Cyfle newydd i fyfyrwyr ymweld â’r Ariannin
20 Chwefror 2020
Mae cyfle newydd i fyfyrwyr o Aberystwyth ymweld â’r Ariannin fel rhan o gynllun teithio rhyngwladol sydd yn cael ei gynnig gan y Cyngor Prydeinig.
Yr Ariannin yw’r wlad ddiweddaraf i gael ei hychwanegu at restr cyrchfannau teithio cynllun Cymru Fyd-eang Darganfod y Cyngor Prydeinig, ac mae’n agored i israddedigion o Gymru sydd yn astudio mewn Prifysgol yng Nghymru ac yn dymuno ehangu eu gorwelion.
Bu Lucy Trotter, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth, yn flaenllaw yn y broses o sicrhau fod yr Ariannin yn cael ei chynnwys ar y rhestr.
Dywedodd: “Mae cynnwys yr Ariannin ar y rhestr yn arwyddocaol oherwydd fe fydd yn cyfnerthu a chryfhau cysylltiadau Prifysgol Aberystwyth â Phatagonia, yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr o incwm llai i deithio.”
Mae Lucy Trotter yn gwneud astudiaeth anthropolegol o Wladfa’r Ymsefydlwyr yn Chubut fel y mae hi heddiw ar gyfer doethuriaeth o’r LSE (London School of Economics).
Ym 1865 mudodd 153 o ddynion a menywod o Gymru i’r Ariannin ar gwch y Mimosa i sefydlu’r Wladfa.
Heddiw mae tua 5,000 o siaradwyr Cymraeg ym Mhatagonia ac mae Cymreictod yn rhan o fywyd dyddiol yno.
Mae gan Brifysgol Aberystwyth gysylltiad agos â Phatagonia, ac mae dau fyfyriwr yn teithio o Batagonia i Aberystwyth yn flynyddol i gwblhau’r Cwrs Haf Cymraeg.
Yn ogystal, mae nifer o ymchwilwyr ac academyddion o amryw adrannau yn gweithio ar Batagonia neu ar faterion yn ymwneud â’r Ariannin.
Ychwanegodd Lucy: “Rwyf wrth fy modd fod yr Ariannin yn cael ei chynnwys fel cyrchfan gan gynllun Cymru Fyd-Eang Darganfod y Cyngor Prydeinig. O fewn y Brifysgol, rydym wedi sefydlu grŵp rhyngddisgyblaethol o arbenigwyr sydd yn weithgar mewn ymchwil ar Batagonia, America Ladin a Chymru, a gobeithiaf y bydd ein myfyrwyr yn manteisio ar y profiad hwn.”
Cydlynwyd y cynnig i gynnwys yr Ariannin fel cyrchfan gan Marian Gray, Pennaeth Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Aberystwyth a Cathy Piquemal, Rheolwr Datblygu Ysgol Haf a Rhaglenni Byr.
Mae Cymru Fyd-eang Darganfod wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Prydeinig Cymru a Cymru Byd-eang, er mwyn cynyddu’r nifer o israddedigion sy’n hanu o Gymru mewn Prifysgol yng Nghymru sydd yn ymgymryd â phrofiadau tramor rhyngwladol fel rhan o’u hastudiaethau.
Nod y rhaglen yw chwalu rhwystrau o ran cyfranogiad drwy gynnig lleoliadau tymor byr a chefnogi costau byw.
Mae Cymru Fyd-eang Darganfod yn cynnig teithiau i 36 o wledydd yn cynnwys UDA, Canada, Siapan, EAU, Qatar, India, Tseinia a Fietnam a ledled yr Undeb Ewropeaidd. Am fwy o wybodaeth ac am restr lawn o’r gwledydd, ewch i: https://wales.britishcouncil.org/cymru-fyd-eang-darganfod
Dyddiad cau ar gyfer y cyfnod ariannu yw dydd Llun 2 Mawrth 2020.
Am y ffurflenni cais perthnasol a gwybodaeth ychwanegol cysylltwch â Cathy Piquemal 01970 622864/ crp@aber.ac.uk
Am wybodaeth bellach ynglŷn â theithio i’r Ariannin a Phatagonia cysylltwch â Lucy Trotter lut22@aber.ac.uk