Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020

Dancing Queer, llun gan @LeviticusHinds

Dancing Queer, llun gan @LeviticusHinds

02 Mawrth 2020

Bydd rhaglen o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020.

Dydd Sadwrn 7 Mawrth, cynhelir tri gweithdy i fenywod yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, ac i ddilyn hyn ceir noson o sgyrsiau a pherfformiad byw.

Trefnwyd y digwyddiadau gan Brifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Aberration, a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.

Our Selfies, Ourselves – gweithdy i fenywod ar wneud Cylchgronau

Wedi diflasu ar y ffordd mae menywod yn cael eu portreadu yn y cyfryngau? Cymerwn faterion i'n dwylo'n hunain wrth i ni lunio, torri, gludo, stampio a gludlunio ein 'zine' neu gylchgrawn. 

Llyfryn neu gylchgrawn yw 'zines' (sy'n dalfyriad o 'magazine') wedi'u gwneud â llaw neu heb ddefnyddio fawr ddim technoleg a chyda theimlad creadigol, heb fod yn or-broffesiynol yr olwg arnynt.

Ddydd Sadwrn 7 Mawrth, o 12.30 - 14.30, bydd yr artist Nicky Arscott yn arwain gweithdy yn y labordy digidol yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, lle bydd modd creu cylchgronau sy'n adlewyrchu'r ffordd y credwch y dylai menywod gael eu portreadu.

Mae Nicky Arscott yn arbenigo ar wneud comics barddoniaeth, ac mae hi wedi arddangos ei gwaith yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, MOMA Machynlleth ac Oriel Davies, Y Drenewydd. Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac mae hi'n un o gyfarwyddwyr Ennyn CIC, sy'n hyrwyddo celf a chreadigrwydd mewn ysgolion a chymunedau.

Anelir y gweithdy at fenywod dros 16 oed, menywod traws a phobl anneuaidd, a'r pris fydd 5 (gostyngiad £3). 

Sounding Off! – gweithdy Theatr i fenywod

Dewch i rannu'ch profiad a'ch heriau mewn gweithdy cyfranogol.

O 2-5yp ddydd Sadwrn 7 Mawrth, bydd Jane Hoy yn arwain gweithdy sy'n gwahodd menywod i ddod i rannu eu profiadau a'u heriau mewn gweithdy cyfranogol.

Bydd y gweithdy'n cynnwys ymarferion ar ffurf gemau er mwyn dod i nabod eich gilydd ac archwilio straeon pobl eraill gan ddefnyddio rhai technegau o theatr fforwm a theatr gymunedol.

Mae Jane Hoy yn un o drefnwyr Aberration a hi yw rheolwr Living Histories Cymru. Wedi ei hyfforddi ym maes theatr gyfranogol, mae Jane yn ddawnswraig bale ac ystafell ddawns, ac yn arweinydd gweithdy ysbrydoledig a chynhwysol.

Anelir y gweithdy at fenywod dros 16 oed, menywod traws a phobl anneuaidd.  Nid oes angen profiad blaenorol a gofynnir i bobl wisgo dillad cyfforddus a bod yn barod i gymryd rhan.

Cynhelir y gweithdy yn Uned Greadigol 5/6 yng Nghanolfan y Celfyddydau, a'r pris fydd £5 (gostyngiad £3). 

Encore! – gweithdy cerdd i fenywod gyda'r Rock Project

Datgelwch y seren roc gudd sydd ynoch! Pa mor hen bynnag yr ydych chi, os ydych chi wedi breuddwydio erioed am fod mewn band roc, mae Encoreyr union beth i chi.

Mae'r gweithdy unigol hwn yn dechrau â gwers offerynnol neu leisiol penodol mewn grwpiau bach. Dilynir hyn gan sesiwn ymarferol o chwarae lle bydd cyfle i roi ar waith yr hyn a ddysgwyd trwy chwarae gyda'ch gilydd mewn band.

Caiff yr offerynnau eu darparu a bydd y gweithdy, a arweinir gan y tiwtoriaid cyfeillgar a gwybodus Lisa a Liesa, hefyd yn cynnig cyrsiau hwy i oedolion a phlant gyda'r Rock Project Aberystwyth. 

Anelir y gweithdy at fenywod dros 16 oed, menywod traws a phobl anneuaidd.  Bydd yn cael ei gynnal yn Undeb y Myfyrwyr, a'r pris fydd £5 (gostyngiad £3).  Amser y gweithdy yw 3-5yp, does dim angen profiad blaenorol ac mae croeso i ddechreuwyr.

Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232 neu e-bostiwch artstaff@aber.ac.uk er mwyn dewis sesiwn: drymiau, gitâr, bas neu leisiol.

Our Voices, Our Lives

Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda noson o sgyrsiau a pherfformiad byw i herio, disgleirio ac ysbrydoli.

Bydd y noson yn agor â sgwrs banel bywiog ar y thema 'Codi Llais'. Bydd yr actifyddion Shrouk El-Attar, Leena Sarah Farhat a Maria Mesa yn taflu goleuni ar faterion hollbwysig sydd yn effeithio ar fywydau menywod yng Nghymru a thu hwnt.

Wedi egwyl fer, ceir dathliad gyda'r dawnsiwr bol Dancing Queer, y bardd Kittie Belltree a'r gantores Emily Farr. Arweinir y noson gan Helen Sandler.

Croeso i bawb (canllaw oedran 14+). Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg. Pris tocynnau'r noson yw £7 (gostyngiadau £5).

Meddai Ruth Fowler, Swyddog Cydraddoldeb a Chyfathrebu Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rwy'n hynod gyffrous am y rhaglen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, diwrnod a ddaeth yn rhan o'r calendr digwyddiadau blynyddol yn Aberystwyth. Bydd y digwyddiadau eleni yn dathlu cyflawniadau, profiadau, heriau a safbwyntiau menywod mewn dull bywiog a deniadol, ac fe fyddwn yn annog menywod, menywod traws a phobl anneuaidd yn y Brifysgol ac yn y gymdeithas ehangach i gymryd rhan.”

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a gynhelir ar 8 Mawrth bob blwyddyn, yn ddiwrnod byd-eang i ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.