Darlith Gyhoeddus ar waddol Chwiorydd Davies Gregynog
Margaret a Gwendoline Davies. Credyd: AmgueddfaCymru
22 Hydref 2019
Chwiorydd Davies Gregynog a’u cyfraniad rhyfeddol i’r celfyddydau ac addysg yng Nghymru fydd testun darlith gyhoeddus a draddodir gan Dr Jacqueline Jeynes yn yr Hen Goleg ddydd Llun, 4 Tachwedd 2019.
‘Women of the Century: The Davies Sisters and their Contribution to Arts and Education in Wales’ fydd y gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd i nodi canmlwyddiant yr Adran Dysgu Gydol Oes. Bydd yn edrych ar fywydau hynod ddiddorol Margaret a Gwendoline Davies a’u hymrwymiad i addysg a’r celfyddydau yng Nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
Mae Dr Jacqueline Jeynes yn awdur ac yn diwtor dysgu o bell yn yr Adran Dysgu Gydol Oes, sy’n arbenigo ym maes hanes celf ac agweddau hanesyddol ar gelfyddyd gyfoes.
Yn ei darlith, bydd Dr Jeynes yn trafod Plas Gregynog ym Mhowys lle’r oedd y chwiorydd Davies yn byw, a ddaeth yn ganolfan i gelfyddyd a llenyddiaeth ac yn gartref i gasgliad ysblennydd o ddarluniau gan Monet, Renoir, Picasso a Cezanne. Bydd hefyd yn sôn am Wasg Gregynog, sef un o gymynroddion mwyaf parhaol y chwiorydd, sydd yn dal ar waith ac yn defnyddio dulliau argraffu traddodiadol hyd y dydd heddiw.
Cynhelir y ddarlith ‘Women of the Century: The Davies Sisters and their Contribution to Arts and Education in Wales’ am 3.30pm ddydd Llun 4 Tachwedd 2019 yn Ystafell Seddon yr Hen Goleg. Mae mynediad am ddim a chroeso cynnes i unrhyw un a hoffai ddod.
Am 1pm yr un dydd, ceir cyfle i ymweld ag Oriel ac Amgueddfa’r Ysgol Gelf yn Adeilad Edward Davies, Buarth Mawr, i weld gweithiau gan Turner, Rossetti ac objet d'art o Gasgliad George Powell.
Sefydlwyd yr Adran Dysgu Gydol Oes, neu’r Adran Efrydiau Allanol fel yr oedd ar y pryd, ym 1919 felly y mae’n dathlu ei chanmlwyddiant eleni. Hon oedd yr adran gyntaf o’i math yng Nghymru a dim ond yr ail ym Mhrydain.
Heddiw, mae’r adran yn cynnig dewis eang o gyrsiau, o Ysgrifennu Sgriptiau i Fywyd Llonydd, o Amrywiaeth Planhigion i Bortreadu, o Hanes Lleol i Gerflunio Coed Helyg, a Ffrangeg i Seicoleg Fforensig.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i we-ddalennau’r adran, neu cysylltwch â ni trwy ffonio 01970 621580 neu e-bostio dysgu@aber.ac.uk.