Digwyddiad yn dathlu arfer dda ac arloesi wrth hybu’r iaith Gymraeg
Hen Goleg, Aberystwyth
12 Tachwedd 2019
Trin, trafod a dathlu ymdrechion hybu’r Gymraeg a chynllunio iaith mewn cyd-destun rhyngwladol fydd canolbwynt y sylw mewn digwyddiad ddeuddydd gaiff ei gynnal yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ddiwedd y mis (28, 29 Tachwedd).
Mae 2019 wedi ei dynodi yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO a bydd Gŵyl Ein Llais yn y Byd yn rhan o arlwy gweithgareddau Llywodraeth Cymru i nodi’r flwyddyn.
Eluned Morgan AC, Geinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol sydd wedi galw am y digwyddiad ac a fydd yn ei agor. Mae rhaglen amrywiol wedi ei threfnu gyda chyfraniadau gan gyrff hybu iaith amlwg, megis y Ganolfan Dysgu Cymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mudiad Meithrin a Mentrau Iaith Cymru.
Bydd sawl unigolyn yn cymryd rhan megis yr arbenigwyr dysgu iaith Aran Jones a Helen Prosser, y darlledwyr Betsan Powys a Guto Harri, y llenorion Alys Conran ac Eurig Salisbury a Chomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts.
Bydd y prosiect ‘Mamiaith’, dan ofal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cael ei lwyfannu am y tro cyntaf mewn modd i sbarduno trafodaeth fyw am y profiad o roi llais eang i ieithoedd llai.
Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Llywodraeth Cymru, fydd yn cyflwyno araith agoriadol y gynhadledd: “Mae cynnwys y gynhadledd hon yn adlewyrchu cryfder yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd a’r amryw gyfleoedd sydd yno i’w defnyddio. Ond mae angen i ni sicrhau nad ydym yn rhy fewnblyg ac i ni weld y cyfleoedd sydd yno i’r iaith ddatblygu a ffynnu mewn cyd-destun rhyngwladol.
“Mae’n targed ni o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn crisialu ein hyder yng ngallu’r Gymraeg i fod yn iaith gref a hyfyw a gall trafodaethau’r gynhadledd hon a’r hyn ddaw ohoni wneud cyfraniad sylweddol i’r modd yr awn ati i gyrraedd at y targed hwnnw.”
Yn ôl Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth bydd y gynhadledd yn cynnig llwyfan i ystyried yr iaith Gymraeg mewn cyd-destun ehangach:
“Mae cynllunio iaith llwyddiannus yn golygu sylw i sawl maes gwahanol. Mae rhaglen amrywiol a chyfoethog ’Ein Llais yn y Byd’ yn adlewyrchu’r cyfoeth o weithgaredd hwnnw sy’n anhepgor os ydym am gyrraedd y nod o gynyddu nifer y siaradwyr ac o gynyddu defnydd o’r iaith o ddydd i ddydd.”
Ymysyg y sesiynau a drefnir fydd un gan Y Selar yn bwrw golwg yn ôl ac ymlaen ar y sin gerddoriaeth gyfoes Gymraeg, Mentrau Iaith Cymru yn ystyried y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned a Hacio’r Iaith yn edrych ar yr heriau sydd yn wynebu’r iaith ym maes datblygiadau technolegol fel seinyddion clyfar.
Ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, y prif bartneriaid yw Llywodraeth Cymru, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Cynhelir y gynhadledd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar yr 28ain ar 29ain o Dachwedd gyda mynediad am ddim ond mae angen cofrestru o flaen llaw drwy fynd i https://www.aber.ac.uk/cy/gwyl-ein-llais-yn-y-byd/.