Yr Hen Goleg yn serennu ar y sgrin fach

Mark Lewis Jones fu'n portreadu Dr Teddy Millward, gafodd y cyfrifoldeb o ddysgu Cymraeg i'r Tywysog Charles yn ystod ei arhosiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1969. Llun: Netflix.

Mark Lewis Jones fu'n portreadu Dr Teddy Millward, gafodd y cyfrifoldeb o ddysgu Cymraeg i'r Tywysog Charles yn ystod ei arhosiad ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1969. Llun: Netflix.

29 Tachwedd 2019

Yr Hen Goleg yn serennu ar y sgrin fach

Yr Hen Goleg Aberystwyth yw un o sêr cyfres boblogaidd Netflix, The Crown.

Rhyddhawyd y drydedd gyfres hirddisgwyliedig ddydd Sul 17 Tachwedd 2019 ac mae cyfnod Tywysog Cymru fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael lle amlwg iawn ynddi.

Mae’r Hen Goleg, yn ogystal â Neuadd Pantycelyn, yn ddau o leoliadau’r chweched bennod sy’n adrodd hanes y Tywysog Charles fel myfyriwr yn Aberystwyth yng ngwanwyn 1969, a’i arwisgiad fel Tywysog Cymru yng Nghaernarfon.

Un myfyriwr presennol a fu’n gwylio’r gyfres newydd yn llawn diddordeb yw Ben Lee.

Fel myfyriwr trydedd blwyddyn yn astudio gradd BA Anrhydedd mewn Creu Ffilm yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, roedd Ben yn un o nifer o fyfyrwyr gafodd gyfle i weithio ar y set yn ystod ffilmio yn Aberystwyth.

“Roeddwn i mor ffodus o’r cyfle i gael rhywfaint o brofiad gwaith gydag adran gamera’r gyfres pan roedden nhw’n ffilmio yma,” meddai Ben. “Fe ddysgais i gymaint ac rwy wedi gallu defnyddio hynny ar gyfer fy aseiniadau prifysgol.

“Roedd cael cyfres mor enwog a chydnabyddedig yn dod i’r dref i ffilmio ac ailfyw cyfnod pwysig yn hanes Cymru yn gyffrous iawn i bawb a fu’n cymryd rhan.

“A nawr bod y gyfres ar y sgrin gallwn ni ailfyw’r holl brofiad eto a bydd Aberystwyth ac yn benodol yr Hen Goleg i’w gweld ar lwyfan y byd.”

Mae’r Hen Goleg yn un o dirnodau enwocaf Cymru, ac ar hyn o bryd mae’n mynd trwy gyfnod tyngedfennol yn ei hanes pwysig gyda thrawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd fydd yn gwarchod yr adeilad poblogaidd ar gyfer y dyfodol.

Ers 2014 cafwyd gweledigaeth newydd ar gyfer yr Hen Goleg, a groesawodd ei fyfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872, ac mae cynlluniau wedi eu datblygu i’w drawsnewid i mewn i ganolfan fydd yn denu cynulleidfaoedd amrywiol i fwynhau rhaglen eang o weithgareddau.

Mae Bywyd Newydd i’r Hen Goleg yn un o’r prosiectau addysgiadol, treftadaeth, diwylliannol a chymunedol mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ac mae’n llwyr ddibynnol ar gyllid allanol fel yr eglura Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni:

“Mae ein hapêl wedi dechrau’n wych ac rydyn ni wedi codi dros £1 miliwn hyd yn hyn. Mae tipyn o ffordd i fynd er mwyn cyrraedd y nod o £3 miliwn erbyn 2023 a byddwn ni’n parhau i wahodd pawb i ymuno â ni wrth sicrhau dyfodol yr Hen Goleg a’n huchelgais i drawsnewid yr adeilad eiconig ac annwyl hwn i fod yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, diwylliant a mentergarwch a fydd yn gatalydd enfawr i ddatblygiad ein Prifysgol a’n tref.

“Beth bynnag fo eich cysylltiad â’r Brifysgol ac Aberystwyth, gofynnwn yn garedig i chi ymuno â ni i gefnogi Apêl yr Hen Coleg heddiw.”

Y nod yw ailagor yr Hen Goleg ym mlwyddyn academaidd 2022-23, pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed.