Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau nawdd i fynd i’r afael â chlefyd siwgr yn Affrica
Dr Rattan Yadav o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn arwain y gwaith ar filed perlog.
11 Rhagfyr 2019
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi sicrhau cyllid i ddatblygu cnydau all helpu i atal problem gynyddol clefyd siwgr yn Affrica.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod dros 25 miliwn o bobl yn dioddef clefyd siwgr math-2 yn Affrica ar hyn o bryd, a disgwylir i’r niferoedd godi i 41 miliwn erbyn 2045.
Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK, bellach wedi cyd-ariannu prosiect £500k sy’n cael ei arwain gan wyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth i ddatblygu cnydau – ac yn benodol amrywiaethau a hybridiau o filed perlog – sy’n gallu ffynnu yn Affrica Is-Sahara, a darparu ffynhonnell fwyd sy’n llesol i’r boblogaeth leol o ran clefyd siwgr.
Bydd y prosiect yn ceisio amlhau i’r eithaf gydnerthedd cnydau miled perlog a chanddynt fynegai glycemic isel i’w ffermio yn y rhanbarth.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd miled perlog ar gyfer gwneud uwd, kedgeree a bara fflat megis chapattis, ond yn gynyddol mae’n cael ei ddefnyddio mewn bara, bisgedi a grawnfwyd brecwast.
Er mwyn cyflawni’r prosiect, mae’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â’r Athrofa Ymchwil i Gnydau Ryngwladol ar gyfer Trofannau Lletgras (ICRISAT) a Fferm Hadau AINOMA yn Niger, Gorllewin Affrica.
Canfuwyd bod miled perlog yn helpu i atal defnyddwyr rhag datblygu clefyd siwgr math-2, yn ogystal â helpu dioddefwyr i reoli eu cyflwr.
Mae’n fwyd ffeibrog iawn gan ei fod yn cael ei dreulio’n araf, sy’n helpu i gynnal lefelau’r siwgr yn y gwaed dros gyfnod cymharol hir.
Mae’r tîm ym Mhrifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Rattan Yadav, eisoes wedi sicrhau enw da iawn i’w hunain yn y maes hwn, gan eu bod newydd gwblhau prosiect tebyg yn India. Mae’r gwaith a wnaed yno wedi adnabod math o filed perlog sy’n gallu ffynnu yn lleol.
Mae miled perlog yn cael ei dyfu ar hyn o bryd yn India ar 27 miliwn hectar yn flynyddol ac mae dros 65 miliwn o bobl y wlad yn dioddef o glefyd siwgr math-2.
Dywedodd Dr Yadav: “Mae clefyd siwgr math-2 yn broblem enfawr a chynyddol ar draws Affrica Is-Sahara. Ein hamcan nawr, felly yw datblygu amrywiaethau a hybridiau o filed perlog fydd yn ffynnu yn yr amodau lleol ac yn helpu i leihau twf ac effeithiau’r clefyd hwn.
“Rydym yn gwybod o’r gwaith darllen yr ydym wedi ei wneud y gall oedolyn sy’n dioddef clefyd siwgr math-2 yn Affrica ychwanegu tua 25% at gostau byw ei deulu. Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn y blynyddoedd i ddod yn cynnig gobaith i ddioddefwyr allu byw’n gynaliadwy.
“Ar ôl ein gwaith yn India, rydym yn falch iawn o gael cyfle i barhau ein gwaith sydd eisoes yn cael effaith ar yr ymdrechion ledled y byd i atal effeithiau gwanychol clefyd siwgr math-2.
“Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Innovate UK, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw, yn ogystal â’n partneriaid yn y prosiect wrth inni geisio mynd i’r afael â’r problemau cynyddol sy’n cael eu hachosi gan y cyflwr hwn.”
Ychwanegodd Dr Prakash Gangashetty, bridiwr Miled gydag ISCRISAT: “Rydym yn gweithio ar lawr gwlad mewn nifer o wledydd yn Affrica Is-Sahara ers bron 50 mlynedd yn cynnwys rhedeg rhaglenni miled perlog. Mae cynnwys manteision o ran maeth ac iechyd yn y rhaglenni bridio yn ddatblygiad angenrheidiol a phwysig.”
Dywedodd Aichatou Salifou, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Cyffredinol AINOMA: “Un o’r prif broblemau sy’n wynebu ffermwyr Affrica yw cael gafael ar y math cywir o hadau. Bydd y prosiect hwn yn sicrhau bod hadau miled perlog â nodweddion startsh ynddynt ar gael yn ogystal â helpu i ddatblygu’r capasiti i gynhyrchu hadau yn y rhanbarth yn Affrica. Bydd hyn o gymorth i ffermwyr ymgynhaliol gynhyrchu grawn miled perlog ar gyfer defnyddwyr a fydd yn lleihau effaith clefyd siwgr math-2 mewn modd fforddiadwy.”
Cefnogir y prosiect gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) a’r Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang (GCRF) drwy Innovate UK.