Ethol un o raddedigion Aberystwyth yn Gomisiynydd yr UE
Y cynfyfyriwr Gwleidyddiaeth Ryngwladol Virginijus Sinkevičius sydd wedi cael ei ethol yn Gomisiynydd yr UE dros yr Amgylchedd, Cefnforoedd a Physgodfeydd.
02 Rhagfyr 2019
Mae un o raddedigion Astudiaethau Gwleidyddol Prifysgol Aberystwyth wedi ei ethol yn Gomisiynydd yr UE dros yr Amgylchedd, Cefnforoedd a Physgodfeydd.
Graddiodd Virginijus Sinkevičius, brodor o Lithwania, o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda gradd mewn Astudiaethau Gwleidyddol yn 2012.
Mae Virginijus yn un o 27 comisiynydd i gael eu penodi gan y Cyngor Ewropeaidd a’u cyhoeddi gan Lywydd newydd y Comisiwn, Ursula von der Leyen, ddydd Iau 28 Tachwedd 2019.
Y Comisiynwyr, un o bob gwlad yn yr UE, yw arweinyddiaeth wleidyddol y Comisiwn a’u tasg yw hyrwyddo buddiannau cyffredinol yr UE drwy gynnig a gorfodi deddfwriaeth a gweithredu polisiau a chyllideb yr UE.
Eu cyfnod yn y swyddi fydd 1 Rhagfyr 2019 tan 31 Hydref 2024.
Mae gan bob Comisiynydd gyfrifoldeb dros feysydd polisi penodol, a bydd Virginijus yn gwneud penderfyniadau ynghylch strategaeth a pholisi sy’n ymwneud â’r amgylchedd, cefnforoedd a physgodfeydd.
Dywedodd Dr Patrick Finney, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n newyddion gwych bod ein cynfyfyriwr, Virginijus Sinkevičius, wedi cael ei benodi’n Gomisiynydd yr UE. Mae wedi cael gyrfa wleidyddol ddisglair iawn ers graddio yn 2012, ac mae hyn yn gamp wych arall iddo. Mae ei lwyddiant yn dangos un o’r ffyrdd niferus y gellir defnyddio hyfforddiant trylwyr mewn astudiaethau gwleidyddol yn ymarferol.
“Mae hefyd yn wych bod Virginijus yn gyfrifol am bortffolio’r amgylchedd – mae’r heriau sy’n deillio o newid hinsawdd yn cael eu cydnabod fwyfwy fel heriau mwyaf tyngedfennol ein hoes, a dyma pam rydyn ni’n cynyddu ein darpariaeth yn y maes hanfodol hwn ar hyn o bryd.”
Cyn iddo gael ei benodi’n Gomisiynydd yr UE, Virginijus oedd Gweinidog Economi ac Arloesedd Lithwania.
Cyn hyn bu’n Gadeirydd Pwyllgor yr Economi i Senedd Gweriniaeth Lithwania, Aelod Seneddol yn Lithwania, a Dirprwy Arweinydd Undeb Ffermwyr a Gwyrddion Lithwania.
Ar ôl graddio o Aberystwyth astudiodd Virginijus ar gyfer gradd MA ym Mhrifysgol Maastricht cyn gweithio yn Washington DC yn y Ganolfan Dadansoddi Polisi Ewropeaidd.
Dychwelodd i Brifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2017 i draddodi darlith fel gwestai yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Sefydliad Coffa David Davies.
Virginijus yw’r ail gynfyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth i gael swydd fel Comisiynydd yr UE â chyfrifoldeb am gefnforoedd a physgodfeydd.
Bu Joe Borg, a raddiodd yn y Gyfraith o Aberystwyth, yn Gomisiynydd yr UE dros Faterion Morol a Physgodfeydd rhwng 2004 a 2010.