ARDDANGOSFA: Another Line to Follow
Gweithiau celf o'r arddangosfa- Nant-y-moch 3 gan Alicia Webster, Seattle Downtown gan Tom Voyce, a Blues gan Rachel Rea
16 Mawrth 2020
Mae arddangosfa sy’n dathlu’r cyfeillgarwch a’r cydweithio parhaus rhwng artistiaid a gyfarfu tra oeddent yn dysgu neu’n astudio celf ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi agor yn Oriel yr Ysgol Gelf.
Mae Another Line to Follow yn rhoi sylw i waith pum artist, sef Carolyn Wallace, June Forster, Rachel Rea, Tom Voyce ac Alysia Webster. Datblygodd y grŵp y cysyniad o ‘ddilyn llinellau’ yn fodd o ddefnyddio gweithiau a syniadau ei gilydd i sbarduno gweithiau celf newydd ganddyn nhw eu hunain.
Mae’r arddangosfa yn cynnwys darluniau pensil ac inc, gweithiau collage, cyfryngau cymysg a phaentiadau.
Esbonia Neil Holland, Uwch Guradur a Darlithydd yn yr Ysgol Gelf: “Gellid ystyried pob ‘llinell’ yn drywydd ymholi awgrymedig. Mae’r artistiaid yn defnyddio dull ymarferol o weithio, e.e. collage, neu maent wedi dilyn set benodol o reolau, megis defnyddio palet lliwiau cyfyngedig. Yn debyg i gêm o ‘Consequences’, mae pob syniad wedi’i drosglwyddo i’r lleill i’w berchnogi a’i ddatblygu yn eu gwaith nhw, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau.”
Cwblhaodd Dr June Forster ddoethuriaeth mewn Celfyddyd Gain ac mae’n diwtor yn yr Ysgol Gelf. Esbonia: “Ein nod drwy gyfrwng yr arddangosfa yw cynnig cipolwg ar y broses greadigol a dangos sut y mae modd creu cyfres o weithiau ar sail y man cychwyn mwyaf di-nod.”
“Nod yr arddangosfa yw ysbrydoli’r myfyrwyr presennol i ddeall bod cyfathrebu a chydweithio yn mynd ymhell y tu hwnt i’r brifysgol; mae yna bob amser linell arall i’w dilyn.”
Bydd modd gweldAnother Line to Follow yn yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth tan y 1af o Fai 2020.
Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am tan 5pm (bydd ar gau rhwng y 10fed a’r 14eg o Ebrill). Mae croeso cynnes i bawb ac mae mynediad am ddim.
Gwybodaeth fywgraffiadol:
BuCarolyn Wallace yn astudio yn y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1967 a 1970 ac ymgartrefodd yng Nghymru. Bu’n diwtor gwadd yn Ysgol Celf Ffigurol Elisabeth Frink a bu’n dysgu dosbarthiadau celf Addysg Barhaus o’i stiwdio yn Ystrad Meurig. Bu June Forster yn mynychu’i dosbarthiadau. Bu Carolyn yn gweithio yng Nghymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru a bu’n arddangos ei gwaith yn fwy diweddar ar y cyd â Tom Voyce a June Forster yn rhan o’r arddangosfa ‘Teaching Painting: Fully Awake 5.6’ yn Llundain, a ymdriniai ag effaith dysgu celf rhwng y cenedlaethau.
DerbynioddJune Forster ei hyfforddiant yn Ysgol Gelf Aberystwyth a dechreuodd ddysgu yno ar gychwyn ei hastudiaethau Doethuriaeth mewn Celfyddyd Gain yn 2007. Pan oedd yn diwtor darlunio a phaentio, cyfarfu â Rachel Rea, Tom Voyce ac Alysia Webster pan oeddent yn eu blwyddyn gyntaf ac aeth yn ei blaen i gydweithio â Tom drwy gyfnewid cardiau post yn ystod cwrs MA Tom. Ers iddi gwblhau ei doethuriaeth yn 2014, mae June wedi parhau â’i diddordeb mewn agweddau ar brofiad o dirluniau a’r rhyngweithio rhwng lliwiau. Mae wedi arddangos ei gwaith yn eang ers 2005 ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn y casgliad ‘Paintings in Hospitals’.
Enillodd Rachel Rea radd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain a Llenyddiaeth Saesneg yn 2016 ac enillodd MA mewn Celfyddyd Gain (â Rhagoriaeth) yn 2018 o Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio o’i stiwdio yn y Borth ac mae’n arddangos ei gwaith mewn orielau ac mewn sioeau grŵp mewn gwahanol fannau yn y Deyrnas Gyfunol. Mae ei phaentiadau hefyd wedi’u cynnwys mewn nifer o gasgliadau preifat.
AstudioddTom Voyce yn yr Ysgol Gelf lle enillodd radd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain yn 2012 ac MA mewn Celfyddyd Gain (â Rhagoriaeth) yn 2014. Wedi hynny, cymhwysodd Tom fel athro a pharhaodd i baentio. Yn 2017, enillodd wobr Landscape Artist of the Year Sky Arts. Wedi hynny, bu’n teithio ar draws y byd yn cynnal gweithdai ac yn arddangos ei waith. Fe’i cynrychiolir gan nifer o orielau yn y Deyrnas Gyfuno ac yn Seland Newydd.
EnilloddAlysia Webster radd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain yn 2016 ac MA (â Rhagoriaeth) yn 2018 o Brifysgol Aberystwyth. Mae’n paentio yn ei stiwdio yn Swydd Efrog ac mae’n arddangos ei gwaith yn eang. Mae ei gwaith wedi’i gynnwys mewn sawl casgliad preifat. Cafodd ei gwaith ei gynnwys yn rhan o The Graduate Art Prize yn Llundain yn 2017 ac fe’i cynrychiolir gan ARTIQ.