Prifysgol Aberystwyth i groesawu Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli
07 Tachwedd 2019
Bydd Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth yn 2020, wrth i bum awdur oedolion ifanc arobryn weithio gyda phobl ifanc ar draws Cymru.
Cynhelir Taith y Sgriblwyr rhwng 3 a 7 Chwefror ac 10 a 14 Chwefror, a’i nod yw ymgysylltu â’r genhedlaeth newydd a’i hannog i adrodd straeon a sgwrsio, gan ysgogi empathi a chreadigrwydd.
Bellach yn ei nawfed flwyddyn, mae’r daith yn gyfle i ddisgyblion o ganolbarth Cymru ymweld â Phrifysgol Aberystwyth a chael blas ar fywyd ar y campws.
Bydd y sesiynau ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8, a gyflwynir gan seren y genre oedolion ifanc Jenny Valentine, yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol gydag awdur y gyfres boblogaidd The Shapeshifter, Ali Sparkes a’r bardd Cymreig Aneirin Karadog, tra bydd y sesiynau ar gyfer Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10 yn cynnwys yr awduron Brian Conaghan a Patrice Lawrence.
Bydd pob awdur yn mynd â’r disgyblion ar daith greadigol i gynhyrchu eu gwaith ysgrifennu dynamig a dyfeisgar eu hunain, boed hynny’n ddeialog, datblygu cymeriad neu’r mesur Cymraeg traddodiadol, y Gynghanedd.
Dywedodd Aine Venables, rheolwr addysg Gŵyl y Gelli: “Bob mis Mai yn y Gelli Gandryll, mae miloedd o bobl ifanc yn ymuno â ni i gyfarfod â’u hoff awduron, a nawr rydym ni’n dod â Gŵyl y Gelli iddyn nhw. Yn ystod y diwrnodau gŵyl rhad ac am ddim hyn, byddwn yn mynd â nhw ar daith greadigol i rannu straeon, datblygu deialog a dathlu pŵer ysgrifennu a darllen er pleser. Rydym ni eisiau cychwyn sgyrsiau gyda phobl ifanc, clywed eu lleisiau ac ysbrydoli eu hunaniaeth greadigol.”
Caiff Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o waith allgymorth ac addysg ehangach Sefydliad Gŵyl y Gelli sy’n cynnwys y Rhaglen Ysgolion rad ac am ddim, Academi’r Gelli, Cwmpawd Gŵyl y Gelli, Prosiect y Bannau, Cyfnewid Ysgolion, a’r gyfres Hay Levels o fideos addysgol rhad ac am ddim.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae Taith y Sgriblwyr yn crisialu creadigrwydd Gŵyl y Gelli gan ei ddefnyddio i ysbrydoli dysgwyr o bob cwr o Gymru. Rwy’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru unwaith eto yn cefnogi’r prosiect gwych hwn sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu am lenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol gan awduron ac arbenigwyr. Mae profiadau unigryw fel y rhain yn rhan gyffrous o’r profiad o ddysgu. Maen nhw hefyd yn cefnogi’r cwricwlwm newydd sydd â chreadigrwydd yn ganolog iddo.”
Bydd pedair prifysgol arall yng Nghymru yn cynnig profiadau cyffelyb; Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.hayfestival.org/scribblers/the-scribblers-tour.aspx.
Ynglŷn â’r siaradwyr
Ganwyd a magwydBrian Conaghan yn nhref Coatbridge yn yr Alban, ond mae’n byw yn Nulyn bellach. Mae ganddo radd Meistr Llythrennau mewn Ysgrifennu Creadigol gan Brifysgol Glasgow. Gweithiodd Brian fel athro am flynyddoedd lawer ac addysgodd yn yr Alban, yr Eidal ac Iwerddon. Cyrhaeddodd ei nofel oedolion ifanc gyntaf ar gyfer Bloomsbury, When Mr Dog Bites, y rhestr fer ar gyfer Medal Carnegie 2015, ac enillodd ei ail, The Bombs That Brought Us Together, Wobr Llyfr Plant Costa 2016. Enillodd We Come Apart, sy’n nofel fydryddol a gyd-awdurwyd gydag enillydd Medal Carnegie, sef Sarah Crossan, Wobr Llyfr UKLA 2018, ac enillodd ei bedwaredd nofel, The Weight of a Thousand Feathers, Wobr Llyfr Iwerddon 2018 am Lyfr Glasoed ac Oedolion Ifanc y Flwyddyn.
Mae Aneirin Karadog yn fardd, darlledwr, perfformiwr ac ieithydd. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy yn 2016. Bu’n gyflwynydd ar Heno ar S4C ac roedd yn Fardd Plant Cymru. Roedd yn rapiwr ac yn aelod o’r bandiau Genod Droog a Diwygiad. Fe’i magwyd ym Mhontypridd ond mae bellach yn byw ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth gyda’i wraig Laura a’u plant Sisial ac Erwan. https://twitter.com/neikaradog
Mae Patrice Lawrence yn awdur arobryn ac enillodd ei nofel gyntaf, Orangeboy, Wobr Oedolion Ifanc The Bookseller a Gwobr Waterstones am Ffuglen Plant Hŷn. Roedd ei hail lyfr, Indigo Donut, yn Llyfr yr Wythnos yn The Times, The Sunday Times a’rObserver, ac enwebwyd y ddau lyfr am Wobr Carnegie. Cyhoeddwyd ei diweddaraf, Rose, Interrupted, ym mis Gorffennaf 2019. Mae Lawrence yn byw yn Nwyrain Llundain bellach gyda’i merch, ei phartner a Stormageddon, y gath frech.
Mae Ali Sparkes yn newyddiadurwr, darlledwr y BBC ac awdur nofelau ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys ei chyfres boblogaidd The Shapeshifter. Enillodd ei nofel annibynnol gyntaf, Frozen in Time, Wobr Llyfr y Flwyddyn Blue Peter yn 2010, a chyrhaeddodd ei hantur ddilynol i blant, Wishful Thinking, y rhestr hir ar gyfer Gwobr Carnegie. Cyrhaeddodd Unleashed: A Life & Death Job y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Plant Gogledd Iwerddon a Gwobr Llyfr Plant Gorllewin Virginia. Mae hi’n byw gyda’i gŵr a’i dau fab yn Southampton. www.alisparkes.com
Mae Jenny Valentine yn nofelydd oedolion ifanc arobryn o’r Gelli. Enillodd ei nofel gyntaf, Finding Violet Park, Wobr Ffuglen Plant fawreddog y Guardian. Mae ei llyfrau eraill yn cynnwys The Ant Colony, The Double Life of Cassiel Roadnight, a’r gyfres Iggy & Me. Hi oedd Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2017-18.