Arddangosfa – Shy Green-Ice Blue
Goleuni’r Gogledd mewn dyfrlliw, inc a phaent chwistrellu gan Simon Pierse.
09 Rhagfyr 2019
Bydd gweithiau celf gan Dr Simon Pierse, sy’n darlunio rhanbarthau arctig Gorllewin y Lasynys, yn cael eu harddangos yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth rhwng y 9fed o Ragfyr 2019 a’r 7fed o Chwefror 2020.
Ym mis Medi 2018, tra oedd ar fwrdd llong ymchwil Rwsiaidd, yr Akademik Sergey Vavilov yng nghwmni Cyfeillion Sefydliad Ymchwil Pegynol Scott, creodd Dr Pierse frasluniau o fynyddoedd iâ, gwelodd Oleuni’r Gogledd o ddec y llong a chyfarfu â chymuned Inuit Qikiqtarjuaq.
Mae’r darluniau sy’n deillio o’r daith, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai dyfrlliw, yn atgof am y profiadau hyn yn rhanbarthau arctig Gorllewin y Lasynys ac ar Ynys Baffin, ac maent yn darlunio’r tirlun, y llifau iâ a ffurfiau haniaethol chwyrlïog Goleuni’r Gogledd. Mewn darn clyweledol o’r enw ‘Lleisiau Goleuni’r Gogledd’, mae Pierse yn gosod sain lleisiau o Ddenmarc ac o’r Lasynys, ynghyd â seiniau’r goleuadau eu hunain, dros ei ddelweddau ef o’r rhanbarth.
Astudiodd Simon Pierse, a aned yn Llundain ym 1956, yn Ysgol Gelf y Slade ac aeth yn ei flaen i’r Accademia Delle Belle Arti yn Fflorens.
Roedd yn Ddarlithydd ac Uwch Ddarlithydd Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth rhwng 1992 a 2016.
Mae’n aelod o’r Gymdeithas Ddyfrlliw Frenhinol a bu’n Is-lywydd y Gymdeithas honno o 2009 tan 2012. Mae’n aelod anrhydeddus o Sefydliad Dyfrlliw Awstralia ac mae’n Geidwad Darluniau yn yr Alpine Club.
Ceir enghreifftiau o’i waith yn y Casgliad Brenhinol, yng nghasgliadau cyhoeddus Prifysgol Llundain, ym Mhrifysgol La Trobe, Melbourne, yn Amgueddfa Gelf Qingdao, Tsieina, yn Sefydliad Dunmoochin, Melbourne, yn yr Alpine Club, Llundain, yn y FIAF, Abruzzo, yr Eidal, yng Nghasgliad Diploma y Gymdeithas Ddyfrlliw Frenhinol, ym MOMA Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Amgueddfa ac Oriel Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal â mewn nifer o gasgliadau ar draws y byd.
MaeShy Green - Ice Blue, Simon Pierse: Lluniau o’r Lasynys i’w gweld yn yr Oriel Gelf, Buarth Mawrth, Aberystwyth rhwng y 9fed o Ragfyr 2019 a’r 7fed o Chwefror 2020. Mae’r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am a 5pm (ar gau 23 Rhagfyr - 6 Ionawr). Croeso cynnes i bawb ac mae mynediad am ddim.