Asiantaethau’n cydweithio i reoli casglu eiddo o lety myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth
04 Mehefin 2020
Mae Prifysgol Aberystwyth, Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Ceredigion wedi cytuno ar gynlluniau i alluogi myfyrwyr i gasglu eiddo sydd wedi’i adael ym mhreswylfeydd y Brifysgol.
Hyd yma, ac fel rhan o'i hymdrechion i gyfyngu ar ledaeniad y Coronafirws, mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyfarwyddo myfyrwyr sydd ag eiddo o hyd yn llety'r Brifysgol i beidio â theithio i Aberystwyth nes bod trefniadau penodol ar waith.
Yn dilyn trafodaethau rhwng y Brifysgol a chydweithwyr yn Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Ceredigion, cytunwyd ar gynlluniau i alluogi casgliadau yn ystod yr wythnosau nesaf mewn ffordd sydd wedi’i rheoli yn ofalus, gan flaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach.
Mae Heddlu Dyfed Powys a'r Awdurdod Lleol yn cefnogi’n llawn y trefniant casglu nawr er mwyn rheoli nifer yr ymwelwyr yn lleol cyn llacio’r cyfyngiadau ar symud yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
Dywedodd Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Trwy gydol y pandemig hwn, mae amddiffyn ein myfyrwyr, ein staff a’r gymuned leol trwy weithio’n ddiflino i leihau lledaeniad y Coronafirws wedi bod yn flaenoriaeth i ni ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wrth i’r cyfyngiadau ar symud gael eu llacio'n raddol rydym wedi bod yn edrych ar y ffordd orau o alluogi ein myfyrwyr i ddychwelyd i'r Brifysgol i gasglu eu heiddo. Rydym yn croesawu cefnogaeth yr Heddlu a Chyngor Sir Ceredigion i alluogi myfyrwyr i ddychwelyd mewn ffordd sy'n cyfyngu ar y risg o ledaenu’r haint ac osgoi cynnydd, a allai fod yn fawr, yn nifer y bobl sy'n teithio i'r ardal pan fydd cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio.”
Dywedodd y Prif Arolygydd Christina Fraser, o Heddlu Dyfed Powys: “Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir bod teithio i gasglu eiddo o lety myfyrwyr yn cael ei ganiatáu ac yn rhesymol, os na ellir gohirio hyn a bod yn ofynnol iddo gydymffurfio â thelerau’r cytundeb llety. Mae'r trefniadau hyn a gytunwyd arnynt rhyngom ni a'r Brifysgol wedi rhoi ystyriaeth i’r gymuned ehangach, wrth inni geisio osgoi nifer fawr o bobl yn cyrraedd ar unwaith pan fydd y cyfyngiadau ar deithio yn cael eu llacio ymhellach. Yng ngoleuni hyn, rydym felly'n cefnogi'r gwaith y mae'r Brifysgol wedi bod yn ei wneud i hwyluso dychweliad y myfyrwyr i gasglu eu heiddo mewn modd cymesur a threfnus, er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Mae'n synhwyrol trefnu iddynt ymweld mewn dull sydd wedi ei reoli drwy slotiau amser a ddyrannwyd a chyda chamau pellhau cymdeithasol priodol – rhaid blaenoriaethu diogelwch pawb, gan gynnwys yr ardal leol, ac mae’n allweddol ein bod yn osgoi gweld nifer fawr o fyfyrwyr ac aelodau o'u teuluoedd yn cyrraedd ar yr un pryd.”
Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu casglu eu heiddo yn ddiogel wrth fod ni hefyd yn sicrhau diogelwch dinasyddion Aberystwyth a Ceredigion. Fodd bynnag, hoffem atgoffa'r myfyrwyr a'u teuluoedd sydd wedi trefnu i gasglu eu heiddo nad ydyn nhw'n manteisio ar y cyfle i ymweld â'r traeth neu fannau harddwch eraill, a fyddai'n cael ei ystyried yn deithio diangen. Yr unig bwrpas ar gyfer teithio i Aberystwyth yw casglu eu heiddo. Daw cyfle eto yn y dyfodol i ymweld ag ardal Aberystwyth.”
Yn dilyn cyflwyno'r cyfyngiadau ar symud, cymerodd y Brifysgol gamau i symud ei holl ddysgu ar-lein.
Gyda gwyliau'r Pasg yn agosáu, dewisodd llawer o fyfyrwyr yn llety'r Brifysgol ddychwelyd adref lle gallent barhau â'u hastudiaethau ar-lein.
Mae trefniadau manwl bellach wedi'u gwneud lle bydd myfyrwyr yn cadw dyddiad ac amser ar gyfer dychwelyd drwy borth ar-lein.
Ar ôl cytuno ar ddyddiad ac amser, bydd myfyrwyr unigol yn gallu teithio i'w llety Prifysgol i godi eu heiddo. Pe bai rhywun yn dod gyda nhw, mae'r Brifysgol wedi ei gwneud yn glir y dylai hyn fod gydag un person yn unig.
Y nod yw cwblhau'r broses hon dros gyfnod o bythefnos, mewn modd sydd wedi ei reoli, er mwyn lleihau faint o bobl sy'n dod i mewn i Geredigion ar unrhyw adeg.
Bydd y Brifysgol yn agor Fferm Penglais i gynnig gwasanaethau cyfyngedig megis arlwyo a thoiledau er mwyn osgoi’r angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd ymweld â'r dref oni bai bod hynny’n hollol angenrheidiol.
Bydd staff y Brifysgol hefyd wrth law i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i fyfyrwyr a'u rhieni, yn ystod yr amser byr y maent yma.
Mae llety hefyd ar gael ar gampws Penglais fel nad oes angen i fyfyrwyr sy'n teithio o bell wneud trefniadau ar gyfer llety yn y dref.