Ystyried ehangu therapi celf o bell ar gyfer cleifion canser gwledig yn ystod y pandemig

Dr Rachel Rahman yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Rachel Rahman yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth

11 Mehefin 2020

Gall prosiect ymchwil arloesol sy'n cynnig therapi celf o bell i gleifion canser mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru gael ei ymestyn i rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn ystod argyfwng Covid-19.

Datblygwyd y prosiect gan ymchwilwyr yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ers bron i flwyddyn, mae'r cynllun wedi bod yn cynnig cyfle i gleifion canser gymryd rhan mewn sesiynau celf greadigol heb orfod gadael eu cartrefi.

Gall y sesiynau therapi o bell gael eu hymestyn nawr i gleifion eraill sy'n hunan-ynysu neu'n methu teithio'n ddiogel i apwyntiadau.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynhyrchu ffilmiau byrion yn amlinellu‘r manteision posibl i gleifion a staff.

O dan y cynllun, darperir dyfais tabled megis iPad i gleifion fel eu bod yn gallu bod yn  rhan o sesiynau therapi ar-lein o bell.

I bobl sy'n cael cemotherapi neu driniaeth arall, mae’n golygu bod llai o risg o godi haint pan fo‘u himiwnedd yn isel.

Mae'r prosiect yn rhan o astudiaeth ymchwil ehangach i'r problemau sy'n wynebu darparwyr gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, ac sy’n cael ei arwain gan Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

"Mae cefnogaeth gymdeithasol yn elfen hollbwysig o'r driniaeth ar gyfer cleifion sydd â system imiwnedd wan o ganlyniad i gemotherapi, a nod y prosiect hwn yn wreiddiol oedd cynnig ffyrdd gwahanol o ddarparu cefnogaeth o'r fath. Fodd bynnag, mae'r argyfwng  Covid-19 cyfredol wedi dangos manteision ehangach teleiechyd ar gyfer cleifion a staff,“ meddai Dr Rahman, sydd hefyd yn Uwch Ddarlithydd yn Adran Seicoleg y brifysgol.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddoniaeth Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Dyma un enghraifft o sut y mae technoleg yn cael ei defnyddio ar draws y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau therapi i gefnogi aelodau o’r cyhoedd sy’n gwarchod eu hunain neu’n hunan-ynysu yn ystod pandemig y coronaferiws. Mae’r defnydd yma o dechnoleg yn profi’n ffordd effeithiol o ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth, ac mae’n debygol o gynyddu ar draws y gyfundrefn iechyd.“

Caiff y sesiynau cefnogi sy’n defnyddio iPad i gynnig therapi celf a seicolegol o bell eu harwain gan Gudrun Jones, therapydd celf gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

"Drwy gynnig therapi celf o bell, rydyn ni wedi gallu lleihau ymdeimlad cleifion o fod wedi’u hynysu," meddai Gudrun Jones. "Mae'r ymchwil wedi dangos i mi fod gweithio gyda dyfais electronig, fel gliniadur neu iPad, yn addas iawn ar gyfer therapi celf gan fod cleifion yn gallu gweld ei gilydd, rhannu eu gwaith creadigol a dal i deimlo'n rhan o grŵp cefnogol. Mae gweithio yn y ffordd hon hefyd wedi cynyddu fy ngallu i gynnig cymorth seicolegol i gleifion, ac mae'r cyfnod hwn o gyfyngiadau wedi amlygu defnydd posibl pellach."

Mae nyrsys gofal lliniarol arbenigol yn y tîm sydd wedi’i leoli yng Ngheredigion hefyd yn gallu ymateb i amgylchiadau'r argyfwng presennol drwy fynd â dyfais i gartref claf a'u cynorthwyo i gysylltu â'r ymgynghorydd gofal lliniarol yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Mae'r ddyfais nid yn unig yn cysylltu'r claf, ond hefyd yn cefnogi gofalwyr sy'n gwarchod ac sydd wedi'u hynysu oddi wrth y cymorth y byddent yn gallu ei gael fel rheol.

Gall cleifion hefyd gysylltu drwy ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain megis iPhone, tra bod aelodau eraill o'r tîm iechyd megis therapyddion galwedigaethol neu gwnselwyr hefyd wedi gallu cynnig cymorth o bell i'r un teulu.

Mae'r ddwy ffilm, sydd wedi eu cynhyrchu gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ac sy’n dangos cleifion a staff yn defnyddio'r gwasanaeth o bell yn ystod y cyfnod cyn Covid-19, i'w gweld ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.