Nawdd gan y Loteri Genedlaethol i astudiaeth am ffoaduriaid yr Ail Ryfel Byd yng Nghymru
Chwith i'r dde: James Bulgin, arweinydd cynnwys Orielau Holocost yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, Barbara Winton, merch y cynorthwyydd Kindertransport Syr Nicholas Winton, Dr Andrea Hammel a'r Arglwydd Alf Dubs yn Amgueddfa Filwrol Ymerodrol Llundain, ym mis Mawrth 2018.
06 Tachwedd 2019
Mae prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ennill cyfran o grant £2m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i astudio profiadau ffoaduriaid a ddaeth i Gymru wrth ddianc oddi wrth y Natsïaid, a'r cymunedau lleol a'u croesawodd.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (RY); menter gyhoeddus ar y cyd rhwng yr Amgueddfa RY ac wyth o bartneriaid o bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol (DG).
Nod y rhaglen yw ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd mewn prosiectau sy'n ymchwilio i gasgliadau a themâu lleol am yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost yn y DG.
Arweinir cyfraniad Prifysgol Aberystwyth i’r rhaglen gan Dr Andrea Hammel, Darllenydd mewn Almaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern sy'n arbenigo mewn ymchwil am ffoaduriaid y 1930au ac 1940au, ac yn enwedig y Kindertransport.
Meddai Dr Hammel: “Mae'n gyffrous bod yn rhan o'r bartneriaeth hon a fydd yn cefnogi ac yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth ledled y DG. Credaf ei bod yn bwysig dangos cymhlethdod hanes yr Ail Ryfel Byd. Yn aml mae ymchwil am gymunedau yng Nghymru yn yr Ail Ryfel Byd wedi canolbwyntio ar yr ymladdwyr, ond mae ffoaduriaid a'r rhai a fu'n eu cynorthwyo yn elfen bwysig sydd wedi’i hanwybyddu.”
Bydd yr wyth partner yn datgelu a rhannu straeon trwy ymchwilio a chynnal gweithgareddau cyhoeddus, yn ogystal â chyflogi unigolyn ar Interniaeth Digidol blwyddyn. Bydd canlyniadau'r gwaith yn cael eu dangos mewn arddangosfa yn yr Amgueddfa RY yn Llundain, ar-lein, ac mewn lleoliadau ar hyd a lled y DG trwy gyfrwng profiad digidol teithiol.
Yn ogystal â chynorthwyo rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost, bydd y grant £2,079,200 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn cyfrannu at Orielau newydd yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost ac Ystafell Ddysgu ddigidol newydd sbon yr Amgueddfa RY yn Llundain, i'w hagor yn 2021.
Meddai Stuart Hobley, Cyfarwyddwr Llundain a De Lloegr, Cronfa Treftadaeth y Loteri: “Bydd yr orielau newydd yn sicrhau bod lleisiau, straeon a gwaddol un o gyfnodau mwyaf diffiniol hanes yn cael eu rhannu a'u cofio am genedlaethau i ddod. Mae'r Loteri Genedlaethol yn dathlu 25 mlynedd eleni, ac yn y cyfnod hwnnw codwyd £7.9 biliwn ar gyfer prosiectau treftadaeth yn y DG. Mae persbectif cymunedau yn rhan hanfodol o'r dreftadaeth honno a bydd rhaglen bartneriaeth a digidol yr Amgueddfa galluogi pobl o bob rhan o'r DG i fyfyrio ar straeon pwysig yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost.”
Meddai Diane Lees, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa RY: “Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r addewid hael hwn gan Gronfa'r Loteri, a fydd yn cynorthwyo'r Amgueddfa i ddyfnhau dealltwriaeth y cyhoedd am achosion, cwrs a chanlyniadau'r Ail Ryfel Byd a'r Holocost. Bydd ein horielau newydd yn unigryw yn eu cyflwyniad o naratif cymhleth yr Holocost yng nghyd-destun yr Ail Ryfel Byd, ac fe fydd yn creu naratif diddorol a hygyrch o straeon pobl go iawn mewn cymunedau amrywiol. Trwy gyfrwng Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost, byddwn yn rhannu amrywiaeth y profiadau hyn, ac ailgysylltu cynulleidfaoedd ledled y DG â gwaddol oesol y rhyfel a'i berthnasedd heddiw.”
Y partneriaid eraill yn rhaglen Partneriaeth yr Ail Ryfel Byd a'r Holocost yw: Amgueddfa Gatrodol Cernyw ac Amgueddfa Bywyd Cernyw; Arddangosfa a Chanolfan Ddysgu'r Holocost, Cymdeithas Cyfeillion Goroeswyr yr Holocost; Canolfan Genedlaethol yr Holocost; Amgueddfa Iddewig Manceinion; Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon; Archifau ac Amgueddfeydd Tyne and Wear; Amgueddfa'r Highlanders, a Fort George. Prifysgol Aberystwyth yw'r unig bartner yng Nghymru.
Mae Dr Hammel yn aelod o bwyllgor Canolfan Ymchwil Astudiaethau Alltud yr Almaen ac Awstria, Sefydliad Ymchwil Ieithoedd Modern, Prifysgol Llundain; yn aelod o Fwrdd Golygyddol eu Blwyddlyfr (Rodopi); ac yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Astudiaethau Alltud yn yr Almaen. Yn ddiweddar bu'n ymwneud ag Arddangosfa Awyr Agored ynglŷn â'r Kindertransport 1938/9 ym Merlin.