Canrif o addysg i oedolion yng Nghymru wledig

Dr Martin Wright

Dr Martin Wright

17 Chwefror 2020

Canrif o addysg i oedolion yng Nghymru wledig fydd testun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth i nodi canmlwyddiant Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol.

Yn ei ddarlith, A Century of University Adult Education in Rural Wales’, bydd Dr Martin Wright o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd yn ystyried yr heriau mae prifysgolion sy’n gwasanaethu Cymru wledig wedi eu hwynebu dros y ganrif ddiwethaf wrth geisio cynnig cyfleoedd addysgol i’r holl ddinasyddion, sut mae’r arlwy wedi addasu i fodloni anghenion a dyheadau dysgu newidiol, a rhai o’r ffyrdd y gall addysg oedolion yng Nghymru wynebu heriau’r dyfodol.

Fel yr esbonia Dr Martin Wright: “Gall y prifysgolion sy’n gwasanaethu Cymru wledig ymfalchïo mewn dros ganrif o estyn allan i’w cymunedau i gynnig cyfleoedd addysgol i bawb eu mwynhau. Eu cenhadaeth, fel y’i diffiniwyd yn y setliad addysgol a gymynroddwyd gan y genhedlaeth a oroesodd y Rhyfel Mawr, oedd cyfoethogi gwareiddiad drwy greu dinasyddion da. Bydd y ddarlith yn edrych ar y ffyrdd y bu prifysgolion Cymru’n ceisio cyflawni’r genhadaeth hon, ac yn myfyrio ar yr heriau maen nhw wedi eu hwynebu wrth wneud hynny.

 “Bydd yn olrhain y ffyrdd y mae newid cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wedi creu amrywiaeth o anghenion a dyheadau addysgol sy’n esblygu’n barhaus, a bydd yn gwerthuso’n feirniadol y ffyrdd mae addysgwyr oedolion mewn prifysgolion wedi gwasanaethu eu cymunedau. Bydd yn cyflwyno addysg oedolion fel lens ddifyr y gellir ei defnyddio i archwilio cymdeithas drwyddi.

 “Yn 1908, nododd R.D. Roberts, yr addysgwr oedolion arloesol o Aberystwyth, fod addysg oedolion yn fudiad gydag ysbryd mewnol a ffurf allanol: ‘Mae’r ysbryd yn parhau ac nid yw’n newid ond mae’r ffurf allanol yn newid o un genhedlaeth i’r llall’.  Bydd y ddarlith hon yn edrych ar natur yr ‘ysbryd mewnol’ hwnnw a’r newidiadau yn y ‘ffurf allanol’ sydd wedi digwydd dros y ganrif ddiwethaf. Bydd yn defnyddio’r dadansoddiad hanesyddol hwn i awgrymu ffyrdd y gall addysg oedolion yn y rhan hon o’r byd wynebu heriau’r dyfodol.”

Mae Dr Martin Wright yn Uwch-ddarlithydd Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe’i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, a bu’n gweithio am ddegawd a mwy ym maes addysg oedolion yng Nghymru wledig. Ef yw awdur Wales and Socialism: Political Culture and National Identity Before the Great War.

Cynhelir y ddarlith gyhoeddus‘A Century of University Adult Education in Rural Wales’ am 3.30pm ddydd Llun 2 Mawrth 2020 yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth. Mae mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb.

Am 1pm ar yr un dydd, bydd cyfle i ymweld ag adran creu printiau’r Ysgol Celf yn Adeilad Edward Davies, Buarth Mawr, gyda chyfle i weld gwaith myfyrwyr, staff a gwneuthurwyr print cyfoes sydd yn y Casgliad Celf a Chrefftau.

Sefydlwyd yr Adran Dysgu Gydol Oes, sy’n dathlu ei chanmlwyddiant eleni, yn 1919, dan yr enw Adran Efrydiau Allanol. Hon oedd yr adran gyntaf o’i math i’w sefydlu yng Nghymru, a dim ond yr ail yn y DU.

Erbyn heddiw, mae’r adran yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau, o Sgriptio i Fywyd Llonydd, Amrywiaeth Planhigion i Bortreadau, Hanes Lleol i Gerflunio Helyg Byw, ac o Ffrangeg i Seicoleg Fforensig.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalennau ar-lein yr adran neu cysylltwch ar 01970 621580 / learning@aber.ac.uk.