Darganfyddiad am liw defnydd yn helpu rheoli pryfed tsetse marwol

Dr Roger Santer. Mae ei waith ar sut mae pryfed tsetse yn gweld lliwiau wedi arwain at greu defnydd lliw gwell ar gyfer y targedau sydd wedi cael eu trin â phryfleiddiad a ddefnyddir i'w reoli.

Dr Roger Santer. Mae ei waith ar sut mae pryfed tsetse yn gweld lliwiau wedi arwain at greu defnydd lliw gwell ar gyfer y targedau sydd wedi cael eu trin â phryfleiddiad a ddefnyddir i'w reoli.

13 Rhagfyr 2019

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn rhan o ddarganfyddiad gwyddonol a allai helpu rheoli achosion o glefyd trofannol dinistriol.

Mae pryfed tsetse yn bla ar draws ryw 10 miliwn cilometr sgwâr o Affrica Is-Sahara, ac mae eu brathiadau’n trosglwyddo parasitiaid sy’n gallu achosi clefyd ‘Salwch Cysgu’ mewn pobl a chlefyd tebyg, ‘nagana’, mewn anifeiliaid.

Heb driniaeth, mae Salwch Cysgu fel arfer yn achosi cyfnod hir o ddioddefaint hir a marwolaeth.

Ond bellach, diolch i waith gafodd ei arwain gan y swolegydd Dr Roger Santer yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth, mae ymchwilwyr wedi gallu creu defnydd lliw gwell ar gyfer y targedau sydd wedi cael eu trin â phryfleiddiad a ddefnyddir i reoli tsetse, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o sut mae pryfed yn gweld lliwiau.

Fel arfer caiff targedau tsetse eu gwneud allan o baneli mawr cotwm wedi eu lliwio’n ddu neu’n las, sydd weithiau â rhwyd o’u cwmpas.

Mae’r targedau, sy’n cael eu gosod o gwmpas lleoedd ble mae pobl yn byw ac ardaloedd ble mae da byw yn pori, yn cael eu gorchuddio mewn pryfleiddiad fel y caiff pryfed eu denu i fynd atyn nhw, ac maen nhw’n cael eu dosio a’u lladd cyn y gallan nhw symud ymlaen i heintio pobl ac anifeiliaid.

Sylweddolwyd yn ddiweddar bod targedau polyester yn ysgafnach, yn para’n hirach, ac yn dal pryfleiddiad yn well, ond nid yw targedau polyesterau glas yr un mor effeithiol wrth ddenu tsetse â rhai cotwm, er bod eu lliw yn ymddangos yn debyg i’r llygad dynol.

Dywedodd Dr Santer: “Fe gyfrifon ni sut y byddai golaudderbynyddion pryfyn yn ymateb i amrywiaeth o ddefnyddiau lliw er mwyn sefydlu priodweddau deniadol gwahanol liwiau, o safbwynt ‘golwg pryfyn’.

“Yna fe ddyfeision ni ddefnydd polyester i fod yn fwy deniadol i’r pryfed yn fwriadol, yn seiliedig ar yr egwyddorion hynny, a phrofi ei effeithiolrwydd yn erbyn pryfed tsetse y safana. Yn ddiddorol iawn, roedd y defnydd newydd hwn yn edrych fel lliw fioled i’r llygad dynol yn hytrach na’r lliw glas neu ddu safonol sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer.”

Yn ystod eu harbrawf, cymharodd y tîm ymchwil yr hyn roedd y targedau polyester amrywiol wedi ei ddal â’r hyn roedd un traddodiadol o gotwm du wedi ei ddal.

Fe ddarganfyddon nhw bod targedau a wnaed o bolyesterau glas yr un mor effeithiol â rhai du cotwm, sy’n dangos bod y defnydd polyester mwy modern yn ddefnyddiol wrth reoli tsetse y safana.

Yn bwysicach fyth, fe ddarganfyddon nhw hefyd bod eu polyester fioled newydd yn denu tua 50% yn fwy o bryfed tsetse benywaidd na’r cotwm du traddodiadol neu bolyester glas arferol, gan ddangos ei fod yn fwy effeithiol wrth reoli pryfed tsetse.

Ychwanegodd Dr Santer: “Mae ein canlyniadau’n dangos y gellir defnyddio modelau sy’n seiliedig ar olaudderbynyddion i ddyfeisio defnyddiau sy’n fwy deniadol i tsetse, ac yn dangos bod y defnydd fioled a ddatblygwyd yn yr astudiaeth hon yn gryf ac effeithiol ar gyfer targedau i’w defnyddio yn erbyn rhywogaethau’r safana.

”Mae rhagor o waith i’w wneud, ond gobeithio y bydd ein polyester fioled newydd yn cyfoethogi effeithiolrwydd dyfeisiau rheoli tsetse, ac yn gwella bywydau pobl a chymunedau ledled Affrica.”

Mae canlyniadau Dr Santer wedi eu cyhoeddi yn rhifyn diweddaraf y cyfnodolyn PLOS Neglected Tropical Disease: Optimising targets for tsetse control: Taking a fly’s-eye-view to improve the colour of synthetic fabrics.