Defnyddwyr yn helpu i lunio dyfodol cig eidion Cymru

Ymunodd tîm project BeefQ â myfyrwyr arlwyo ar gampws Coleg Llysfasi, Coleg Cambria ar 3 Hydref i weinu Cig Eidion Cymreig i wirfoddolwyr profwyr blas.

Ymunodd tîm project BeefQ â myfyrwyr arlwyo ar gampws Coleg Llysfasi, Coleg Cambria ar 3 Hydref i weinu Cig Eidion Cymreig i wirfoddolwyr profwyr blas.

07 Tachwedd 2019

Y mis hwn, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i flasu cig a rhoi eu barn amdano er mwyn helpu ffermwyr Cymru i wneud yn siŵr eu bod yn cynhyrchu cig eidion o’r safon uchaf drwy’r amser.

Yn ystod yr hydref a’r gaeaf hwn, mae 1200 aelod o’r cyhoedd yn cael eu recriwtio i helpu gyda’r prosiect ‘BeefQ’, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad ag amryw o bartneriaid o’r diwydiant amaethyddol.

Cefnogir y rhaglen gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd dau o bartneriaid allweddol BeefQ yn cynnal sesiynau blasu rhwng 14 a 19 Tachwedd, pan fydd aelodau’r cyhoedd yn rhoi marciau i ddarnau gwahanol o gig eidion ar sail blas a breuder y cig.

Maes Sioe Frenhinol Cymru fydd lleoliad sesiwn blasu Hybu Cig Cymru (HCC) ar 14 Tachwedd.

Yna cynhelir sesiynau blasu ar 18 a 19 Tachwedd ym mwyty TaMed Da ar gampws Prifysgol Aberystwyth ym Mhenglais.

Nod y prosiect yw helpu ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru i gynhyrchu cig eidion a fydd yn ateb gofynion defnyddwyr yn y dyfodol. Bydd BeefQ yn creu  sylfaen ar gyfer system yng Nghymru i asesu a gwella ansawdd-bwyta Cig Eidion Cymru PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig), a gwella enillion ffermwyr.

Hyd yn hyn, cafodd dros 2000 o garcasau cig eidion gan broseswyr yng Nghymru eu graddio trwy ddefnyddio’r modelau sydd gan Meat Standards Australia i ragweld y math o gig y bydd pobl yn ei fwyta yn y dyfodol. Mae darnau gwahanol o gig o’r carcasau hyn yn cael eu blasu gan gannoedd o bobl mewn digwyddiadau ledled Cymru er mwyn helpu i ddatblygu  glasbrint gwyddonol ar gyfer cig eidion sydd â blas nodedig.

“Mae’r sesiynau blasu hyn yn rhan hanfodol o brosiect BeefQ,” meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC. “Hyd yn hyn, mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar sut y gallwn ni yng Nghymru ddefnyddio’r systemau graddio blaengar sy'n cael eu defnyddio dramor. Ond mae angen cyfraniad gan bobl sy'n mwynhau bwyta Cig Eidion Cymru PGI er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ymchwil yn rhoi ystyriaeth i chwaeth pobl yn y DG, ac yn rhoi'r profiad bwyta gorau y maen nhw’n dymuno ei gael.”

Dywedodd Dr Pip Nicholas-Davies, Cydlynydd Prosiect BeefQ ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Y defnyddwyr sy’n hybu gwerth ar hyd y gadwyn gyflenwi cig eidion.  Mae eu parodrwydd i dalu’r pris a ofynnir yn dibynnu ar gysondeb ansawdd-bwyta’r cig sy’n cael ei brynu ganddyn nhw, ac a yw’r cig yn werth yr arian. Felly, mae’n gwneud synnwyr ein bod ni'n rhoi cyfle i ddefnyddwyr asesu ansawdd-bwyta cig.”

Ychwanegodd: “Mae'r sesiynau blasu ledled Cymru yn cael eu cynnal gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a cholegau Addysg Bellach fel y gallan nhw weld sut mae system ansawdd-bwyta yn cael ei datblygu a deall pa mor bwysig yw boddhad defnyddwyr ar gyfer datblygu diwydiant cig eidion cynaliadwy sydd â gwerth uchel.  Mae cynnwys y myfyrwyr hyn, sydd ar gyrsiau arlwyo ac amaethyddiaeth, yn elfen bwysig o’r prosiect oherwydd bydd y sectorau arlwyo a ffermio yn dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol.”

Mae manylion am ddigwyddiadau blasu BeefQ sydd ar ddod, a sut i gofrestru ar gyfer un yn eich ardal chi, ar gael ar wefan Prosiect BeefQ www.beefq.wales