Y Brifysgol yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim ar gam-drin domestig yn ystod COVID-19
07 Ebrill 2020
Mae prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim i weithwyr rheng flaen ledled y Deyrnas Unedig sy'n delio ag achosion o gam-drin domestig ymhlith pobl hŷn yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau llym ar symudedd.
Wedi'i leoli yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, mae prosiect Dewis Choice wedi bod yn darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb ar drais a cham-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd i bron i 6,000 o ymarferwyr o'r sector statudol a'r drydedd sector am y pum mlynedd diwethaf.
Gwelwyd cynnydd yn y galw am yr hyfforddiant yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dilyn pryder eang y gallai'r rheoliadau ar aros gartref a hunan-ynysu arwain at fwy o achosion o gam-drin domestig, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn a grwpiau bregus.
Mae'r pecyn hyfforddi bellach yn cael ei ddarparu ar-lein i ystod o wasanaethau sy'n cynnig cefnogaeth i bobl hŷn, gan gynnwys arbenigwyr ar gam-drin domestig, timau diogelu ac asiantau cyfiawnder troseddol ledled y DU.
Dywedodd Sarah Wydall, sy’n arwain prosiect Dewis Choice ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’r coronafeirws yn gyfnod o heriau sylweddol i iechyd a lles y genedl gyfan. Fodd bynnag, i bobl hŷn sy'n cael eu cam-drin gan bartneriaid agos neu oedolion yn y teulu, gall y cyfyngiadau presennol gynyddu'r risg o niwed yn sylweddol. Trwy gynnig yr hyfforddiant ar-lein hwn a chopïau o'n canllawiau i ymarferwyr, byddwn yn gallu darparu’r adnoddau i staff rheng flaen i roi'r ymateb gorau posibl.”
Mae'r cwrs ar-lein yn canolbwyntio ar gyngor a chanllawiau cynllunio diogelwch ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n defnyddio llinellau cymorth, gan gynnwys y defnydd priodol o iaith o ystyried y gall camdrinwyr fod yn agos at y galwr.
Mae hefyd yn cynnwys cefnogaeth i oroeswyr neu ddioddefwyr hŷn sy'n wynebu pryder ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau presenol, a sut i ofalu am eu hiechyd meddwl yn ogystal â'u lles corfforol.
Dywedodd Elize Freeman, Arweinydd Datblygu Gwasanaeth a Hyfforddiant prosiect Dewis Choice: “Gwnaethom y penderfyniad i ddechrau gweithio o bell yn gynnar oherwydd y ganran uchel o'n grŵp cleientiaid sy'n 70 oed neu'n hŷn, neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau, yn enwedig gan ofalwyr cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl hŷn.
“Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymarferwyr sy'n cysylltu â ni i gael cyngor, yn enwedig i gael arweiniad ynghylch cynllunio diogelwch o dan yr amgylchiadau newydd hyn. O brofiad gwyddom y gall unigedd gynyddu difrifoldeb y camdrin ac rydym wedi gweld sefyllfaoedd yn gwaethygu ar adeg pan mae gwasanaethau dan bwysau. Ar nodyn cadarnhaol rydym yn gweld sefydliadau’n gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd i gyfuno adnoddau a gwybodaeth a chyd-drefnu ymateb cymunedol ac rydym wedi gweld ymatebion cyflym a rhagweithiol gan yr heddlu.”
Mae'r hyfforddiant ar-lein, a'r arweiniad i ymarferwyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar, wedi ei lywio gan ganfyddiadau ymchwil hydredol o brofiadau dynion a menywod 60 oed neu hŷn o geisio cymorth.
Mae Dewis Choice - Trawsnewid yr Ymateb i Gam-drin Domestig yn Ddiweddarach mewn Bywyd yn cael ei ariannu gan gronfa Portffolio’r DU a Comic Relief. Dyma’r gwasanaeth ymroddedig cyntaf i bobl hŷn sy’n dioddef cam-drin domestig, niwed ac esgeulustod.
Am fwy o fanylion am yr hyfforddiant ac i gael copïau o'r canllawiau, cysylltwch ag Elize Freeman, Arweinydd Datblygu Gwasanaeth ar elf21@aber.ac.uk.
I gael gwybodaeth gyffredinol am yr ymchwil, cysylltwch â Rebecca Zerk, Rheolwr Prosiect Ymchwil yn y Ganolfan Oedran, Rhyw a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar reb15@aber.ac.uk.