Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd

28 Chwefror 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflawni’r sefyllfa weithredol waelodol yr oedd wedi ei rhagweld ar gyfer 2018/2019 ac mae bellach mewn lle i gau ei Chynllun Gweithredu Cynaliadwyedd yn ffurfiol.

Dyluniwyd y Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd (SIP), a gymeradwywyd gan Gyngor y Brifysgol ym mis Ebrill 2017 i sicrhau iechyd ariannol y Brifysgol ar gyfer y dyfodol.

Amlinellodd yr angen i wneud arbedion cylchol o £11.4m dros ddwy flynedd ac ers hynny, mae adrannau wedi cymryd camau i leihau gwariant er mwyn gwella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd ariannol y Brifysgol.

Er bod Prifysgol Aberystwyth yn parhau i wynebu heriau ar draws y sector mewn amgylchedd sy’n gynyddol gymhleth a chystadleuol, mae hi wedi cyrraedd ei tharged ac mae bellach wedi cau'r broses honno'n ffurfiol.

Mae’r gwaith o sicrhau cynaliadwyedd ariannol a gallu’r Brifysgol i weithio'n effeithiol yn parhau. Fodd bynnag, bydd unrhyw ailstrwythuro yn y dyfodol yn digwydd yn fwy achlysurol, wrth i amgylchiadau ddod i’r amlwg.

Diolchodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure i staff, myfyrwyr a’r gymuned gyfan am eu cefnogaeth wrth i’r ymdrechion barhau i sicrhau sefydlogrwydd ariannol.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi'r effaith sydd wedi bod ar gydweithwyr er mwyn cyflawni'r arbedion hyn a hoffwn ddiolch iddynt am eu proffesiynoldeb, eu teyrngarwch a'u hymroddiad yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn un anodd.

“Mae'r sector addysg uwch yn ei chyfanrwydd mewn amgylchedd heriol ond trwy gyflawni'r SIP, mae'r Brifysgol wedi cymryd camau breision tuag at sicrhau cynaliadwyedd tymor hir Aberystwyth a'i gwneud yn fwy cadarn a gwydn i wynebu'r dyfodol.”

Mae adroddiad Datganiadau Ariannol y Brifysgol ar gyfer y Flwyddyn yn Gorffen 31 Gorffennaf 2019, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, yn dangos y cynnydd ariannol a wnaed mae’r Brifysgol wedi’i wneud i ail-gydbwyso ei sylfaen gostau ac mae’n disgwyl symud i warged bach yn y flwyddyn ariannol gyfredol.