Cyflwyno map carbon newydd yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Madrid
Map Biomas (llun ESA) – Defnyddiwyd data lloeren i greu map o Biomas uwchben y tir ar gyfer 2017-18. Mae’r map newydd yn defnyddio data optegol, lidar a radar a gasglwyd yn 2017 a 2018 gan loerenni niferus sy’n arsylwi’r ddaear, a dyma’r un cyntaf sy’n integreiddio canfyddiadau niferus o daith Copernicus Sentinel-1 a thaith ALOS Japan.
23 Rhagfyr 2019
Mae map newydd sy’n dangos y newid yn y carbon gaiff ei storio fel biomas ar hyd a lled coedwigoedd a llwyndiroedd y byd wedi cael ei greu gan ddefnyddio delweddau lloeren blaengar.
Datblygwyd y map gan dîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Richard Lucas o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a chafodd ei gyflwyno yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP25) a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2019.
Yn ôl yr Athro Lucas, mae llawer o’r carbon sydd mewn coedwigoedd yn cael ei storio yn fforestydd glaw’r trofannau gwlyb, ond mae’r map newydd yn dangos bod biomas wedi cael ei ddosbarthu’n helaeth ar hyd a lled bïomau eraill, yn enwedig y trofannau sych, yr isdrofannau a’r parthau boreal.
“Mae’r holl fïomau hyn yn mynd trwy newid digynsail sy’n gysylltiedig â gweithgarwch dynol, sy’n gwaethygu oherwydd newid hinsawdd”, dywedodd.
“Mae gwybod faint o garbon mae’r coedwigoedd hyn yn ei ddal a sut mae hyn wedi newid – ac yn newid – yn gam mawr tuag at sicrhau eu dyfodol hir-dymor a mynd i’r afael â newid hinsawdd.”
Cafodd y map o uwchben y tir ei greu gan ddefnyddio data optegol, lidar a radar a gasglwyd yn 2017 a 2018 gan nifer o loerennau sy’n arsylwi’r ddaear.
Dyma’r map cyntaf sy’n integreiddio data lloeren o daith Copernicus Sentinel-1 a thaith ALOS Siapan, sydd wedi gwella ei gywirdeb yn sylweddol o’i gymharu â mapiau cyffelyb blaenorol.
Wrth i blanhigion dyfu, maen nhw’n tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer ac yn ei storio fel biomas. Yna caiff hwn ei ryddhau yn ôl i’r atmosffer drwy brosesau fel datgoedwigo, aflonyddu neu danau gwyllt.
Mae asesu’r newidiadau dynamig hyn yn allweddol er mwyn deall y cylch carbon a hefyd i ddylanwadu ar fodelau hinsawdd byd-eang sy’n cynorthwyo gyda’r dasg o ddarogan newid yn y dyfodol.
Mae’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau weithio tuag at yr ‘Archwiliad Byd-eang,’ elfen o gytundeb hinsawdd byd-eang Paris a fydd bob hyn a hyn yn gwirio’r cynnydd rhyngwladol tuag at wireddu addewidion lleihau allyriadau a chyfyngu cynhesu byd-eang.
Y cam nesaf i’r tîm ymchwil yw datblygu map sy’n ymdrin â chyfnod 2018-19, a mesur y newidiadau rhwng y blynyddoedd.
Ychwanegodd yr Athro Lucas: “Prif gryfder y mapiau sy’n cael eu creu o arsylwadau lloeren yw eu bod nhw’n cynnig dull sy’n gyson ledled y byd.
“Mae mesuriadau cyson a niferus o’r gofod yn helpu nodi newidiadau mewn dosbarthiad a dwysedd biomas dros amser, sydd yn eu tro’n dylanwadu ar bolisïau sy’n hyrwyddo mentrau lleihau allyriadau carbon a gwarchod coedwigoedd, fel rhaglen Lleihau Allyriadau o Ddatgoedwigo a Dirywio y Cenhedloedd Unedig.”