ychwanegodd Sue Cunningham, Llywydd a Phrif Weithredwr CASE:
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi derbyn Gwobr Cylch Rhagoriaeth. Nid yn unig eich bod yn cael eich dathlu am eich rhagoriaeth, mae’ch gwaith yn ymwneud â chymunedau pwysig ym mywydau eich campysau a’ch sefydliadau, gan wella addysg er mwyn trawsnewid bywydau a chymdeithas.”
Mae’r Hen Goleg, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1, yn symbol o greadigaeth ein cenedl ac addysg uwch arloesol yng Nghymru, ar ôl i Brifysgol Cymru ei brynu am ddim ond £10,000 yn 1867 gan ddefnyddio arian a gyfrannwyd gan y gymuned leol.
Mae disgwyl y bydd y gwaith o adfywio’r Hen Goleg wedi ei gwblhau erbyn 2023 wrth i’r Brifysgol ddathlu ei 150fed pen-blwydd.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rwyf wrth fy modd ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth mor bwysig i’r cyfnod cyntaf o’n hapêl ariannol i’r Hen Goleg. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed ac yn gyflym er mwyn cychwyn ar ein hapêl ariannol fwyaf ers i ni gael ein sefydlu ym 1872. Mae ein cefnogwyr wedi ymateb yn wych, nid yn unig o ran nawdd, ond hefyd gyda chyngor strategol, adeiladu capasiti a’r gefnogaeth i ddigwyddiadau rhyngwladol. Rwy’n edrych ymlaen at rannu’r newyddion hwn a dathlu gyda nhw.”
Mae gan y Brifysgol nifer o wirfoddolwyr sy’n cyfrannu at waith y prosiect a’r apêl. Ychwanegodd Steve Lawrence, y prif gynrychiolydd codi arian ar Fwrdd Cynghorol Prosiect yr Hen Goleg:
“Mae’r tîm yn haeddu’r wobr hon am wneud eu gorau glas er mwyn lansio apêl yr Hen Goleg mor gynnar yn ein cynlluniau prosiect. Maen nhw wedi gweithio’n ddiflino i hybu’n eang y weledigaeth ar gyfer yr Hen Goleg ac i ymwneud ag ystod eang o bobl yn y prosiect. Mae eu cynllunio gofalus o ymgyrchoedd a chynigion codi arian sydd wedi eu targedu wedi ennyn cefnogaeth dros fil o noddwyr ac ymddiriedolaethau elusennol mawrion. Mae wedi bod yn destun balchder arbennig i weld sut mae’r tîm wedi ymwneud â myfyrwyr presennol ynghyd â chyn-fyfyrwyr a’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr wrth gynllunio a chyflawni eu hymdrechion codi arian, pob un ohonynt yn torri tir newydd i’r Brifysgol ac yn ein rhoi mewn lle da wrth i ni fwrw ati i godi rhagor o arian yn y dyfodol.”