Busnes bioblastig yn seiliedig ar wymon yn ennill cystadleuaeth menter myfyrwyr
Llun gan Kevin Mark Wood / FreeImages
22 Ebrill 2020
Eco-Fusnes sy’n defnyddio gwymon o Gymru i greu bioblastig yw enillydd InvEnterPrize, cystadleuaeth menter myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, eleni.
Syniad dau fyfyriwr PhD Prifysgol Aberystwyth, Alex Newnes a Gianmarco Sanfratello, a’r cyn-fyfyrwraig o Aberystwyth, Rhiannon Rees yw PlantSea.
Mae’r cwmni’n bwriadu defnyddio gwymon a deunyddiau planhigion eraill i greu bioblastig, a fydd yna’n cael ei ddefnyddio i ddatblygu setiau ymolchi sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer y diwydiant gwestai a lletygarwch.
Meddai Rhiannon Rees, Swyddog Datblygu Busnes a Marchnata PlantSea, a raddiodd gyda gradd Meistr mewn Marchnata o Brifysgol Aberystwyth yn 2014: “Rydym wedi bod yn datblygu a phrofi bio-ddeunydd a grëwyd drwy gyfuno polymerau gwymon a chyfansoddion organig eraill. Mae ein datblygiad cynnar wedi creu prototeip o ffilm bioblastig clir, sydd â phriodweddau tynnol addas.
“Rydym yn bwriadu defnyddio’r buddsoddiad o £10,000 o’r gystadleuaeth InveEnterPrize i ddatblygu a mireinio ein cynnyrch ymhellach. Y nod yw bod ein defnydd arloesol yn ffurfio rhan o becyn ymolchi eco-gyfeillgar a ddyluniwyd yn arbennig ac sydd wedi’i wneud allan o bioblastig cynaliadwy a bioddiraddadwy, a all ddisodli sachets a chynwysyddion plastig yn y diwydiant gwestai a lletygarwch yn y dyfodol. Gellir hefyd defnyddio ein defnyddiau arloesol yn y diwydiant pecynnu bwyd.”
Mae InvEnterPrize yn rhoi cyfle i fyfyrwyr entrepeneuraidd Aberystwyth i ddatblygu a chyflwyno syniad busnes neu gysyniad menter cymdeithasol i banel o gyn-fyfyrwyr nodedig y Brifysgol.
Mae’r gystadleuaeth, InvEnterPrize, sydd yn cael ei chynnal yn flynyddol, yn cael ei noddi gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber a’i threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
Fel yr eglura trefnydd InvEnterPrize a hyrwyddwr menter y Brifysgol, Tony Orme: “Mae InvEnterPrize yn parhau i fod yn un o’r cystadlaethau menter myfyrwyr mwyaf yn y DU. Dros gyfnod o dri mis, o lansio’r gystadleuaeth, i gyflwyno’u cynigion, roedd grwpiau o fyfyrwyr entrepreneuriaidd yn gallu mynychu digwyddiadau menter yn y Brifysgol lle gallent gael cyngor am ymchwil marchnad, marchnata a brandio a chynllunio a rheoli cyllid; sef y sgiliau hanfodol er mwyn cychwyn busnes newydd.”
“Cyrhaeddodd chwe ymgeisydd InvEnterPrize y rhestr fer eleni. Yn anffodus, ni fu modd cynnal y rownd derfynol, lle byddai cystadleuwyr wedi cyflwyno eu syniadau busnes o flaen panel o feirniaid mewn digwyddiad ar ffurf ‘Dragon’s Den’, oherwydd rheolau pellter cymdeithasol Covid19. Yn hytrach, barnwyd y syniadau busnes yn seiliedig ar y cyflwyniadau ysgrifenedig yn unig.”
Mae’r tîm buddugol yn derbyn gwobr o £10,000 i fuddsoddi mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn troi eu menter neu syniad cychwyn busnes yn realiti.
Yn ogystal â’r brif wobr, dyfarnwyd gofod swyddfa am ddim i PlantSea am flwyddyn ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberInnovation), gwobr a gyflwynwyd i’r cynnig gorau o’r sectorau bio-wyddorau, gwyddorau bywyd ac amaeth yn y gystadleuaeth.
Dyfarnwyd gwobr ar wahân o £3,000 yn rhoddedig gan Beirianwyr mewn Busnes, i fyfyrwyr neu dimau myfyrwyr o Gyfrifiadureg, Mathemateg a Ffiseg, i Mwnci Data Management, sef syniad busnes Rob Barry, a raddiodd yn ddiweddar gyda MSc mewn Gwyddor Data. Esbonia Rob: “Mae Mwnci (www.mwnci.uk) yn darparu platfform effeithiol i helpu busnesau reoli eu data, gan ei gwneud hi’n hawdd i gwmnïau ddod o hyd i’r data maent yn chwilio amdano, a sicrhau bod eu taenlenni’n gyfredol o hyd. Bydd Mwnci yn rhoi busnesau ar y ffordd fforddiadwy tuag at fewnwelediadau data gwell.”
Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyriwr: “Rwy’n llongyfarch enillwyr y Gystadleuaeth InveEnterPrize, PlantSea, ar eu cyflwyniad rhagorol, gyda’r hyn sy’n syniad gwirioneddol wych ar gyfer citiau ymolchi cosmetig eco-gyfeillgar ar gyfer y diwydiant gwestai a lletygarwch. Unwaith eto, mae’r gystadleuaeth flynyddol hon wedi darparu canlyniad gwych ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”
“Llongyfarchiadau hefyd i gyfranogwyr eraill y gystadleuaeth, gyda phob un yn cynhyrchu syniadau arloesol iawn. Roedd hi’n hynod siomedig nad oedd modd i ni gyflawni’r broses o gyflwyno syniadau wyneb yn wyneb, oherwydd yr amgylchiadau anghyffredin presennol. Fodd bynnag, diolch i’n tîm o feirniaid o gyn-fyfyrwyr, a ddarllenodd ac asesodd bob cais, gan gynnwys Nigel Davies, sef ‘Cadeirydd y Dreigiau’ newydd.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd menter ymysg myfyrwyr (ar draws pob rhaglen radd), graddedigion a staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we AberPreneurs.