Lansio Ysgol Gwyddor Filfeddygol newydd yn Aberystwyth

Chwith i'r Dde: Yr Athro Stuart Reid, Pennaeth y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol; Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor a'r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn lansio Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth.

Chwith i'r Dde: Yr Athro Stuart Reid, Pennaeth y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol; Yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor a'r Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn lansio Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth.

28 Chwefror 2020

Cafodd Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ei lansio heddiw, ddydd Gwener 28 Chwefror 2020.

Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth yn croesawu ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2021.

Mae’r cyhoeddiad yn dynodi lansiad swyddogol gradd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol newydd (BVSc) sydd yn cael ei chynnig ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).

Bydd myfyrwyr ar y radd bum mlynedd yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead RVC yn Swydd Hertford.

Bydd y rhaglen yn cwmpasu’r ystod llawn o anifeiliaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.

Bydd y datblygiad hefyd yn darparu cyfleodd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg tra yn Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae heddiw’n ddechrau pennod newydd bwysig a chyffrous yn hanes Prifysgol Aberystwyth a Chymru. Mae amaeth a’i diwydiannau perthnasol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae yna gyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Wyddor Filfeddygol newydd yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jigso, un a fydd yn adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

“Bydd ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyriwr, ac rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”

Mae’r datblygiad wedi ei groesawu gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths: “Mae hyn yn newyddion gwych i wyddor filfeddygol yng Nghymru. Bydd yr Ysgol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu’r man dechrau perffaith i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i weithio yn y sector bwysig hon. Bydd yr addysg a fyddant yn ei dderbyn o fudd i’r economi wledig ehangach yn ogystal â’r diwydiant amaeth.”

Roedd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, a’r Athro Stuart Reid,  Pennaeth y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn rhan o'r lansiad.

Dywedodd Yr Athro Christiane Glossop: “Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn adeiladu ar y sylfaen gref sefydliad academaidd llwyddiannus ac uchel ei barch. Bydd ein Hysgol Wyddor Filfeddygol gyntaf yn darparu canolbwynt rhagoriaeth mewn addysg, ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus ym maes milfeddygaeth i Gymru a thu hwnt.”

Dywedodd Yr Athro Stuart Reid, Prifathro Coleg Milfeddygol Brenhinol: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n cydweithwyr yn Aberystwyth i ddarparu cynnig a fydd o fudd i fyfyrwyr yn y ddau sefydliad. Mae ymrwymiad yr RVC i’r proffesiwn yn ei holl ffurfiau a’r amgylchedd gwledig yn benodol yn cael ei atgyfnerthu gan y cynllun ar y cyd pwysig hwn.”

Bydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ac yn elwa o’r Ganolfan Addysg Filfeddygol newydd a fydd yn cael ei datblygu ar gampws Penglais.

Mae’r Ganolfan newydd yn cynrychioli buddsoddiad o £1m, wedi ei ariannu yn rhannol gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, a bydd yn barod mewn pryd i groesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2021.

Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.

Yn ogystal â’r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth, bydd y myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr IBERS ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.

Prifysgol Aberystwyth yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru am 2020 yn ôl The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide, a hi yw’r unig Brifysgol i ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu’r canllaw ddwy flynedd yn olynol (2018 a 2019).

Dyfarnwyd yr Aur i Brifysgol Aberystwyth fel rhan o’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a hi yw’r Brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr, a’r ail yn y DU, am foddhad myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019.