Troi gwastraff fferm yn borthiant uchel mewn protein ar gyfer anifeiliaid
Mae gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn edrych ar sut gellid defnyddio gwastraff fferm i dyfu lliniad y dŵr fel ffynhonnell protein ar gyfer bwydo da byw.
19 Chwefror 2020
Gallai gwastraff o ffermydd gael ei ddefnyddio i gynhyrchu porthiant ar gyfer da byw sy’n uchel mewn egni, isel ei gost ac sy’n ecogyfeillgar.
Mae gwyddonwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda Choleg Prifysgol Cork yn Iwerddon i ymchwilio i’r modd y gellir gwneud gwell defnydd o slyri a’r dŵr gwastraff a ddaw o'r diwydiant llaeth.
Nod y prosiect gwerth £1.375m sy'n cael ei ariannu gan raglen Interreg Iwerddon-Cymru yr UE, yw defnyddio gwastraff fferm i dyfu lliniad y dŵr - planhigyn biomas sy'n tyfu'n gyflym y gellir wedyn ei ddefnyddio fel ffynhonnell protein ar gyfer bwydo da byw.
Os yw'r prosiect yn llwyddiannus, bydd yn gwella gallu'r diwydiant cig eidion a llaeth yng Nghymru ac Iwerddon i gystadlu drwy gynhyrchu porthiant sydd o fudd economaidd yn ogystal â lleihau dibyniaeth ffermwyr ar fewnforio porthiant uchel mewn protein fel soia.
Mae manteision amgylcheddol posib hefyd oherwydd gallai defnyddio'r cynnyrch gwastraff ar y fferm arwain at welliant yn ansawdd y dŵr mewn afonydd ac ardaloedd arfordirol Cymru ac Iwerddon.
Dywedodd Dr Dylan Gwynn-Jones, sy'n arwain y prosiect yn IBERS: "Rydym wedi ein cyffroi gan botensial yr ymchwil hwn sy'n ceisio helpu'r diwydiant amaethyddol yn y ddwy wlad trwy ddatblygu technoleg i gynhyrchu bwyd anifeiliaid o wastraff. I bob pwrpas, bydd yn galluogi ffermwyr i 'wneud arian o faw'.
"Gan weithio mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol Cork, byddwn yn datblygu lliniad y dŵr (Lemna minor) cyffredin yn gnwd newydd ar gyfer ffermydd Cymru a'r Iwerddon. Mae lliniad y dŵr yn un o’r planhigion sy'n tyfu gyflymaf, maen nhw'n gallu goddef amoniwm (sydd i'w gael mewn slyri), ac maen nhw'n cynhyrchu asidau amino gwerthfawr hanfodol sy'n ei wneud yn borthiant addawol i anifeiliaid."
Wrth gyhoeddi’r cyllid ym mis Chwefror 2020, dywedodd Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru Jeremy Miles: “Mae hon yn ffordd wych o ystwytho'r newid tuag at economi gylchol gynaliadwy. Trwy gydweithio ar draws ffiniau, mae Cymru ac Iwerddon yn mabwysiadu dull newydd, arloesol o warchod adnoddau, creu swyddi lleol - a thrin dŵr gwastraff fel adnodd a chyfle i greu rhywbeth da.
“Dyma enghraifft ddisglair arall o gyllid rhaglen Cydweithrediad Tiriogaethol Ewropeaidd (ETC) yn cefnogi prosiectau cydweithredol sy'n ceisio dod o hyd i atebion i faterion o bwys. Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau y gallwn barhau i fuddsoddi cyllid fel hyn yn y rhanbarthau yng Nghymru sydd ei angen fwyaf.”
Bydd y prosiect yn defnyddio gwybodaeth y timau am hydroponeg a rheoli gwastraff i ddatblygu systemau tyfu planhigion yn defnyddio maetholion a geir o wastraff anifeiliaid.
Wedi ei enwi yn 'Brainwaves' – Cytgord Rhanbarthol Dwyochrog rhwng Iwerddon a Chymru - mae'r prosiect yn seiliedig ar y cydweithio llwyddiannus blaenorol sydd wedi bod rhwng prifysgolion Aberystwyth a Cork.
Dan arweiniad Dr Gwynn-Jones, mae aelodau’r tîm yn IBERS hefyd yn cynnwys Dr Paul Robson sydd ag arbenigedd ym maes cynhyrchu planhigion a ffotobioleg, Dr John Scullion, gwyddonydd pridd arbenigol a Dr Sarah Dalesman sy'n fiolegydd dŵr croyw.
Bydd ymgynghoriad â chynrychiolwyr cymunedau a’r diwydiant amaethyddol hefyd fel rhan o’r prosiect ymchwil.