A yw dynion wir yn fwy doniol na menywod?

Dr Gil Greengross, Seicolegydd Esblygiadol ac arbenigwr ar seicoleg hiwmor.

Dr Gil Greengross, Seicolegydd Esblygiadol ac arbenigwr ar seicoleg hiwmor.

30 Hydref 2019

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Gogledd Carolina wedi bod yn profi’r canfyddiad cyffredin bod dynion yn fwy doniol na menywod.

Mae'r Seicolegydd Esblygiadol Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth a'r Athro Paul Silvia a Dr Emily Nusbaum o Brifysgol Gogledd Carolina Greensboro, wedi cynnal yr adolygiad systematig cyntaf erioed sy'n cymharu gallu dynion a menywod i gynhyrchu hiwmor.

Gwnaethpwyd adolygiad systematig o astudiaethau byd-eang a oedd yn edrych ar wahaniaethau yng ngallu hiwmor dynion a menywod, gan ddefnyddio dadnsoddi-meta i gyfrifo'r gwahaniaeth.

Buont hefyd yn edrych ar esboniadau diwylliannol ac esblygiadol posibl er mwyn egluro'r gwahaniaeth.

Mae eu canfyddiadau, sydd wedi’u gyhoeddi yn y cyfnodolyn Journal of Research in Personality, yn dangos bod gan ddynion ar gyfartaledd allu cynhyrchu hiwmor uwch na menywod.

Dywedodd Dr Greengross: “Mae hiwmor yn ffenomen gymhleth sy’n cynnwys dylanwadau cymdeithasol, emosiynol, ffisiolegol, gwybyddol, diwylliannol ac esblygiadol, a llawer mwy. Un agwedd bwysig yw'r gallu i wneud i eraill chwerthin.

“Mae’r gallu i gynhyrchu hiwmor yn allu gwybyddol unigryw nad oes cysylltiad rhyngddo â gwerthfawrogiad a mwynhad o hiwmor. Wrth edrych ar ba un yw’r rhyw ddoniolaf, rydyn ni’n canolbwyntio ar y gallu i gynhyrchu hiwmor.”

Canolbwyntiodd y tîm ymchwil ar astudiaethau lle cafodd gallu hiwmor dynion a menywod ei werthuso'n wrthrychol. Er enghraifft, astudiaeth lle darparwyd cartŵn a gofynnwyd i ddynion a menywod ysgrifennu pennawd doniol i gyd-fynd ag ef.

Cafodd y capsiynau hyn eu graddio am eu doniolwch gan farnwyr annibynnol, heb iddynt wybod dim am y person a ysgrifennodd y pennawd, gan gynnwys ei ryw.

Yna cyfrifodd yr ymchwilwyr wahaniaethau rhyw ar y sampl gyfun a chanfod bod 63% o ddynion yn sgorio'n uwch na gallu hiwmor cymedrig menywod, gan olygu bod dynion, ar y cyfan, yn cael eu graddio'n fwy doniol na menywod.

Yna aethant ati i chwilio am restr hir o newidynnau dryslyd posibl a allai esbonio'r gwahaniaeth - y gwledydd o ble ddaeth y data, rhyw'r awduron oedd yn gwneud yr ymchwil, oedran y cyfranogwyr, p'un a oedd mwy o ddynion neu fenywod yn barnu'r hiwmor – ond gwnaeth hyn ddim gwahaniaeth i’w dadansoddiad.

Ychwanegodd Dr Greengross: “Mae hyn yn golygu, hyd eithaf ein gwybodaeth, ar gyfartaledd, ei bod yn ymddangos bod gan ddynion allu cynhyrchu hiwmor uwch na menywod. Wedi dweud hynny, nid yw'r ffaith ei bod yn ymddangos bod dynion, ar gyfartaledd, yn fwy doniol na menywod, yn awgrymu bod pob dyn yn fwy doniol na phob merch.

“Pam fyddai gan ddynion allu hiwmor uwch na menywod ar gyfartaledd? Mae'n bosibl bod y farn bod menywod yn llai doniol wedi treiddio mor bell nes bod grymoedd cymdeithasol yn darbwyllo merched a menywod rhag datblygu a mynegi eu hiwmor, gan olygu bod menyw yn llai tebygol o gael ei hystyried yn ddoniol. Fodd bynnag, prin yw'r dystiolaeth i gefnogi'r farn bod ein cymdeithas yn atal menywod rhag cynhyrchu ac arddangos hiwmor.

“Ar y llaw arall, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod hiwmor yn chwarae rhan fawr wrth chwilio am gymar, a bod sail esblygiadol gref i hynny. Mae cysylltiad cryf rhwng hiwmor â deallusrwydd, sy'n esbonio pam bod menywod yn gwerthfawrogi dynion â synnwyr digrifwch gwych, gan fod deallusrwydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer goroesi trwy gydol ein hanes esblygiadol pan oeddem yn byw mewn grwpiau helwyr-gasglwyr yn bennaf.”

“Mae’n well gan ddynion, ar y llaw arall, fenywod sy’n chwerthin ar eu hiwmor. Mae hynny'n golygu, dros ein hanes esblygiadol, ei bod yn debygol fod dynion wedi gorfod cystadlu'n galetach â dynion eraill i greu argraff ar fenywod â'u synnwyr digrifwch. Mae digon o dystiolaeth i gefnogi’r farn hon, gan ddangos pa mor bwysig yw hi i fenywod ddod o hyd i ddyn â synnwyr digrifwch gwych, tra bod dynion yn gyffredinol ddim yn rhoi gwerth uchel ar allu cynhyrchu hiwmor menywod.”

Cyhoeddwyd Sex differences in humor production ability: A meta-analysisar wefan y cyfnodolyn Journal of Research in Personality.

Yn ogystal, cyhoeddwyd blog gan Dr Gil Greengross Are Men Really Funnier Than Women? ar wefan Psychology Today.