Darlith Pantycelyn: ‘Heriwr anhepgor, Alwyn D. Rees (1911-1974): Brwydrau iaith a Phrifysgol hanner canrif yn ôl’
Yr Athro M Wynn Thomas
31 Hydref 2019
Yr academydd a’r ymgyrchydd iaith Alwyn D Rees fydd canolbwynt sylw Darlith Pantycelyn a gynhelir nos Fercher 6 Tachwedd 2019 yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth.
Yn wreiddiol o Orseinon ger Abertawe ac yn raddedig mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Aberystwyth, bu Alwyn D Rees yn Gyfarwyddwr adran Efrydiau Allanol y Brifysgol ac yn olygydd y cyfnodolyn Barn am flynyddoedd lawer tan ei farwolaeth anhymig ym 1974 yn 63 oed.
Ond ei gyfraniad at y frwydr dros achub Prifysgol Cymru ar ddechrau’r 1960au, ac yna ei gyfraniad amhrisiadwy at sicrhau sefydlu Pantycelyn yn neuadd breswyl Gymraeg fydd yn cael sylw pennaf yr Athro M Wynn Thomas yn ei ddarlith ‘Heriwr anhepgor, Alwyn D. Rees (1911-1974): Brwydrau iaith a Phrifysgol hanner canrif yn ôl’.
Bydd yr Athro Thomas hefyd yn gosod sefydlu Pantycelyn 1974, a’i rhagflaenwyr Neuadd Ceredigion, neuadd Gymraeg i ferched agorwyd ym 1967, a Neuadd Bryn, neuadd Gymraeg i fechgyn agorwyd yn 1968, yng nghyd-destun berw’r ymgyrchu dros y Gymraeg yn y 1960au, ac yn dathlu ei chyfraniad at iaith a diwylliant Cymru.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Gagnhellor Prifysgol Aberystwyth: “Edrychaf ymlaen yn fawr at ddarlith yr Athro M Wynn Thomas, ac at ddysgu am Alwyn D Rees, gŵr a wnaeth gyfraniad pwysig at sefydlu Pantycelyn fel Neuadd Gymraeg yn y lle cyntaf. Mae’n destun cryn falchder i mi fod y gwaith o adnewyddu’r Neuadd bellach yn prysuro, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei gweld yn ail agor ym Medi 2020 ac yn gartref i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr.”
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: “Mae cynnal y ddarlith yn ymgais i gadw’r momentwm yn ystod cyfnod yr adeiladu. Mae’n achlysur dathlu ac mae’n braf gwneud hynny yng nghwmni cynifer o gyfeillion Pantycelyn, gan gynnwys rhai a fu’n flaenllaw yn yr ymgyrch i ailagor y neuadd. Ar yr un pryd mae’n gyfle inni edrych ar y cyd-destun ehangach drwy gydnabod cyfraniad un o fawrion y genedl a’r Brifysgol hon hanner canrif a mwy yn ôl. A chofio mai un o amryfal gymwynasau Alwyn D. Rees oedd ei ymgyrch i sefydlu neuadd breswyl Gymraeg yma yn Aberystwyth.
Mae’r ddarlith yn rhan o gyfres o weithgareddau a fydd yn cael eu trefnu rhwng nawr a Medi 2020 pan fydd Neuadd Pantycelyn yn agor ei drysau o’r newydd wedi buddsoddiad o £16.5m.
Cynhelir Darlith Pantycelyn nos Fercher, 6 Tachwedd 2019, yn neuadd yr Hen Goleg, gyda derbyniad diodydd am 5.30 a’r ddarlith am 6.00.
Tocynnau am ddim ac ar gael ar wefan Tocyn Cymru.
Yr Athro M Wynn Thomas
Athro Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe yw’r Athro M Wynn Thomas a deiliad Cadair Emyr Humphreys mewn Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg.
Mae’n Gymrawd yr Academi Brydeinig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru, cymdeithas y bu’n gyd-sylfaenydd arni, yn Aelod o’r Orsedd ac yn Gymrawd er Anrhydedd y Coleg Cymraeg.
Bu’n darlithio ar draws y byd ac yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Harvard ddwywaith. Mae’n awdur toreithiog ac ennillodd ei gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M Wynn Thomas wobr Ffeithiol Creadigol Llyfr y Flwyddyn 2018.
Pantycelyn 2020
Ym mis Medi 2020 bydd Neuadd Pantycelyn yn agor ar ei newydd wedd ac yn croesawu ei phreswylwyr cyntaf.
Ers ei sefydlu’n neuadd breswyl Gymraeg yn 1974 bu’n gartref i filoedd o fyfyrwyr, yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr, mewn cymuned fywiog a chroesawgar.
Bellach mae Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi £16.5m er mwyn ei thrawsnewid yn llety ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae’r gwaith adeiladu’n prysuro, ac mae’r ystafelloedd cyntaf yn agos at fod wedi eu cwblhau ar lawr uchaf y Neuadd.
Pan fydd yn agor ym mis Medi 2020 bydd yn cynnig llety en-suite o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr mewn Neuadd wedi’i harlwyo, yr unig un o’i bath yng Nghymru.