Lleoliadau ac Iechyd Meddwl
06 Tachwedd 2019
Beth sy'n gwneud lleoliad iach? Ble rydyn ni'n teimlo ar ein gorau? Sut mae ein hamgylchedd yn dylanwadu ar y ffyrdd rydyn ni'n byw, meddwl a theimlo?
Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod yn ystod 'Lleoliadau ac Iechyd Meddwl', digwyddiad a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn yr Hen Goleg, ddydd Sadwrn 9 Tachwedd.
Yn y digwyddiad bydd siaradwyr o adrannau academaidd amrywiol yn bwrw goleuni ar dirweddau newidiol iechyd meddwl, gan rannu dirnadaethau o ymchwil ynglŷn â phedwar lleoliad sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles: yr ysbyty meddwl, y tŷ argyfwng, y goedwig, a'r cartref.
Bydd y myfyrwyr PhD Alexandra Hird, Eleri Phillips, a Kittie Belltree yn trafod eu hymchwil ynglŷn â lleoliadau ac iechyd meddwl o safbwynt eu disgyblaethau amrywiol, sef gwleidyddiaeth ryngwladol, daearyddiaeth ddynol, ac ysgrifennu creadigol.
A bydd Dr Elizabeth Gagen, Uwch Ddarlithydd o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn trafod heriau cynrychioli bywyd a gwaddol ysbyty meddwl.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan MaDCaff, prosiect Celfyddydau Anabledd Cymru sy'n trefnu caffis dros dro a digwyddiadau meic agored i helpu pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan salwch meddwl i arddangos eu doniau cerddorol a chynorthwyo eraill i wneud yr un peth.
Fel yr esbonia Eleri Phillips, myfyrwraig PhD Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: “Bydd y diwrnod hwn o gyflwyniadau, gweithdai a pherfformiadau yn edrych ar sut y mae iechyd meddwl a lles yn gysylltiedig â'r lleoedd a'r mannau o'n cwmpas. Bydd y digwyddiad yn dod ag ymchwilwyr a pherfformwyr ynghyd i drafod gwahanol fannau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Gwahoddir mynychwyr i gyfrannu at weithgareddau creadigol wrth inni fyfyrio ynghylch themâu lles, sefydliadau, natur, bywyd cartref, ac adferiad gyda'r nod o greu gwaddol barhaol i'r digwyddiad hwn.”
Darperir lluniaeth ar gyfer y digwyddiad gan Bwyd Dros Ben Aber, menter gymdeithasol nid-er-elw, arloesol sy'n ceisio lleihau gwastraff bwyd yn Aberystwyth.
Cynhelir Lleoliadau ac Iechyd Meddwl rhwng 10yb-2yp ddydd Sadwrn 9 Tachwedd 2019 yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Aberystwyth. Croeso i bawb.
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar: spacesofmentalhealth.eventbrite.co.uk
Nod Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yw hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth am y gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil a ariennir gan ESRC, galluogi gwyddonwyr cymdeithasol i ymgysylltu â phobl nad ydynt yn academyddion a chynyddu ymwybyddiaeth am y cyfraniadau y mae'r gwyddorau cymdeithasol yn eu gwneud i les ac economi cymdeithas y Deyrnas Unedig.