Dychmygu Wtopia
Saltaire yn Swydd Efrog - tref felin sydd bellach yn safle treftadaeth y byd
18 Rhagfyr 2019
Mae prosiect newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd yn ystyried sut mae pobl yn dehongli ac yn mynegi’r ddelfryd wtopaidd.
Dan arweiniad Dr Alice Vernon a Dr Jacqueline Yallop o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, mae’r prosiect Imagining Utopias yn ymwneud â chymunedau, beth sy’n gwneud wtopia, a sut gall pobl ymateb yn greadigol i’r ddelfryd wtopaidd.
Mae Dr Alice Vernon wedi bod yn rhedeg cyfres o weithdai mewn ysgolion, prifysgolion ac ardaloedd cymunedol: “Rydym wedi bod yn gofyn i bobl am beth fyddan nhw’n meddwl wrth feddwl am wtopia? A ydyn nhw’n dychmygu dinasoedd disglair â thechnoleg i ddarparu ar gyfer popeth sydd ei angen arnyn nhw? Neu ydyn nhw’n dychmygu cymuned mewn cytgord â natur? Neu efallai gymysgedd cytbwys o’r ddeubeth hyn – toreth o ardaloedd trefol gwyrdd.
“Mae ein gweithdai wedi gwahodd pobl i feddwl am y lle maen nhw’n byw ynddo, i weld elfennau wtopaidd yn eu hardaloedd eu hunain, i drafod delfrydau wtopaidd y gorffennol ac i ddychmygu’r hyn all cymuned berffaith fod heddiw.”
Mae’r prosiect hefyd wedi lansio cystadleuaeth greadigol sy’n gwahodd aelodau’r cyhoedd i fynegi eu syniadau am ddelfryd wtopaidd drwy ysgrifennu creadigol, celf, neu ffilm.
Mae Dr Yallop yn egluro: “Rydym yn gyffrous iawn o gael lansio cystadleuaeth, a hyderwn y bydd yn ysbrydoli pobl i feddwl yn greadigol am yr hyn all Wtopia fodern fod. Er enghraifft, a yw eich hoff le ychydig bach yn wtopaidd? Pe gallech wneud eich ardal leol yn berffaith, sut byddech chi’n gwneud hynny? Sut gallwn ni greu wtopia er mwyn ymateb i’r argyfwng hinsawdd? Trwy’r prosiect, byddwn yn cael ein hatgoffa pam mae’n bwysig i barhau i chwilio am ffyrdd gwell o fyw.”
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 14 Chwefror 2020. Bydd yr enillydd o’r categori 11-18 a’r categori i oedolion yn derbyn Tocyn Llyfr gwerth £100 yr un.
Bydd yr enillwyr a’r rhai fydd yn ennill yr ail wobr ym mhob categori yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa yn Theatr Arad Goch yn Aberystwyth yn Ebrill 2020.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a’r gystadleuaeth, ewch i https://tinyletter.com/ImaginingUtopias neu dilynwch y prosiect ar Twitter @AberUtopias.
Un o’r 'cynlluniau tref' Iwtopaidd a ddyluniwyd mewn gweithdy gyda disgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Argoed, Sir y Fflint