Hwb i astudio’r Fagloriaeth tra bod ysgolion ar gau – cwrs ar-lein

01 Ebrill 2020

Mi fydd disgyblion sy’n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru yn gallu elwa o fynediad estynedig i gwrs ar-lein a fydd yn cynnig “cymorth pwysig” tra bod ysgolion ar gau, cafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 1 Ebrill).   

Nod y cwrs agored ar-lein ‘Sut i Lwyddo yn dy Fagloriaeth: Hanfodion y Prosiect Unigol’, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yw cefnogi myfyrwyr ôl-16 yng Nghymru sy’n gweithio tuag at Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru.   

Cafodd y cwrs, sydd ar gael ar FutureLearn, platfform dysgu cymdeithasol blaenllaw’r Brifysgol Agored, ei ddatblygu fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerfaddon.     

Dywedodd Dewi Phillips, o dîm cyswllt ysgolion a cholegau Prifysgol Aberystwyth:

“Yn y cyfnod anodd hwn, pan fo’r ysgolion ar gau i’r mwyafrif o ddisgyblion, mae athrawon a disgyblion, fel ei gilydd, yn cynefino â ffyrdd newydd o weithio, ac mae argaeledd cyrsiau ac adnoddau ar-lein yn bwysicach nag erioed.

“Mae’r cwrs, sy’n cymryd pythefnos i’w gwblhau, tua thair awr o astudio'r wythnos, yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n gweithio tuag at Dystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ddatblygu sgiliau hanfodol, trosglwyddadwy a fydd yn eu paratoi ar gyfer eu cyrchfan nesaf – boed hynny’n addysg uwch, hyfforddiant pellach, neu gyflogaeth.

“Trwy ymuno â’r cwrs ar-lein hwn sy’n rhad ac am ddim, gall myfyrwyr yng Nghymru sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”

Mi all myfyrwyr gael mynediad at y cwrs ar-lein newydd drwy fynd i www.futurelearn.com/courses/bagloriaethcymru