Agor ceisiadau ar gyfer Pantycelyn
Un o ystafelloedd newydd en-suite Pantycelyn. Bydd y neuadd yn ailagor ar ei newydd wedd ym mis Medi 2020.
01 Ebrill 2020
Wrth i’r ystafelloedd cyntaf gael eu cwblhau, mae ceisiadau i las-fyfyrwyr sydd yn dymuno byw yn neuadd breswyl enwocaf Cymru yn agor heddiw, ddydd Mercher 1 Ebrill 2020.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi £16.5m er mwyn trawsnewid Pantycelyn a sicrhau ei bod yn darparu cyfleusterau sy’n cystadlu gyda’r gorau.
Ar ei newydd wedd, bydd y neuadd yn cynnig llety en-suite i hyd at 200 o fyfyrwyr wrth iddyn nhw fanteisio ar brofiadau dysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ogystal, byddant yn mwynhau adnoddau heb eu hail a fydd yn cynnwys ystafelloedd astudio tawel gyda chyfleusterau cyfrifiadurol, dwy ystafell gyfarfod a phedair ystafell gyffredin – y Lolfa Fach, y Lolfa Fawr, yr Ystafell Gyffredin Hŷn a’r Ystafell Gyffredin Iau.
Gyda’i gilydd maent yn cynnig lle i astudio, lle ar gyfer ymarferion o bob math, a lle i ymlacio a chymdeithasu, â’r cyfan o dan un to.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Mae agor y cyfle nawr i wneud cais am le yn Neuadd Pantycelyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn ddatblygiad pwysig.
“Heb os dyma Neuadd breswyl myfyrwyr fwyaf adnabyddus Cymru. Mae ganddi gyfleusterau gwych ac awyrgylch cymunedol unigryw. Er yr amgylchiadau anodd ar hyn o bryd, mae’r gwaith adnewyddu yn cael ei gyflawni ar amser ac mae’n bwysig fod darpar fyfyrwyr yn archebu eu lle mor brydlon â phosib.
“Pantycelyn fydd cartref Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth a’r holl gymdeithasau Cymraeg eraill. Fydd nunlle gwell i fod os ydych am fod yn rhan o gymuned Gymraeg glos, gan fwynhau cyfleusterau newydd sbon a chyfleoedd eang i gymdeithasu.”
Gwerth am arian
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21 bydd Pantycelyn yn cynnig gwerth eithriadol am arian gyda’r pris yn £5512 gan gynnwys bwyd.
Yn unol â’i naws cartrefol, hi fydd yr unig neuadd breswyl yn Aberystwyth lle bydd bwyd yn cael ei ddarparu o fewn pris y llety, gyda phrydiau’n cael eu gweini yn y ffreutur o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ac i’r rhai sy’n dymuno paratoi rhywbeth ysgafn i’w fwyta rhwng prydiau, mi fydd yna gegin fach i bob wyth preswylydd.
Neuadd Gymraeg
Agorwyd Neuadd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951. Fe’i sefydlwyd fel neuadd Cymraeg yn 1974 a daeth yn adnabyddus am ei chyfoeth diwylliannol, y traddodiadol a’r cyfoes, ac am ei bwrlwm cymdeithasol.
Wrth iddi ail agor ac i’r gymuned Gymraeg yno gyrraedd ei llawn dwf yn ystod y blynyddoedd nesaf mi fydd trigolion newydd Pantycelyn yn cael cyfle i ddylanwadu ar ei datblygiad a gosod eu stamp eu hunain arni.
Mae hefyd yn rhan bwysig o weledigaeth Prifysgol Aberystwyth i wella a chynnyddu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ac i sicrhau bod modd i fyfyrwyr fyw drwy gyfrwng yr iaith wedi iddyn nhw symud i astudio yn Aberystwyth.
Yn oygstal mae’r datblygiad yn cydgordio gyda nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.
Agor Medi 2020
Yn unol â’r cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth, mae gwaith ar safleoedd adeiladu yn parhau, ac yn ôl amserlen y prosiect fe fydd Pantycelyn ar ei newydd wedd yn croesawu ei phreswylwyr cyntaf ym mis Medi 2020.
I gael gwybod rhagor am yr hyn sydd gan Bantycelyn i’w gynnig ewch i www.aber.ac.uk/pantycelyn.
Mae prosiect adnewyddu Pantycelyn wedi derbyn £5m oddi wrth Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer y 21ain Ganrif.