Gwobr £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus
Staff a myfyrwyr yn ystod lansiad cystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio 2020
28 Tachwedd 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio ei chystadleuaeth menter i fyfyrwyr ar gyfer 2020, gyda gwobr o £10,000 i’r ymgeisydd buddugol.
Mae’r Wobr CaisDyfeisio (InvEnterPrize) yn gyfle i fyfyrwyr mentergar Aber lunio a chyflwyno eu syniadau am fusnes neu fenter gymdeithasol i banel o gyn-fyfyrwyr amlwg Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y cais llwyddiannus yn cael buddsoddi'r enillion mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r syniad am ddyfais neu fusnes newydd.
Yn ogystal â gwobr o £10,000 i’r enillydd, bydd dwy wobr ychwanegol mewn sectorau penodol eleni.
Gall y cynnig gorau yn sectorau'r bio-wyddorau, y gwyddorau bywyd ac amaeth ennill yr hawl i ddefnyddio swyddfa ar GampwsArloesi a Menter Aberystwyth am ddim am flwyddyn, ac mae gwobr o £3,000, sef CymrodoriaethPeirianyddion mewn Busnes ar gael i’r cynnig gorau o blith myfyrwyr Cyfrifiadureg, Mathemateg neu Ffiseg.
Lansiwyd Gwobr CaisDyfeisio 2020, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn, ddydd Llun 18 Tachwedd 2019.
Mae gan yr ymgeiswyr ddeuddeg wythnos i lunio eu cynigion. Gwahoddir y rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer o blith yr ymgeiswyr i gyflwyno’u cynigion busnes gerbron panel o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus Aber ar ffurf Dragon’s Den ar 27 Mawrth 2020.
Yn dilyn lansiad swyddogol cystadleuaeth 2020, dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: “Roedd hi’n bleser bod yn bresennol wrth i’r gystadleuaeth menter busnes i fyfyrwyr, Gwobr CaisDyfeisio, gael ei lansio am y chweched flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chwrdd â rhai o’r myfyrwyr mentrus sy’n gobeithio ennill gwobr o £10,000.
“Mae cyflogadwyedd wrth wraidd profiad y myfyrwyr yma yn Aberystwyth. Trwy gydol eu hamser gyda ni, cynigiwn gyfleoedd i fyfyrwyr baratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio a meithrin y sgiliau fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol. Mae Gwobr CaisDyfeisio yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu cynnig busnes, ac ar yr un pryd byddant yn cael cyngor arbenigol gwerthfawr ar hyd y daith, gan ddod i'r gweithdai a'r cyflwyniadau ar gychwyn busnes sydd yn cael eu harwain gan Rwydwaith AberPreneur, cyn i’w cynnig gael ei gloriannu’n feirniadol gan bobl fusnes lwyddiannus.”
Ymhlith enillwyr blaenorol Gwobr CaisDyfeisio y mae’r gwasanaeth dysgu ieithoedd ar-lein, Papora (2013), y cerbyd dosbarthu di-yrrwr, Car-Go (2017), a’r ap symudol gwallt a harddwch, Clipr, yn 2018.
Yr enillydd diweddaraf yw Amigrow, sy’n defnyddio technoleg lloeren a dysgu peirianyddol i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau.
Noddir Gwobr CaisDyfeisio drwy gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber, ac mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Louise Jagger: “Gall ennill Gwobr CaisDyfeisio roi hwb sylweddol i rywun sydd â syniad gwych y mae angen cymorth ac arweiniad ariannol er mwyn ei wireddu. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r cyn-fyfyrwyr sy’n parhau i gyfrannu mor hael tuag at Gronfa Aber sy’n cyllido’r wobr ariannol, ac i’r cyn-fyfyrwyr a chefnogwyr sydd yn rhoi o’u hamser i fod ar y panel beirniadu.”
Mae Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Menter Busnes y Brifysgol, yn egluro: “Mae Gwobr CaisDyfeisio yn dal i fod ymhlith y cystadlaethau menter mwyaf i fyfyrwyr yn y DU, ac mae lansiad y gystadleuaeth eleni yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr mentergar y Brifysgol. Edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr fydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth i’n digwyddiadau AberPreneur yn ystod yr wythnosau nesaf, er mwyn iddynt allu dysgu ychydig am ymchwil i'r farchnad, marchnata a brandio, a chynllunio a rheolaeth ariannol, sydd yn sgiliau hanfodol ar gyfer cychwyn busnes newydd.”
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgarwch menter busnes ymhlith ei myfyrwyr (ar draws pob rhaglen gradd), ei graddedigion a'i staff.
Y dyddiad cau ar gyfer Gwobr CaisDyfeisio yw dydd Llun 3 Chwefror 2020. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefanAberPreneurs.