Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: agor rhan gyntaf y buddosddiad £40.5m

Chwith i’r dde: John Berry, Aelod o Fwrdd ArloesiAber; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth; Paul Gemmill, UKRI-BBSRC; Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber; Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth; Bill Poll, UKRI-BBSRC yn nodi cwblhau rhan 1 o Gampws Arolesi a Menter Aberystwyth.

Chwith i’r dde: John Berry, Aelod o Fwrdd ArloesiAber; Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth; Paul Gemmill, UKRI-BBSRC; Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber; Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth; Bill Poll, UKRI-BBSRC yn nodi cwblhau rhan 1 o Gampws Arolesi a Menter Aberystwyth.

25 Hydref 2019

Agorwyd rhan gyntaf Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Jeremy Miles heddiw, ddydd Gwener 25 Hydref 2019.

Wedi’i leoli ar Gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn darparu cyfleusterau ac arbenigedd o safon byd ar gyfer y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod.

Yn ogystal, agorwyd dwy ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n rhan o’r datblygiad sydd wedi derbyn £20m o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Llywodraeth Cymru, £12m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnolegol (BBSRC) sydd yn rhan o UK Resaerch and Innovation – a £8.5m gan Brifysgol Aberystwyth.

Mae Canolfan BioburoArloesiAber yn cynnig cyfleusterau ymchwil a chynhyrchu er mwyn troi gwastraff llystyfiant a deunyddiau naturiol eraill yn gynhyrch diwydiannol megys plastigau, ychwanegion bwyd, cynhyrchion fferyllol a chemegau arbenigol. Mae hefyd yn gartref newydd i brosiect BEACON sy’n cael ei ariannu gan yr UE.

Mae Biobanc Hadau Prifysgol Aberystwyth yn gartref i 35,000 o fathau gwahanol o hadau sydd wedi eu casglu dros gyfnod o 100 mlynedd o bob cwr o’r byd, a’u cadw mewn amgylchedd y rheolir ei dymheredd.

Ymweld â'r Biobanc Hadau newydd

Dyma un o gasgliadau mwyaf a’r mwyaf amrywiol yn byd o hadau glaswelltau porthiant, meillion, ceirch a’r cnwd ynni Miscanthus ac mae’n darparu banc genetig amhrisiadwy i wyddonwyr sy’n datblygu mathau o gnydau newydd a all ffynnu mewn amodau tyfu cynyddol heriol oherwydd newid hinsawdd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles: “Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o gwrdd â her newid hinsawdd, ac i sicrhau'r budd mwyaf posibl ar gyfer lles Cymru wrth i ni newid i fod yn economi carbon isel. Rydym yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid i gyflawni hyn; drwy gefnogi arloesedd cynnyrch a thwf economaidd, a helpu i sicrhau swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl Cymru, tra’n gwneud defnydd llawn o’r adnoddau naturiol yn y rhanbarth.

“Mae cyllid yr UE wedi bod yn hanfodol wrth yrru cynnydd a sicrhau bod Cymru yn arwain ymchwil ac arloesi o safon byd, a dylai Cymru fod yn falch o’r cysylltiadau rydyn ni wedi’u hadeiladu rhwng academyddion o safon byd ac arbenigwyr mewn diwydiant.”

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae heddiw’n garreg filltir bwysig i Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth ac i gampws Gogerddan sydd ers saith deg mlynedd wedi sefydlu ei hun fel canolfan o ragoriaeth fyd-enwog ym maes bridio planhigion. Mae economi canol a gorllewin Cymru yn wynebu heriau sylweddol ac rwy'n falch iawn o weld dwy ganolfan bwysig yn cymryd eu lle wrth galon y datblygiad newydd hwn, y Biobanc Hadau sy’n darparu llyfrgell enetig hanfodol wrth i ni ddatblygu mathau newydd o gnydau a fydd yn ffynnu mewn a hinsawdd sy'n newid, a BEACON, sy'n cynnig ffyrdd o wneud cynhyrchion diwydiannol newydd a chyffrous sy'n fwy caredig i'r amgylchedd. Mae'r rhain a'r cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio rhwng gwyddonwyr a diwydiant yn y adnodd newydd cyffrous hwn yn hynod bwysig ar gyfer dyfodol yr economi wledig.”

Dywedodd Paul Gemmill, Prif Swyddog Gweithredol BBSRC: “Mae Canolfan Bioburo ArloesiAber yn enghraifft wych o sut y gallwn wthio ffiniau biowyddoniaeth a mynd i’r afael â materion cymdeithasol allweddol fel trawsnewid gwastraff llystyfiant a deunyddiau naturiol eraill yn ystod o gynhyrchion diwydiannol er mwyn adeiladu’r bioeconomi. Mae’r BBSRC yn falch o fod yn un o'r tîm o arianwyr ar gyfer y prosiect gwych hwn sy'n dod â busnes a'r byd academaidd ynghyd ac rydym yn edrych ymlaen at weld llwyddiannau’r dyfodol.”

Dywedodd Dr Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber: “Rydym yn falch iawn o gwblhau rhan gyntaf y Campws. Mae'r adeiladau newydd eisoes yn llenwi ag ymchwilwyr a gweithgaredd gydweithredol. Bellach gall staff Prifysgol Aberystwyth a'u partneriaid diwydianol weithio ar gynhyrchion a gwasanaethau newydd yn y cyfleusterau estynedig hyn - gan greu mwy fyth o effaith o'r wybodaeth sydd ar gael yma. Edrychaf ymlaen at groesawu cysylltiadau busnes newydd i fynd ar daith o amgylch yr adeiladau ac i drafod eu hanghenion datblygu a deor.”

Willmott Dixon sy’n adeiladu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth a’r mae’r gwaith ar ail ran y datblyiad eisoes wedi symud ymlaen yn sylweddol.

Wedi ei gwblhau ac yn gwbl weithredol erbyn haf 2020, mi fydd hefyd yn gartref i Ganolfan Wyddoniaeth Ddadansoddol, Canolfan Bwyd y Dyfodol ac yn Ganolfan Arloesi, gan ddarparu amgylchedd lle bydd cydweithio rhwng busnes a’r byd academaidd yn ffynnu.