Gwyddonwyr o Aberystwyth yn gweithio ar ymchwil ar lifogydd yr Iorddonen
Aelodau’r prosiect. Chwith i’r dde: Dr Hywel Griffiths, Dr Jonathan Bridge, Dr Esra'a Tarawneh a'r Athro Stephen Tooth
09 Mawrth 2020
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio ar brosiect arloesol sy’n mynd i’r afael â risg llifogydd yn afonydd tir sych yr Iorddonen, gwlad sy’n dioddef llifogydd sydyn dinistriol yn achlysurol.
Mae Dr Hywel Griffiths a’r Athro Stephen Tooth o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn gweithio gyda gwyddonwyr o Brifysgol Murah yn yr Iorddonen a Phrifysgol Sheffield Hallam ar brosiect o’r enw 'Developing an interdisciplinary approach to managing flood hazards in dryland rivers'.
Mae’r tîm, sydd wedi ei gyllido gan Ganolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol Aberystwyth (CYDRhA), yn edrych ar werth ffynonellau amrywiol o wybodaeth a data ynglŷn â llifogydd yn yr Iorddonen, lle mae cofnodion mesur llif mewn afonydd yn tueddu i fod yn brin.
Mae afonydd mewn sychdiroedd yn draenio tirweddau mewn rhanbarthau lled-gras a chras ledled y byd. Er y tueddua llif i ddigwydd yn anaml, pan fydd yn digwydd, mae'n tueddu i fod yn fflachlifau. Yn yr amgylcheddau hyn, maent hefyd yn bwysig iawn ar gyfer datblygiad y dirwedd, bioamrywiaeth ac adnoddau dŵr.
Nod y prosiect 18 mis yw cyfrannu at ddatblygu ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau llifogydd yn y rhanbarth a gwella gwytnwch.
Dywedodd Dr Hywel Griffiths: “Rydym ni’n falch iawn o allu datblygu’r cynllun newydd ar y cyd hwn a fydd, gobeithio, yn arwain at ddatblygiadau yn ein dealltwriaeth o’r ffactorau sydd yn arwain at lifogydd sydyn mewn ardaloedd cras, a chynnig rhai atebion ymarferol i reoli’r perygl o lifogydd yn yr Iorddonen.”
“Er ei bod yn un o ardaloedd y byd lle mae prinder dŵr ar ei waethaf, mae’r Iorddonen hefyd yn dioddef o lifogydd sydyn dinistriol a chostus, sydd yn gallu effeithio ar seilwaith rheoli dŵr allweddol megis cronfeydd ac argaeau. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod rheoli, ac addasu i’r fath lifogydd yn gofyn ystod eang o arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol, a gobeithiwn y bydd yr astudiaeth achos hon yn darparu gwersi y gellir eu cymhwyso mewn ardaloedd eraill.”
Mae’r prosiect yn adeiladu ar waith ymchwil tebyg gan Dr Hywel Griffiths a’r Athro Stephen Tooth ym Mhatagonia’r Ariannin, gwaith sydd wedi ei ariannu gan yr Academi Brydeinig a’r Cyngor Prydeinig.
Fel rhan o’r prosiect yn yr Iorddonen, bydd y tîm yn edrych ar gofnodion o lifogydd mewn dogfennau hanesyddol ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Byddant hefyd yn gwneud gwaith maes mewn dalgylch penodol yn yr Iorddonen lle gwelwyd llifogydd angheuol yn 2018 (Wadi Zarqa Ma'in) ac yn defnyddio modelu hydrolegol i astudio nodweddion llifogydd y gorffennol.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y prosiect ganol fis Chwefror ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn bresennol roedd Dr Hywel Griffiths, yr Athro Stephen Tooth, Dr Jonathan Bridge, geowyddonydd amgylcheddol o Brifysgol Sheffield Hallam a Dr Esra'a Tarawneh, modelwr hydrolegol o Brifysgol Mutah yn yr Iorddonen sydd â 10 mlynedd o brofiad yn gweithio ar ddalgylchoedd afonydd yr Iorddonen.
Bydd aelodau’r tîm o’r Deyrnas Unedig yn teithio i'r Iorddonen ym Mehefin 2020 ac eto yn Ebrill 2021.
Mae’r prosiect yn ehangu ar gysylltiadau a sefydlwyd rhwng academyddion yn y DU a Gwlad yr Iorddonen yn ystod gweithdy yn 2019 a ariannwyd gan Gyngor Prydain ar Reoli Dalgylch Cynaliadwy a Diogelwch Dŵr.