Darlith Gyhoeddus: Y GIG ac Iechyd Byd-eang

Yr Athro Colin McInnes

Yr Athro Colin McInnes

19 Tachwedd 2019

Gallu afiechydon i ledu’n gyflym ar draws ffiniau a chyfandiroedd mewn oes fyd-eang, a’r her i’r syniad o wasanaeth iechyd ‘cenedlaethol yn sgil hynny, fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mercher, 27 Tachwedd.

Trefnir y ddarlith gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Traddodir y ddarlith, ‘Beyond the NHS: Is Health Really ‘Global’?’ gan arbenigwr ar bolisi iechyd byd-eang, yr Athro Colin McInnes.

Bu’r Athro McInnes yn Athro UNESCO HIV/AIDS yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol tan 2018, ac fe’i penodwyd yn ddiweddar yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi’r Brifysgol.

Mae’r ddarlith yn rhan o gyfraniad y Gymdeithas Ddysgedig at ddathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed a Chyfres Siaradwyr Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Dywedodd yr Athro Milja Kurki, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Dyma gyfle ardderchog i ystyried y cwestiynau hanfodol am ddarparu gofal iechyd. Mae’r Athro McInnes yn ymchwilydd blaenllaw ledled y byd ar bolisi iechyd byd-eang sydd wedi cydweithio â llywodraethau’r DU a Chymru, yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd, ac mewn sefyllfa unigryw i wynebu’r heriau o ystyried iechyd yn fyd-eang. Yn ei ddarlith, ystyrir pynciau llosg megis i ba raddau nad yw iechyd bellach yn fater cenedlaethol ond yn broblem sy’n hawlio atebion byd-eang; dyma bryder a fu’n amlwg iawn mewn dadleuon llunio polisi cyhoeddus.”

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru, gan ddedhrau am 6yh ddydd Mercher, 27 Tachwedd. Mynediad yn rhad ac am ddim a chroeso i bawb.

Yr Athro Colin McInnes

Yn arbenigwr rhyngwladol ar iechyd a diogelwch byd-eang, mae gan yr Athro Colin McInnes gadair bersonol yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ef hefyd yw Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi’r Brifysgol.

Ers 2014, bu’n Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Chomisiwn Cenedlaethol y DU (yr UKNC) ar gyfer UNESCO, gyda chyfrifoldeb arbennig am y Gwyddorau Cymdeithasol a Dynol. Fe’i hetholwyd yn Gadeirydd yr UKNC yn 2019 ac mae’n gweithio’n agos gyda llywodraeth Prydain a swyddogion ym mhencadlys UNESCO ym Mharis.

Yr Athro McInnes oedd yr Athro UNESCO mewn HIV/AIDS rhwng 2007 a 2018 ac yn 2017, derbyniodd y Wobr am Gyfraniad Arbennig yng ngwobrau cyntaf Ymchwil Gymdeithasol Cymru oherwydd ei ‘gyfraniad ymchwil personol, rhagorol’.

Mae'n Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.