Gwellaydd blas naturiol i alluogi cynnwys llai o halen mewn bwydydd
Dr Mike Morris yng nghanolfan bioburo BEACON ym Mhrifysgol Aberystwyth
26 Chwefror 2020
Mae ymchwil gwyddonol wedi llwyddo i ddatblygu cynnyrch bwyd y gellir ei ddefnyddio i leihau’n sylweddol faint o halen sydd mewn prydau wedi eu pecynnu ymlaen llaw.
Datblygwyd y gwellaydd blas gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio sgil-gynnyrch a wnaed wrth gynhyrchu mycoprotein, prif gynhwysyn cynnyrch Quorn.
Dangoswyd mewn profion bod modd gostwng faint o halen sydd mewn ystod o fwydydd rhwng 15-40%, a hynny heb effeithio’n negyddol ar flas cyffredinol y bwyd.
Mae'r prosiect wedi'i gynnal mewn partneriaeth rhwng Quorn Foods a Phrifysgol Aberystwyth, ynghyd â'r manwerthwr Waitrose & Partners, Create Flavours Ltd, Amano Enzyme Europe, Membranology a chydweithwyr ym Mhrifysgol Harper Adams.
Fe’i gwnaed yn bosibl diolch i arian gan raglen Innovate UK Llywodraeth y DU.
Mae canlyniadau profion wedi dangos bod defnyddio’r gwellaydd 5’ Nucleotides & Glutamates, neu NAGs yn fyr, wedi bod yn effeithiol yn lle halen mewn bwydydd llysieuol sawrus, creision tatws a chawliau.
Mae cymwysiadau eraill ar y gweill i'w profi unwaith y bydd digon o NAGs ar gael.
Cyflawnwyd y gwaith yn Aberystwyth gan y tîm yng Nghanolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON, sy'n rhan o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol.
Mae BEACON yn cynnig mynediad i ymchwil, arbenigedd a chronfa wybodaeth prifysgolion yng Nghymru ym maes trosi biomas a biowastraff yn gynhyrchion bio-seiliedig gyda chymwysiadau masnachol, i fusnesau a sefydliadau.
Dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, mae BEACON yn cael ei gefnogi gydag ychydig dros £12.2 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Rheolwr Datblygu Busnes BEACON, Dr Mike Morris o Brifysgol Aberystwyth: “Dyma enghraifft o ymchwil gwyddonol yn BEACON a allai gael effaith bellgyrhaeddol ar iechyd pobl. Mae lleihau halen mewn bwydydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn lleihau cyflyrau fel clefyd y galon, sy'n rhoi baich enfawr ar ein gwasanaethau iechyd ac yn achosi cyflyrau gwanychol hir-dymor sy'n cael effaith negyddol ar fywydau miliynau o bobl ledled y byd.
“Mae'r prosiect hwn wedi llwyddo i gymryd sgil-gynnyrch naturiol a'i fireinio fel y gellir ei ychwanegu at fwydydd yn hytrach na llawer o halen. Mae'r profion synhwyraidd cychwynnol a gynhaliwyd yn dangos ei fod yn effeithiol ac nad yw'n dylanwadu’n negyddol ar y blas.
“Gallwn weld potensial enfawr i’r cynnyrch hwn, nid yn unig wrth gynhyrchu bwydydd blasus iawn wedi’u pecynnu ymlaen llaw, ond wrth leihau cynnwys halen yn sylweddol mewn elfen boblogaidd o ddeietau modern.”
Mae'r prosiect wedi arwain at greu glasbrint a allai weld Quorn Foods yn parhau i gynhyrchu’r gwellaydd blas.
Mae'r cwmni, sydd â'i bencadlys yn Stokesley, Gogledd Swydd Efrog, y DU, bellach yn archwilio'r achos busnes a masnachol dros barhau i gynhyrchu'r gwellaydd blas er mwyn penderfynu ar y camau nesaf.
Dywedodd Dr Muyiwa Akintoye, Pennaeth Ymchwil a Datblygu Quorn Foods: “Yma yn Quorn Foods, rydym yn falch iawn bod cyllid Innovate UK wedi ein galluogi i wneud y datblygiad arloesol hwn drwy ailddatblygu'r sgil-gynnyrch hylif o'n proses eplesu. Dros y blynyddoedd, mae Quorn Foods wedi llwyddo i wella effeithlonrwydd carbon ei broses gynhyrchu 37% rhwng 2011 a 2017, diolch i ddatblygiad methodoleg ôl troed carbon sy’n caniatáu monitro allyriadau yn ofalus ar hyd y gadwyn gyflenwi gyfan. Mae prosesu pellach y sgil-gynnyrch er mwyn lleihau a dileu gwastraff yn ganolog i’n rhaglen gynaliadwyedd.”