Ymestyn cynllun cam-drin yn y cartref i wledydd eraill y DU
Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd ar Dewis Choice, o Adran y Gyfraith a Throseddeg fydd yn arwain y cynllun newydd.
03 Rhagfyr 2019
Mae menter arloesol o Gymru sy'n cefnogi pobl hŷn sy'n dioddef cam-drin yn y cartref ar fin cael ei hymestyn ledled y DU.
Cafodd prosiect ‘Dewis Choice’ o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth (2015-2019) a oedd yn gwneud gwaith ymchwil ar y cyd ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae’r prosiect, sy’n rhan o Ganolfan Astudio Heneiddio, Cam-drin ac Esgeuluso, yn parhau i gynnig pecyn cyfannol o gefnogaeth a chyngor i bobl 60 oed a hŷn yng Nghymru sy'n cael eu camdrin gan bartneriaid agos neu aelodau eraill o’u teulu.
Bellach mae Dr Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd ar Dewis Choice, wedi derbyn £335,000 gan UK Portfolio i gyllido Trawsnewid yr Ymateb i Drais yn y Cartref.
Bydd y cynllun newydd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu cynlluniau peilot newydd ar draws y DU sy'n integreiddio dulliau cyfiawnder a lles.
Bydd hefyd yn defnyddio gwaith a wnaed gan Dewis Choice dros y pedair blynedd diwethaf â’r nod o drawsnewid yr ymateb i gam-drin domestig ar gyfer pobl hŷn.
Gyda chyllid raglen ‘Accelerating Ideas’ UK Portfolio, bydd tîm Aberystwyth yn ymweld â Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr i rannu canfyddiadau eu hymchwil ar bobl hŷn a cham-drin domestig gydag ystod o randdeiliaid.
Dywedodd Sarah Wydall: “Mae Dewis Choice wedi cynhyrchu cynllun llawr gwlad a grewyd gan y gymuned yn benodol er mwyn cefnogi dioddefwyr hŷn sydd wedi goroesi camdriniaeth i wneud dewisiadau gwybodus am gyfiawnder, sifil, troseddol ac adferol, ac i sicrhau nad ydynt yn cael eu trin yn wahanol oherwydd oedran, rhyw, rhywioldeb neu anabledd. Yr ymchwil hefyd yw'r cyntaf o'i fath i gynnal darpar astudiaeth hydredol sy’n archwilio'r broses o wneud penderfyniadau yng nghyd-destun cam-drin domestig yn hwyrach mewn bywyd.
“Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn cyllid newydd i rannu’r hyn rydym wedi ei ddysgu mewn meysydd newydd yn y maes hwn megis y berthynas rhwng cam-drin domestig a dementia, LGBTQ a cham-drin domestig a'r ymateb i bobl hŷn wrth geisio cymorth. Bydd yn ddiddorol gweld a oes lle i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau cymorth mewn ardaloedd eraill, yn enwedig o ystyried y gwahanol fframweithiau deddfwriaethol a pholisi yn y gwledydd hyn. Mae'n bwysig, pe bai unrhyw gyfleoedd posibl yn codi, bod y model fydd yn cael eu creu yn cynnwys cyfraniadau gan ddioddefwyr hŷn a chymunedau lleol, ac yn ategu'r gwasanaethau presennol ym mhob ardal unigol.”
Hyd yn hyn, mae canfyddiadau ymchwil Dewis Choice wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yn ddiweddarach mewn bywyd gyda dros 5,000 o bobl yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnwys academyddion, y cyhoedd, ymarferwyr a llunwyr polisi.
Bu 376 o wirfoddolwyr yn gweithio ar Dewis Choice ac mi fydd llawer yn parhau i gyfrannu at y prosiect newydd a chodi ymwybyddiaeth o gam-drin domestic yn ddiweddarach mewn bywyd.
Ym mis Awst 2019 dyfarnwyd grant Comic Relief o £70,000 i Dewis Choice ar gyfer astudiaeth ddeuddeng mis i’r berthynas rhwng cam-drin domestig a dementia ymhlith hen bobl.
Bydd canfyddiadau’r gwaith hwn yn hysbysu’r fenter ar draws y DU a datblygiadau polisi ac arfer, yn ogystal â thaflu goleuni ar fylchau mewn deddfwriaeth.
Sefydlwyd Dewis Choice yn 2015 gan yr Athro John Williams, Sarah Wydall a'r Athro Alan Clarke gyda chyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Hwn oedd y gwasanaeth pwrpasol cyntaf yn y DU a grewyd ac a gafodd ei werthuso gan bobl hŷn, ymarferwyr allweddol a llunwyr polisi er mwyn integreiddio dewisiadau cyfiawnder, sifil, troseddol ac adferol gyda chefnogaeth llesiant.