Prosiect ar y cyd i ddatgloi treftadaeth ddiwylliannol porthladdoedd Cymru ac Iwerddon
Ports, Pasts and Present: Prosiect ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Cork a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon, a Phrifysgol Aberystwyth a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
10 Mawrth 2020
Mae prosiect ymchwil mawr yn ceisio rhoi hwb i dwristiaeth mewn pum tref porthladd yng Nghymru ac Iwerddon.
Nod yr astudiaeth bedair blynedd yw datgloi treftadaeth ddiwylliannol Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yng Nghymru a Dulyn a Rosslare yn Iwerddon.
Menter ar y cyd rhwng Coleg Prifysgol Cork (UCC) a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon, a Phrifysgol Aberystwyth a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yw ‘Ports, Pasts and Present: Cultural Crossings between Ireland and Wales’.
Mae’r prosiect £3.2 miliwn, sy’n cael ei arwain gan UCC, wedi derbyn €2.6 miliwn gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd drwy Raglen Gydweithio Iwerddon-Cymru.
Bydd y prosiect yn cael ei lansio’n swyddogol ddydd Mercher 11 Mawrth 2020 yn ystod Wythnos Cymru yn Nulyn gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Cynhelir y lansiad yn Dôm Cymru, a grëwyd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Siapan ac a symudwyd i Ddulyn ar gyfer y digwyddiad.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Eluned Morgan: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r prosiect newydd hynod gyffrous hwn, a fydd yn helpu i droi pump o borthladdoedd Cymru ac Iwerddon yn gyrchfannau twristaidd bywiog ynddynt eu hunain. Mae ein porthladdoedd yn gwneud cyfraniad hanfodol i'n heconomi - gan ddarparu swyddi a gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae busnes yng Nghymru a’r DU yn dibynnu ar borthladdoedd er mwyn symud nwyddau yn effeithlon ac yn gyflym rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd y prosiect newydd hwn yn gymorth i ddatblygu’n porthladdoedd ymhellach fyth, trwy ddod â'u treftadaeth ddiwylliannol unigryw yn fyw, caniatáu i bobl ddeall eu cyfraniad economaidd a diwylliannol cyfoethog yn y gorffennol, a'r rhan hanfodol sydd ganddynt i’w chwarae heddiw ac i’r dyfodol.”
Bydd y prosiect yn gweithio gyda rhanddeiliaid ym maes twristiaeth a chymunedau lleol er mwyn gwneud twristiaid yn fwy ymwybodol o hanes cyfoethog y pum porthladd.
Bydd gwaith creadigol yn y celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a ffilm yn cael ei gomisiynu i ddod â’r hanes yn fyw, tra bydd technoleg ddigidol yn cael ei ddefnyddio i ymgysylltu cynulleidfa newydd â threftadaeth gyfoethog y porthladdoedd.
Bydd gwaith gydag awdurdodau lleol a chwmnioedd twristiaeth yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu gweithgareddau twristiaeth newydd, tra bydd rhwydwaith twristiaeth Wyddelig a Chymreig ar y cyd yn cael ei sefydlu i gynorthwyo datblygiad tyfiant economaidd yn y porthladdoedd hyn.
“Mae hanes a straeon anhygoel yn perthyn i’r porthladdoedd hyn sydd yn amlach na pheidio yn ddiflanedig, gan gael eu hosgoi wrth i ni frysio o ac i gyrchfan arall. Nod y prosiect yw deffro cynulleidfaoedd i’r dreftadaeth hon ac wrth wneud hynny, weithio gyda chymunedau i ddatblygu marchnadoedd twristiaeth newydd i borthladdoedd Gwyddelig a Chymreig”, dywedodd Yr Athro Claire Connolly o Goleg Prifysgol Cork.
Dywedodd Yr Athro Peter Merrimann, pennaeth y prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Amcan y prosiect newydd cyffrous hwn yw datgloi potensial twristiaeth ym mhorthladdoedd Cymreig a Gwyddelig, nid yn unig i deithwyr fferi ond i deithwyr llongau pleser, sef un o’r sectorau twristiaeth sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Bydd y prosiect yn datgelu hanesion a threftadaeth gudd y porthladdoedd a theithiau’r gorffennol trwyddynt gan weithio gyda phreswylwyr, busnesau a rhanddeiliaid lleol i hybu’r diwydiant twristiaeth yn y cymunedau arfordirol hyn.”
Dywedodd Dr Mary-Ann Constantine o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn PCYDDS: “Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r cydweithio hwn gyda’n cydweithwyr Gwyddelig. Mae potensial aruthrol yma i weithio gyda chymunedau porthladd i gynorthwyo yn y broses o ddod â’r straeon yn fyw.”
Dywedodd George Colfer, Peiriannydd Arfordirol yng Nghyngor Sir Wexford: “Mae porthladd Rosslare wedi darparu cyswllt corfforol yn ogystal â diwylliannol rhwng Swydd Wexford a Chymru dros y blynyddoedd. Mae Cyngor Sir Wexford yn cydnabod pwysigrwydd y cysylltiad yma i’r rhanbarth de-ddwyrain; rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ar y prosiect a’r gymuned leol i adeiladu ar y cysylltiad cryf hwn ac i ddatblygu gweithgaredd economaidd yn yr ardal.”
Bydd y prosiect yn rhedeg tan 2023 ac anogir pobl leol i rannu eu straeon o fywyd porthladd fferi drwy e-bostio ports@ucc.ie neu ar Twitter @PortsPastPres.