Newidiadau arholi ac asesu yn sgil Covid-19 - Prifysgol Aberystwyth

06 Ebrill 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi rhagor o fanylion am y newidiadau i’w threfniadau arholi ac asesu myfyrwyr o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr staff a myfyrwyr.

Mewn datganiad ar y cyd gydag Undeb y Myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi cyfres o addasiadau er mwyn lliniaru ar effaith yr argyfwng ar gynnydd addysgiadol myfyrwyr. Maent wedi eu llunio er mwyn i fyfyrwyr allu derbyn canlyniadau modiwl, parhau â’u cynlluniau astudio, derbyn canlyniadau dyfarniadau a, lle maent wedi cymhwyso, mynychu seremoniau graddio yn y dyfodol.

Mae’r egwyddor ‘dim anfantais’ yn ganolog i’r newidiadau: bydd myfyrwyr sy’n dewis ail-sefyll asesiadau, ac nad ydynt yn perfformio cystal â’r dyfarniad a gynigwyd iddynt, yn gallu penderfynu derbyn y dyfarniad gwreiddiol.

Fis diwethaf, penderfynodd y Brifysgol i ganslo’r arholiadau a gynhelir, fel arfer ym mis Mai, ar y campws ei hun ynghyd ag ymestyn dyddiadau cau gwaith cwrs.

Dywedodd Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni’n deall ei bod hi’n gyfnod arbennig o anodd i bawb. Wrth reswm, lles ein myfyrwyr a’n staff yw ein blaenoriaeth gyntaf.  Yn dilyn cyngor y Llywodraeth a gan ystyried ein prif gonsyrn, sef gofalu am ein myfyrwyr a’n staff, rydyn ni eisoes wedi canslo’r prif arholiadau sy’n cael eu cynnal ar y campws ac a oedd wedi eu trefnu ar gyfer mis Mai.

“Cafodd newidiadau ychwanegol hyn eu datblygu ar y cyd â chynrychiolwyr staff a myfyrwyr. Y nod yw sicrhau ein bod yn cefnogi ein myfyrwyr a’n staff yn ystod yr amseroedd heriol iawn hyn, tra, ar yr un pryd, yn cynnal safonau academaidd uchel y Brifysgol."  

Ychwanegodd Chloe Wilkinson-Silk, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth:

“Hoffem ni ddiolch i’r Brifysgol am flaenoriaethu llais myfyrwyr drwy gydol pob cam o’r broses hon. Mae eu parodrwydd i wrando a bod yn agored i bryderon myfyrwyr wedi eu gwerthfawrogi’n fawr iawn, ac maen nhw’n haeddu cymeradwyaeth. Rwy’n siŵr y bydd myfyrwyr yn teimlo rhyddhad wrth glywed am y newyddion hyn, a byddan nhw’n falch o gael gwybod bod y brifysgol yn gwneud popeth o fewn ei gallu i’w cynorthwyo drwy’r amseroedd heriol hyn.”

 

Nodiadau

Crynodeb o’r newidiadau:

Os yw o leiaf 50% o asesiadau'r modiwl wedi'u cwblhau, bydd y marc yn cyfrif ar gyfer yr holl fodiwl, oni bai bod yna ofynion o ran achredu proffesiynol.

Os oes llai na 50% o asesiadau'r modiwl wedi'u cwblhau, bydd asesiadau amgen addas ar gyfer yr elfen(nau) arholi sy'n weddill yn cael eu gosod.

Os nad oes marc ar gael o gwbl, e.e. yn achos taith maes lle na chynhaliwyd yr asesiad, bernir bod y modiwl wedi'i basio at ddibenion symud ymlaen ond ni fydd yn cyfrif at ddibenion achredu.

Pennir dosbarth i radd pan fydd o leiaf ddwy ran o dair o'r credydau gofynnol wedi'u pasio. Bydd canlyniadau sy'n seiliedig ar asesu anghyflawn yn cael eu cyflwyno fel dosbarthiadau gradd dangosol a bydd myfyrwyr yn gallu:

a) eu derbyn a graddio, ac yna bydd y canlyniadau'n rhai terfynol

b) aros i'r marciau fod ar gael; neu

c) ailsefyll y modiwlau hynny yr effeithiwyd arnynt cyn cael y radd.

Gwneir penderfyniadau gan fyfyrwyr ar sail ‘dim anfantais’: bydd myfyrwyr sy’n dewis ail-sefyll asesiadau, ac nad ydynt yn perfformio cystal â’r dyfarniad a gynigwyd iddynt, yn gallu penderfynu derbyn y dyfarniad gwreiddiol.

Bydd y rheolau arferol o ran symud ymlaen yn gymwys.

Rhagor o Wybodaeth

Cwestiynau ac Atebion i Fyfyrwyr

Egwyddorion a Pholisi - newidiadau arholi ac asesu yn sgil Covid-19