Estyn cefnogaeth gyfreithiol i gyn-filwyr
Cafodd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr ei sefydlu yn 2015 gan Dr Olaoluwa Olusanya (dde) o Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth.
08 Tachwedd 2019
Mae prosiect ymchwil cyfreithiol unigryw ledled Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anelu at estyn cymorth i 1,000 o gyn-filwyr a'u teuluoedd.
Sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr (CCC) yn 2015 i ddarparu cyngor cyfreithiol, arweiniad a gwaith achos yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â'u cyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-filwyr a sifiliaid fel ei gilydd.
Mae bron i 500 o gyn-filwyr a’u teuluoedd eisoes wedi elwa o’r prosiect a’r nod yw mynd heibio’r nod o 1,000 erbyn Gorffennaf 2020.
Yn wreiddiol, roedd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar gefnogi cyn-filwyr yng Ngheredigion ond mae bellach wedi ehangu i gwmpasu Cymru gyfan.
Caiff y prosiect ei arwain gan Dr Olaoluwa Olusanya, Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.
“Sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr o ganlyniad i'm gwaith ymchwil cynharach, oedd yn edrych ar y cysylltiad rhwng ffactorau seicogymdeithasol a throseddau milwrol, ar iechyd meddwl a lles, ac ar nifer y cyn-filwyr a ddaeth i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol wrth iddynt ailgynefino â bywyd sifil. Roedd Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn aml yn ffactor, ynghyd â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau,” meddai Dr Olusanya.
“Daeth yn amlwg i mi fod gan gyn-filwyr sy’n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol anghenion iechyd a lles a phatrymau ymddygiad troseddol gwahanol. Penderfynais fynd i’r afael â’r anghenion hyn trwy drosi fy ymchwil yn ymyrraeth seicogymdeithasol anfeddygol a all ddileu neu leihau’r ffactorau risg o ran ymddygiad troseddol a phroblemau iechyd meddwl. Sefydlais y prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, gan weithio'n agos gyda phartneriaid fel y Lleng Brydeinig Brenhinol, GIG Cyn-filwyr Cymru, Change Step a grwpiau Cyfamod y Lluoedd Arfog.
“Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yw’r unig siop-un-stop o’i bath yn y DU, yn cynnig nid yn unig cyngor cyfreithiol am ddim i gyn-filwyr ond hefyd yn cyfeirio cleientiaid at ystod o asiantaethau cymorth eraill. Mae mwyafrif yr achosion yn ymwneud â materion cyfraith teulu, materion dyled ac arian, achosion troseddol a materion cyflogaeth.
“Wrth inni agosáu at Sul y Cofio, mae’n amserol cofio anghenion unigryw cyn-filwyr. Mae'r mwyafrif ohonom yn ffodus na fu’n rhaid i ni brofi gwrthdaro milwrol a'r effaith y gall hynny ei gael ar iechyd meddwl a chorfforol unigolyn. Gall agweddau eraill ar fod yn y fyddin hefyd gael effaith bellgyrhaeddol - er enghraifft, bod ar daith ac i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau am amser hir.
“Mae'r gwasanaeth yn gweithredu yng nghyd-destun lleihau cwmpas cymorth cyfreithiol ers i Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 ddod i rym, yn arbennig felly ym meysydd cyfraith teulu a chyfraith lles. Nod y prosiect oedd cau’r bwlch yn y ddarpariaeth ers y toriadau mewn cymorth cyfreithiol a hynny trwy ddefnyddio dulliau newydd o ddod â chyngor ac arweiniad i unigolion, waeth beth fo’u lleoliad neu eu sefyllfa ariannol.”
Yn 2019, fe dderbyniodd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr grant o £45,800 gan y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Dywedodd Antony Metcalfe, Rheolwr Cymru ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol:
“Dyfarnodd cynllun grantiau allanol y Lleng Brydeinig Frenhinol grant i Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr i alluogi'r prosiect hanfodol a mawr ei angen hwn i weithredu allan o Brifysgol Aberystwyth, ac rydym yn falch iawn o weld ei fod ar y trywydd tuag at helpu 1,000 o gyn-filwyr a'u teuluoedd. Gyda sylw’r wlad ar y Cofio ym mis Tachwedd, mae hefyd yn bwysig tynnu sylw at wasanaethau cymorth fel yr un yma sy'n galluogi llawer o gyn-filwyr i geisio'r gefnogaeth a'r arweiniad maen nhw eu hangen.”
Yn 2016, dyfarnwyd £20,000 i’r prosiect gan Gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn a £5,000 gan Gronfa’r Loteri Fawr, Gwobrau i Bawb Cymru.
Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr bellach yn gweithio gyda mwy nag 20 o sefydliadau partner ac mae yn y broses o ddatblygu cynlluniau ar gyfer platform arlein pwrpasol, a fyddai'n agor y gwasanaeth i gyn-filwyr ledled y DU.